Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Credaf fod yr effaith gronnol yn bwysig iawn, Gwnsler Cyffredinol. Rhoddwyd llawer o sylw i'r Bil Hawliau a'r effaith yma yn y Senedd heddiw, a hynny'n gwbl briodol, ond eto gallai'r holl ddeddfwriaeth DU, sydd wedi ei frysio a heb ei graffu'n effeithiol ar hyn o bryd, effeithio ymhellach ar fynediad dinasyddion unigol Cymru at gyfiawnder drwy leihau neu wadu'r cyfiawnder hwnnw i bobl fregus neu dlawd, i'r rhai sy'n anghytuno â safbwyntiau'r sefydliad ac sy'n ceisio'r hawl i brotestio ac i godi llais, i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel ac yn cyrraedd Cymru, ac eraill y mae eu lleisiau eisoes yn wan. Felly, rwyf am ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wneud asesiad clir o effaith gronnol yr holl ddeddfwriaeth hon yn y DU, deddfwriaeth lem y DU, a chyflwyno'r sylwadau cryfaf i Lywodraeth y DU, yn eich cyfarfodydd ac yn eich datganiadau cyhoeddus hefyd.