Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Mae'n siomedig gweld bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiddymu'r ddarpariaeth breifat ar gyfer plant yma yng Nghymru, o gofio ei bod yn ffurfio 80 y cant o'r sector. Yr hyn y dylai'r Llywodraeth fod yn canolbwyntio arno yw dod â'r plant mewn gofal allan o'r system i gartrefi sefydlog. A all y Gweinidog amlinellu pa broses sydd ar waith i gyfarfod â'r sector gofal preswyl preifat i blant a beth yw'r amserlen ar gyfer cynlluniau'r Llywodraeth? O ran eiriolaeth, pa mor hyderus yw'r Gweinidog y bydd y comisiynydd plant a benodwyd yn ddiweddar yn sefyll dros blant mewn gofal, o ystyried y cynnwys a welwyd ganddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn hanesyddol?