Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Rwy’n ddiolchgar ichi am gytuno i fynychu cyfarfod trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ddydd Llun nesaf, a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar aelwydydd gwledig agored i niwed, gan gynnwys y rheini yng nghefn gwlad Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru. Ymhlith y rhain, mae tenantiaid sydd â'u nwy a’u trydan wedi’u cynnwys yn eu rhent yn debygol o fod wedi'u methu yn rownd olaf cynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru, oherwydd nad hwy oedd y talwr biliau ynni a enwyd yn eu cyfeiriad. Pa gamau, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i fynd i’r afael â hynny ar gyfer y rownd nesaf?