Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch am eich cwestiwn. Mae penderfyniadau ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yn fater i bobl Cymru benderfynu arnynt drwy'r Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd. Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru ac i ystyried opsiynau ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol.