4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal sydd wedi'u lleoli mewn llety heb ei reoleiddio a llety dros dro? TQ651
Mae ein deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio llety sy'n diwallu anghenion pobl ifanc â phrofiad o ofal yn unol â'u cynllun llwybr. Nid yw'n darparu ar gyfer lleoliadau heb eu rheoleiddio, ond gall fod adegau pan ddefnyddir y rhain fel ateb brys, a rhaid i ddarparwyr gael eu cymeradwyo i'r safonau gofynnol.
Diolch, Weinidog. Neithiwr clywsom am gyfweliadau brawychus, annymunol a thrist gyda phlant a phobl ifanc mewn gofal a oedd wedi dioddef yn sgil camfanteisio, cam-drin, trais a bygythiadau yn y darpariaethau gwely a brecwast a hosteli lle cawsant eu lleoli. Mae hyn chwe blynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru addo dileu'r defnydd o'r holl lety heb ei reoleiddio ar gyfer plant a phobl ifanc yn ein gofal. Dim ond drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth i bob cyngor y gwyddom bellach fod dros 300 o blant, gyda rhai ohonynt mor ifanc ag 11 oed, wedi'u rhoi mewn darpariaeth gwely a brecwast, hosteli neu fathau eraill o lety sy'n anniogel yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Mewn ymateb i fy ngalwadau am adolygiad annibynnol, gwahoddodd y Prif Weinidog yr Aelodau i amlinellu bylchau rhwng yr adolygiadau a gynhaliwyd, ac rwyf am amlinellu'r bylchau hynny, oherwydd gwyddom fod adolygiadau wedi'u cynnal yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid yng Nghymru. Atebodd fy swyddfa yr alwad honno a nododd fwy nag 20 o feysydd pwnc yn y gwasanaethau i blant sydd wedi'u hadolygu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, o edrych ar ddau o'r adroddiadau hynny'n unig, gyda'r cylchoedd gorchwyl ehangaf mewn gwirionedd, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac Arolygiaeth Gofal Cymru, clywsom mai dim ond 30 o bobl ifanc â phrofiad o ofal a dim ond chwe awdurdod lleol y cysylltwyd â hwy ac a gafodd eu cyfweld. Cymharwch hynny â Lloegr, lle gwerthuswyd 1,100 o ymatebion, a'r Alban, lle clywyd dros 5,500 o brofiadau.
A'r wythnos diwethaf rwy'n siŵr ein bod oll wedi digalonni pan glywsom am y dedfrydu yn dilyn llofruddiaeth greulon Logan Mwangi, a'r manylion a ddaeth allan o hynny hefyd. Rwyf am ei gwneud yn glir nad wyf yn beio neb mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw, a gwn na fyddai neb yma'n gwneud hynny. Nid yw hyn yn ymwneud â'r awdurdod lleol a oedd yn gyfrifol am ofal a diogelwch Logan, ond oni fyddech yn cytuno bod angen i ni yn y Senedd wybod bod y plant hynny'n cael eu diogelu. Mae angen inni glywed lleisiau'r bobl sy'n gweithio ym maes diogelu plant a gofal plant, a chlywed yr hyn sydd ei angen arnynt. Rydym yn gyfrifol am y plant a'r bobl ifanc hyn, ac yn fy marn i mae'n hanfodol inni gael adolygiad i ddweud wrthym beth yw'r problemau, pa gymorth sydd ei angen a sut y gallwn sicrhau nid yn unig fod gan ein gweithwyr cymdeithasol, ond y rhai sy'n gweithio ym mhob rôl ym maes diogelu plant a gofal plant yr adnoddau sydd eu hangen arnom.
Felly, Weinidog, rwy'n gorffen drwy ddweud: beth arall sy'n mynd i orfod digwydd er mwyn i Gymru fod yr un fath â phob gwlad arall a chael yr adolygiad annibynnol hwn a fydd yn ein helpu i gyd i sicrhau bod gennym y camau, yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ddiogelu ein plant a'n pobl ifanc? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Jane Dodds. Gwn pa mor fawr yw eich pryder ynglŷn â'r materion hyn, ac wrth gwrs mae mor ofidus clywed am Logan a chlywed am y bobl ifanc â phrofiad o ofal a gafodd sylw neithiwr ar y rhaglen ddogfen.
O ran ymchwiliad annibynnol i Logan, rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol y bydd adolygiad o ymarfer plant yn cael ei gynnal gan fod y dedfrydu wedi'i wneud erbyn hyn, a bydd yn cyflwyno adroddiad yn yr hydref. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn edrych ar yr hyn y mae'r adolygiad o ymarfer plant yn ei ddweud. Rydym am ddysgu gwersi o sut y digwyddodd hyn ac rydym am weld a oes unrhyw wersi ehangach y mae angen inni edrych arnynt. Felly, bydd yr adolygiad hwnnw o ymarfer plant yn digwydd, ac ers yr amgylchiadau trasig hyn, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal arolygiad o wasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym hefyd yn aros am y canlyniad hwnnw. Felly, rwy'n siŵr ei bod yn ymwybodol fod y rhain yn digwydd, a byddwn yn edrych ar y rheini'n ofalus iawn pan gânt eu cyhoeddi, a dylai hynny ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn.
Ar y sylwadau eraill, credaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn gwrando ar blant, ac yng Nghymru credaf fod gennym hanes da iawn o wrando ar blant. Rydym yn ariannu Voices from Care, sy'n dod atom ac yn dweud wrthym yn agored iawn beth yw eu barn. Mae gennym blant â phrofiad o ofal ar fwrdd goruchwylio ein rhaglen drawsnewid ar gyfer gwasanaethau plant. Rydym yn cynnwys plant â phrofiad o ofal yn y trafodaethau ar y warant isafswm incwm y byddwn yn ei chyflwyno. Mae gennym blant â phrofiad o ofal ar y bwrdd hwnnw—yr incwm cyffredinol. Ac rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod, yn y bôn, drwy ddarparu hynny, fod Cymru'n mynd ymhell ar y blaen i unrhyw wlad arall yn y byd gyda darparu cymorth ariannol i blant sydd â phrofiad o ofal. Felly, gobeithio y bydd yn cydnabod hynny. Felly, rydym yn gwrando ar blant. Ac ym mis Medi rydym yn cynnal uwchgynhadledd, sy'n uwchgynhadledd ar gyfer plant â phrofiad o ofal, lle byddwn yn gwrando ar yr hyn y mae plant sydd â phrofiad o ofal yn ei ddweud.
Ar lety, o'r plant â phrofiad o ofal a adawodd ofal rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, barnwyd bod 628 o blant, sef 95 y cant, mewn llety addas ar y dyddiad y daeth eu gofal i ben, ond roedd 5 y cant heb fod mewn llety addas. Ac yn amlwg, rwy'n credu mai'r straeon, yr hanesion a glywsom neithiwr, oedd rhai o'r 5 y cant hynny, ac yn amlwg mae'n 5 y cant yn ormod, ac rydym yn gweithio'n galed i weld bod eu sefyllfa'n gwella.
Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am adolygiad cyffredinol o wasanaethau plant ledled Cymru, a soniodd fy nghyd-Aelod amdano—Andrew R.T. Davies—ddoe ddiwethaf yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Fe'i codais yn y datganiad busnes. Mae Jane Dodds wedi sôn amdano mewn cwestiwn amserol heddiw, Ddirprwy Weinidog. Ac fel y nododd Jane Dodds, mae adolygiad yn cael ei gynnal yn Lloegr, yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ond dywedodd y Prif Weinidog nad oes angen un yng Nghymru. Ond gennym ni y mae'r gyfradd waethaf o blant sy'n derbyn gofal yn y DU. Rydych newydd ddweud i'r gwrthwyneb, gan ddweud bod gennym gyfradd dda, ond mae'r ystadegau'n dweud mai ni sydd â'r gyfradd waethaf o bob un o wledydd y DU. Felly, pam y mae Cymru'n eithriad i'r adolygiad mawr ei angen hwn pan fo'n eithriad o ran y gyfradd o blant sy'n derbyn gofal? A dylai achos trist Logan Mwangi ym Mhen-y-bont ar Ogwr sbarduno persbectif cenedlaethol i gael adolygiad o'r holl wasanaethau plant ar draws y 22 awdurdod lleol. Felly, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i edrych ar hyn eto, a gobeithio y gwelwn adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru, fel y gallwn gael trefn arnom ein hunain a pheidio â chael achosion fel un Logan Mwangi yn digwydd eto yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Gareth Davies. Hoffwn ei gywiro, ni ddywedais fod gennym gyfradd dda o blant mewn gofal. Credaf ei fod wedi camglywed. Dywedais fod gennym gyfradd dda o wrando ar blant. Mae gennym hanes da o wrando ar blant. Ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros y tair blynedd diwethaf i geisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal, oherwydd rydym yn cydnabod yn llwyr fod gennym ormod o blant mewn gofal yng Nghymru. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb Andrew R.T. Davies yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, un o'r ffyrdd yr ydym am fynd i'r afael â'r materion hyn yw drwy leihau nifer y plant sydd mewn gofal, oherwydd drwy roi mwy o gymorth i blant sydd ar gyrion gofal, helpu'r plant a'u teuluoedd, teimlwn y gallwn gadw llawer o blant allan o ofal, ac rwy'n credu mai dyna yw un o'n prif nodau—cadw plant allan o ofal. Ac rydym wedi bod â'r strategaeth leihau hon dros y tair blynedd diwethaf, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gyfradd bellach wedi dechrau gostwng, felly rydym ar y trywydd iawn, ond mae gennym lawer i'w wneud eto. Felly, yn sicr, nid wyf yn credu bod gennym hanes da o ran nifer y plant mewn gofal.
Ar yr adolygiad, fel y dywedais wrth ymateb i Jane Dodds, ceir adolygiad o ymarfer plant a fydd yn digwydd yn awr, a bydd hwnnw'n cyflwyno adroddiad yn yr hydref. Bydd yn rhaid inni weld beth sy'n deillio o'r adolygiad hwnnw o ymarfer plant, p'un a oes unrhyw faterion ehangach y mae angen eu codi ledled Cymru, a hefyd rydym yn aros am adroddiad AGC ar wasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, rydym yn aros i weld beth yw canlyniadau'r ddau. Mae gennym gynllun ar gyfer trawsnewid gwasanaethau plant. Rydym wedi ymrwymo arian iddo. Rydym yn gweithio arno ac rydym yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn bwrw ymlaen ac yn gweithredu ar y rheini, ac rydym yn sicr yn mynd i edrych yn ofalus iawn ar ganlyniad yr adolygiadau hyn.
Diolch i Jane Dodds am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn. Fel chithau, cefais fy mrawychu gan y rhaglen ddogfen. Rwy'n credu bod sylwadau Niall wedi aros gyda mi pan ddywedodd, 'Byddai carchar wedi bod yn well i mi.' Carchar yn well na rhywle lle roeddent i fod yn ddiogel. Hefyd, hoffwn ategu'r galwadau am adolygiad annibynnol o waith cymdeithasol plant. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol. Rydym yn eithriad, ac mae'r rhain yn arbenigwyr sy'n dweud wrthym—nid gwleidyddion sy'n pwyso am hyn; arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes yw'r rhain. Ac a gaf fi gymryd o'ch ymateb i Gareth Davies, felly, nad ydych yn diystyru'r angen yn awr, eich bod yn aros am y ddau adroddiad ac felly'n dal i fod yn agored i adolygiad annibynnol os na fyddwch yn fodlon â'r ddau adroddiad y cyfeirioch chi atynt? Credaf y byddai hynny'n gam i'w groesawu heddiw.
