Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:46, 6 Gorffennaf 2022

Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb. Does yna ddim amheuaeth fod yna gynnydd yn y niferoedd sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac mae llanast San Steffan yn amlygu'n ddyddiol pam na allwn ni barhau i fod yn yr undeb llwgr yma sy'n dangos cymaint o ddirmyg tuag at ein pobl.

Pe byddech chi wedi bod yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn, yna mi fyddech chi wedi teimlo gwefr ryfeddol efo'r ymdeimlad clir fod yna dwf amlwg yn y galw am annibyniaeth i Gymru. Yr hyn oedd yn drawiadol am orymdaith Wrecsam oedd nifer y bobl ifanc oedd yno a'r nifer fawr oedd yn dod o ardal y ffin yn galw am annibyniaeth, nid oherwydd cenedlaetholdeb gul a mewnblyg, ond oherwydd eu bod nhw am ymestyn gorwelion Cymru ac yn credu y gallwn ni adeiladu Cymru decach o gael y pwerau i wneud hynny. Ydych chi ddim yn ofni eich bod chi'n prysur osod eich hun ar yr ochr anghywir i hanes, ac y dylid paratoi am refferendwm ar annibyniaeth yma yng Nghymru, fel fydd yn yr Alban?