Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:33, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mewn erthygl ddiweddar ar gyfer papur newydd The National, dywedodd un o academyddion blaenllaw Cymru, Richard Wyn Jones, nad oedd y ddadl am ddyfodol cyfansoddiad Cymru yn ddigon realistig. Er bod consensws cryf yng Nghymru am ragor o bwerau, meddai, mae'n amlwg nad oes awydd amdano yn Llywodraeth San Steffan a dywedodd nad oes tystiolaeth fod Keir Starmer yn cefnogi pwerau pellach i'r Senedd. Mewn gwirionedd, os y cofiaf yn iawn, dywedodd mewn cyfweliad i ITV nad oedd dan bwysau o gwbl i roi rhagor o bwerau i'r Senedd hon. Felly, pa mor sicr y gallwch fod, os neu pan ddônt i rym, y bydd Keir Starmer a'r Blaid Lafur yn San Steffan yn rhoi pwerau pellach i'r Senedd?