2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Er nad oes athrawiaeth absoliwt o wahanu pwerau yn y DU, mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng y ddeddfwrfa, h.y. y Senedd, y Weithrediaeth, h.y. Llywodraeth Cymru, a'r farnwriaeth wedi bod yn berthnasol ers tro byd yn y DU ac ar draws y DU i atal pŵer rhag cronni drwy ddarparu dulliau o gadw'r cydbwysedd—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn yn eich clywed yn glir iawn.
Nid oes angen i chi ei glywed. Parhewch â'ch cwestiwn.
Fis Medi diwethaf, gan gyfeirio at bapur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru i helpu i lunio Bil tribiwnlysoedd Cymru, a gynlluniwyd i reoleiddio un system ar gyfer tribiwnlysoedd, gofynnais i chi am eich ymateb cychwynnol i gynigion y papur ymgynghori i ddiwygio uned Tribiwnlysoedd Cymru, y rhan o Lywodraeth Cymru sy'n gweinyddu'r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd, i fod yn adran anweinidogol.
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad terfynol ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a oedd yn cynnwys
'rydym wedi ein hargyhoeddi mai model yr adran anweinidogol yw’r un y dylid ei fabwysiadu ar gyfer gweinyddu’r system tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol'.
Er ei fod hefyd yn nodi:
'Dylai’r gwasanaeth tribiwnlysoedd fod yn annibynnol yn weithredol ar Lywodraeth Cymru', nid yw eich datganiad ysgrifenedig dilynol ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ond yn datgan hyn:
'Mae Llywodraeth Cymru yn gryf ei chymeradwyaeth o egwyddor sylfaenol yr argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith, sef y dylid gweithredu un system sy’n annibynnol yn strwythurol ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru.'
Pa gasgliadau y daethoch iddynt erbyn hyn ar ôl ystyried canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â'r pwynt penodol hwn?
Wel, diolch am y cwestiwn. Rydych yn codi pwynt difrifol a phwysig iawn, ac unwaith eto rwyf am ymateb yn adeiladol iawn. Ymdriniwyd â rhai o'r materion sy'n codi o ddiwygio tribiwnlysoedd yn ein papur 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' wrth gwrs. Rhoddir ystyriaeth ar hyn o bryd i'r hyn y gallai strwythur Bil tribiwnlysoedd fod, yr hyn y gallai'r ddeddfwriaeth fod, sut y gallem weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith.
Efallai mai'r sicrwydd gorau y gallaf ei roi i'r Aelod ar hyn o bryd yw hwn: mae fy marn yn gadarn iawn mai'r hyn y byddem yn ei greu i bob pwrpas yw strwythur embryonig system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru. Byddem yn defnyddio'r rhan honno o'r system gyfiawnder sydd eisoes wedi'i datganoli ac yn ei hymestyn ymhellach i greu strwythur apeliadol. Felly, mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn gwbl sylfaenol, sef bod yn rhaid i'r rhan honno o'r system gyfiawnder fod yn annibynnol ar y Llywodraeth, nid cael ei gweld i fod yn annibynnol yn unig, ond i'r un graddau, ar wahân i'r Llywodraeth yn fy marn i. Wrth gwrs, mae yna gysylltiadau, fel sydd gennych gyda'r system gyfiawnder a chyda'r Llywodraeth ac mewn perthynas â'r cyllid, ond mae'n rhaid iddo fod yn fodel sy'n sicrhau gweithrediad annibynnol uned Tribiwnlysoedd Cymru, y rhan honno o'r system gyfiawnder, a bod y penodiadau iddi, ac yn ogystal, yn bwysig, llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a'r swyddogaethau y byddai'r person hwnnw'n eu cyflawni, unwaith eto yn rhai sy'n meddu ar egwyddorion sylfaenol llawn rheolaeth y gyfraith sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r farnwriaeth, a'r rhai sy'n gweithredu o'i mewn, fod yn annibynnol.
Diolch. Wel, gobeithio bod hynny'n golygu, fel y dywedasant, y bydd hynny'n sicrhau eu bod yn gweithredu'n annibynnol ar wleidyddion, yn enwedig.
Ond fel y dywedais yma ym mis Mawrth 2019 ar bwnc gwahanol, ni fyddai Papur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a oedd yn galw am barhau i fod yn aelod o farchnad sengl yr UE, yn golygu na fyddai gennym unrhyw reolaeth dros ein ffiniau, ein masnach a'n cyfreithiau, ac felly mewn enw'n unig y byddai gennym Brexit.
Wrth siarad yma yr wythnos diwethaf, canmolodd y Prif Weinidog rinweddau Cymru a'r DU oddi mewn i'r farchnad sengl, er ei fod yn ymddangos fel pe bai'n camu'n ôl o hyn ddoe ar ôl datganiad Keir Starmer fod Llafur wedi diystyru ailymuno â'r farchnad sengl fel polisi'r blaid, ond honnodd y gallai ddileu rhwystrau masnach a theithio er hynny. Pa gyngor y byddech chi'n ei roi felly fel Cwnsler Cyffredinol i'r Prif Weinidog a Mr Starmer ynghylch y rhwystrau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hyn?
