Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch am y cwestiwn. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ei bwriad i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn enghraifft arall eto o'i dirmyg tuag at y setliad datganoli, ei amarch tuag at y Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd, a'i diystyrwch amlwg o hawliau gweithwyr yng Nghymru.