Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch, Lywydd. Er nad oes athrawiaeth absoliwt o wahanu pwerau yn y DU, mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng y ddeddfwrfa, h.y. y Senedd, y Weithrediaeth, h.y. Llywodraeth Cymru, a'r farnwriaeth wedi bod yn berthnasol ers tro byd yn y DU ac ar draws y DU i atal pŵer rhag cronni drwy ddarparu dulliau o gadw'r cydbwysedd—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn yn eich clywed yn glir iawn.