Wel, y darn cyntaf o gyngor y byddwn yn ei roi yw y dylid cynnal pwysigrwydd cyfraith ryngwladol a rheolaeth y gyfraith. Yr ail ddarn o gyngor y byddwn yn ei roi yw gwrthwynebu a pheidio â chefnogi unrhyw ddeddfwriaeth sy'n tanseilio'r egwyddorion hynny, ac un ohonynt, yn amlwg, fyddai gwrthwynebu cyfeiriad y bil hawliau, sydd, mewn gwirionedd, yn trosglwyddo hawliau cyfreithiol i ddinasyddion o lysoedd y DU i Lys Hawliau Dynol Ewrop, felly mae'n symud i ffwrdd oddi wrth hawliau pobl mewn gwirionedd, ac yn ei hanfod, byddai'n sail i'r egwyddorion hynny ym mhob deddfwriaeth sydd gennym i sicrhau eu bod wedi'u hymwreiddio'n gyfansoddiadol ac i gefnogi'r camau sy'n angenrheidiol i alluogi'r gwledydd datganoledig—Seneddau datganoledig y Deyrnas Unedig—i allu sicrhau eu bod hefyd wedi'u hymwreiddio o fewn eu systemau cyfreithiol eu hunain.
Diolch—ymateb diddorol. Wrth gwrs, mae'r llys hawliau dynol y tu allan i strwythur yr UE yn llwyr ac fel y gwyddoch, chwaraeodd y DU ran annatod yn y gwaith o'i sefydlu, ond dyna ni.
Wel, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ceisio negodi cytundeb i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n bodoli er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer masnach heb lawer o wrthdaro a diogelu uniondeb marchnad sengl y DU—rhywbeth y byddai unrhyw Lywodraeth yn y DU yn wynebu rhwystrau yn ei gylch. Yn y cyfamser, onid yw'n wir yn y gyfraith, er nad yw'r gwaith wedi'i orffen a bod angen i'r DU weithredu ymhellach ac yn gyflymach i ddarparu cyfleoedd Brexit i'r DU gyfan, fod Llywodraeth y DU oherwydd Brexit wedi gallu cyflwyno'r brechlyn yn gynt nag unrhyw le yn Ewrop, wedi torri treth ar werth a biwrocratiaeth, wedi llwyddo i gael 73 o gytundebau masnach ac wedi cyhoeddi bod porthladdoedd rhydd newydd yn cael eu darparu, gan gynnwys un cychwynnol yng Nghymru? Ac ar ben hynny, onid yw'n wir hefyd fod y DU wedi cyrraedd y brig ar ddenu'r mwyaf o fuddsoddiad technoleg ariannol yn Ewrop gyfan, ac wedi cyrraedd y brig yn Ewrop a'r ail le y tu ôl i'r Unol Daleithiau yn rhyngwladol yn y mynegai cymell tawel byd-eang, ac yn arbennig, fod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021, gan gynnwys cynnydd o £51 miliwn i'r UE?
Wrth gwrs, cyfarfûm yn ddiweddar â'r Gweinidog Jacob Rees-Mogg er mwyn siarad am gyfreithiau'r UE a ddargedwir, y credaf fod eich cwestiwn yn dechrau ei nodi. Ac wrth gwrs, y Gweinidog cyfleoedd Brexit, a phe bai llyfr yn cael ei ysgrifennu am hynny, byddai'n sicr yn llyfr byr iawn yn wir—. Credaf fod nifer o'r pwyntiau a godwyd gennych yn ymwneud â phortffolios eraill, ond maent yn amheus iawn. I bob pwrpas, nid yw nifer llethol o'r cytundebau masnach y llwyddwyd i'w cael ond yn ailgreu'r cytundebau a oedd eisoes ar waith mewn cysylltiad â'r Undeb Ewropeaidd beth bynnag.
