Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:38, 6 Gorffennaf 2022

Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb. Mae'r ddeddfwrfa hon i fod yn sofran mewn meysydd penodol. Hynny ydy, boed yn gywir neu'n anghywir, ein dewis ni yn ein Senedd genedlaethol ni ydy i ddeddfu a gosod rhai rheolau. Dwi'n falch bod ein Senedd wedi penderfynu pasio Deddf i amddiffyn ein hundebwyr llafur, ond wrth gwrs, fel efo unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig arall, mae parhad y Ddeddf hon yn ddibynnol ar ewyllys da San Steffan. Ac fel rydyn ni wedi ei weld, does yna ddim llawer o ewyllys da yn bodoli yno.

Tra nad ydw i'n amau diffuantrwydd eich Prif Weinidog a'ch plaid wrth gyflwyno'r Ddeddf, ydych chi ddim yn meddwl ei fod yn safbwynt anghynaliadwy i ddweud mai'r unig ffordd o sicrhau parhad y Ddeddf hon, ac eraill, ydy i aros tan bod Llafur mewn grym unwaith eto yn San Steffan? Mae'r Ceidwadwyr wedi bod mewn grym yn San Steffan ers 70 mlynedd allan o 100 o flynyddoedd, ac felly, yn ystadegol o leiaf, does yna ddim llawer o sicrwydd yno. Oni fyddai hi'n well gwthio am annibyniaeth i Gymru er mwyn gwarantu'r hawliau yma a sicrhau rhagor o hawliau i weithlu Cymru?