Cyfarfodydd Hybrid ar Draws Ystâd y Senedd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:13, 6 Gorffennaf 2022

Mae gan bob ystafell bwyllgora ar ystâd y Senedd gyfleusterau i gefnogi cyfarfodydd hybrid. Yn yr un modd, mae gan ystafelloedd cyfarfod eraill offer ar gyfer cyfarfodydd hybrid llai ffurfiol neu ar raddfa lai. Mae gweithio hybrid wedi dod yn beth normal, ac mae'r Comisiwn yn bwriadu datblygu’r ddarpariaeth dechnegol a'i gwella ymhellach. Byddwn yn gwneud gwaith pellach dros yr haf a byddwn yn ychwanegu at y 12 ystafell sy’n gallu cynnal cyfarfodydd hybrid ar hyn o bryd.