Rwyf am ddweud hyn: yn gyntaf, o ran cyfreithiau'r UE a ddargedwir, mae'n amlwg y bydd angen gwneud llawer iawn o waith yn hynny o beth. Rwyf wedi cael sicrwydd y bydd datganoli'n cael ei barchu. Rwy'n monitro hynny'n agos iawn i sicrhau, mewn meysydd datganoledig, fod pob un o'r oddeutu 2,000 o ddeddfau sydd wedi'u nodi hyd yn hyn, y rhai sy'n ymwneud â materion datganoledig yn rhai yr ymdrinnir â hwy yn y lle hwn ac sy'n gyfrifoldeb i'r lle hwn ac nad ydynt yn arwain at danseilio'r setliad datganoli. Nawr, credaf fy mod wedi cael sicrwydd i ryw raddau. Fe arhoswn i weld sut y caiff hynny ei weithredu. Mae hwn hefyd yn fater a godais yn ddiweddar yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, dan gadeiryddiaeth Michael Gove, a byddaf yn monitro hyn wrth gwrs, ac yn amlwg hefyd rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn craffu arno. Ond wrth gwrs, bydd unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Senedd hon.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mewn erthygl ddiweddar ar gyfer papur newydd The National, dywedodd un o academyddion blaenllaw Cymru, Richard Wyn Jones, nad oedd y ddadl am ddyfodol cyfansoddiad Cymru yn ddigon realistig. Er bod consensws cryf yng Nghymru am ragor o bwerau, meddai, mae'n amlwg nad oes awydd amdano yn Llywodraeth San Steffan a dywedodd nad oes tystiolaeth fod Keir Starmer yn cefnogi pwerau pellach i'r Senedd. Mewn gwirionedd, os y cofiaf yn iawn, dywedodd mewn cyfweliad i ITV nad oedd dan bwysau o gwbl i roi rhagor o bwerau i'r Senedd hon. Felly, pa mor sicr y gallwch fod, os neu pan ddônt i rym, y bydd Keir Starmer a'r Blaid Lafur yn San Steffan yn rhoi pwerau pellach i'r Senedd?
Wel, y peth cyntaf, mae llawer o'r newidiadau hynny'n dibynnu ar newid Llywodraeth. Mae'n debyg y gallaf ddweud bod hynny'n edrych yn fwyfwy tebygol yn ddyddiol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach—efallai'n fuan iawn hyd yn oed—i drafod diwygio cyfansoddiadol.
Mewn perthynas ag arweinydd y Blaid Lafur, wel, wrth gwrs, mae wedi grymuso Gordon Brown i baratoi comisiwn cyfansoddiadol. Mae adroddiad i'w ddisgwyl a fydd yn amlwg o ddiddordeb sylweddol i bob un ohonom yng Nghymru, o ran diwygio cyfansoddiadol. Ond mae'n wir hefyd nad yw diwygio cyfansoddiadol yn dod o'r hyn a benderfynir yn San Steffan neu o fewn y DU, a dyna pam fod gennym ein comisiwn annibynnol ein hunain, ac mae hwnnw yn ein galluogi i asesu ein hunain sut y dylai dyfodol Cymru fod, a chyflwyno hynny wedyn i bobl Cymru. Oherwydd mae unrhyw newid cyfansoddiadol sylweddol o'r math hwnnw yn y pen draw yn rhywbeth sy'n perthyn i berchnogaeth neu sy'n eiddo i bobl Cymru, ac sy'n cael ei benderfynu yn y pen draw gan bobl Cymru drwy ein hetholiadau ein hunain.
Cytunaf â chi, Gwnsler Cyffredinol: mae'r ateb yma yng Nghymru. Ac roeddwn braidd yn bryderus pan oedd y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fel pe bai'n awgrymu mai Llywodraeth Lafur yn San Steffan oedd yr ateb. Nawr, mae Brexit yn gwbl anghydnaws â chytundeb Dydd Gwener y Groglith ac mae'n arwain tuag at ailuno Iwerddon. Ni fydd arweinydd y Blaid Lafur yn cyfaddef bod Brexit yn drychineb. Ni fydd Llywodraeth San Steffan a Phlaid Lafur San Steffan yn caniatáu hunanbenderfyniaeth i bobl yr Alban. Mae Llywodraeth San Steffan yn ceisio diddymu deddfwriaeth sylfaenol Gymreig, tra bo'r arweinydd Llafur yn San Steffan yn gwahardd aelodau cabinet yr wrthblaid rhag cefnogi gweithwyr. Gwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n aelod o Lafur dros Annibyniaeth eto? [Chwerthin.]
Wel, diolch ichi am y cwestiwn difrïol iawn hwnnw, a rhoddaf ateb sydd efallai'n llai difrïol iddo. Y pwyntiau a wnewch am Brexit, nid wyf yn credu bod unrhyw anghydweld gwirioneddol ymhlith pobl resymol a diduedd nad yw Brexit wedi bod yn dda i Gymru, nad yw wedi bod yn dda i'r Deyrnas Unedig, ac nad yw wedi bod yn dda i Ewrop. Y cwestiwn cyfansoddiadol yw sut yr awn ati i ddatblygu masnach heb wrthdaro gydag Ewrop, sy'n rhywbeth yr ydym i gyd am ei weld, ac wrth gwrs, ymdriniodd y Prif Weinidog â hynny'n drwyadl iawn ddoe.
O ran y rheini sydd â hawl i fynychu llinellau piced, wel, roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Aelod ychydig yn ôl, yng ngorsaf Caerdydd, i gefnogi'r bobl yn y rhwydwaith rheilffyrdd a oedd yn gweithredu'n ddiwydiannol yn erbyn Network Rail, y cwmnïau rheilffyrdd, ac i bob pwrpas, yn erbyn Llywodraeth y DU, ond nid yn erbyn Llywodraeth Cymru.