Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn dod yn fwyfwy gelyniaethus tuag at y proffesiwn cyfreithiol, yn enwedig y rheini sy'n eu dwyn i gyfrif drwy atal symud pobl yn anghyfreithlon o'r Deyrnas Unedig a'u dwyn i gyfrif am dramgwyddo hawliau dynol; hyn i gyd, hefyd, tra bo bargyfreithwyr troseddol ar streic. Yr incwm blynyddol canolrifol presennol i fargyfreithiwr troseddol yw £12,200, a hynny oherwydd blynyddoedd o doriadau i gymorth cyfreithiol gan y Llywodraeth Dorïaidd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Gwnsler Cyffredinol, fod cymorth cyfreithiol yn agwedd ar les; ers blynyddoedd, mae wedi bod yn codi'r gwastad i bobl fel y gallant gael cynrychiolaeth gyfreithiol dda. Fel swyddog cyfreithiol Llywodraeth Cymru, pan gaiff cyfiawnder ei ddatganoli i Gymru, a wnewch chi roi sicrwydd i ni y bydd cyfreithwyr yn cael eu parchu'n briodol ac yn cael eu talu'n briodol pan fydd hynny'n digwydd?