Sector Cyfreithiol Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:12, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi gwneud y pwynt droeon fod hygyrchedd y gyfraith yn bwysig tu hwnt, oherwydd yn y bôn mae'n ymwneud â hawliau unigolion a chymunedau; mae'n ymwneud â grymuso'r rheini yn ogystal. Wrth gwrs, rwyf bob amser wedi canmol yr elfennau hynny o'r proffesiwn cyfreithiol—y bar, cyfreithwyr, a'r paragyfreithwyr sy'n gweithio gyda Cyngor ar Bopeth—sy'n gweithio yn y maes ac sy'n gwneud eu gorau i roi cymorth i bobl yn y cymunedau.

Nid dyma'r cyfreithwyr bras y byddwch yn darllen amdanynt yn y papurau; nid dyma'r cyflogau y bydd rhai cyfreithwyr yng nghwmnïau corfforaethol Dinas Llundain yn dechrau arnynt, sef £120,000 y flwyddyn. Mae'r rhain yn bobl sy'n gwneud cyfraniad hollol ddilys i'n cymunedau; dyma'r sector yr ydym am ei ehangu a'i gynyddu ledled Cymru. Os nad yw cyfiawnder yn hygyrch i bobl, nid oes gennych gyfiawnder go iawn ac nid oes gennych ddemocratiaeth go iawn, felly rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau a wnaethoch.