Ac os caf hefyd, gwyddom fod plant sy'n derbyn gofal yn arbennig o agored i niwed a bod canlyniadau'n rhy aml yn llawer gwaeth nag y byddem yn ei ddymuno, ac mae ymchwil ar gyfer adroddiad End Youth Homelessness Cymru, 'Don't Let Me Fall Through the Cracks', yn dangos y cysylltiadau rhwng profiad gofal a digartrefedd ymhlith pobl ifanc—gan adleisio'r galwadau a welsom gan y bobl ifanc ddoe. Dengys tystiolaeth fod angen inni allu targedu gwasanaethau arbenigol at y bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl o brofi digartrefedd ymhlith pobl ifanc, ac mae hyn yn rhan o'r agenda atal y cyfeirioch chi ati hefyd—pa mor bwysig yw hi ein bod yn cefnogi pobl fel nad ydynt yn mynd i mewn i'r system ofal. Ond ni allwn wadu bod pobl ifanc yn wynebu risgiau heddiw—fel y dywedoch chi, y 5 y cant hynny; mae'n nifer sylweddol o bobl ifanc yn syrthio drwy'r craciau. Felly, i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r canlyniadau i bobl ifanc mewn gofal, oherwydd, yn amlwg, mae llawer gormod yn y system heb y rhwyd ddiogelwch honno ar hyn o bryd?
Diolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn. O ran adolygiad, credaf fod ein safbwynt wedi’i nodi gan y Prif Weinidog, fel y gwnaeth yng nghwestiynau’r Prif Weinidog. Ond fel y dywedais, rydym yn edrych ar ganlyniad yr adolygiad ymarfer yn nes ymlaen eleni ac ar yr hyn y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei ddweud am y gwasanaethau cymdeithasol, a chawn weld a oes unrhyw wersi ehangach y mae angen i ni eu dysgu o hynny. Rydym wedi cael llawer o adolygiadau yng Nghymru. Rydym yn teimlo'n gryf y dylem fod yn parhau â'r camau yr ydym wedi'u dechrau i wella bywydau pobl ifanc â phrofiad o ofal ac i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt. Credaf ei bod yn bwysig sôn am y 95 y cant yr ystyrir bod ganddynt lety da sy’n saff, yn ddiogel ac yn fforddiadwy, gan fod llawer o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn cyflawni ac yn cael bywydau hapus, bodlon, felly ni fyddwn am i unrhyw un feddwl bod y straeon trasig a glywsom yn nodweddiadol, ond maent mor bwysig, a rhain yw'r 5 y cant y mae hi'n nodi bod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i'w helpu. Ac i adleisio unwaith eto, dyna pam ein bod yn dymuno lleihau nifer y plant sydd mewn gofal er mwyn inni allu darparu ein holl adnoddau ar gyfer plant y mae gwir angen iddynt fynd i mewn i ofal, i geisio sicrhau nad oes—wyddoch chi, i geisio rhoi'r bywydau gorau posibl iddynt.
Ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth yr ydym yn bryderus iawn yn ei gylch ac rydym yn darparu adnoddau sylweddol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Rhoesom £3.7 miliwn drwy’r grant cymorth ieuenctid, ac mae gennym swyddogion digartrefedd yn gweithio mewn timau ieuenctid er mwyn nodi pobl ifanc a allai fod mewn perygl. Ac rydym hefyd wedi rhoi £3.1 miliwn yn y gronfa arloesi ar gyfer pobl ifanc ddigartref, a chyda'r gronfa honno, rydym yn rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o ddarparu llety i bobl ifanc. Rydym hefyd, eleni, wedi darparu £60 miliwn ar gyfer tai a gofal, er mwyn darparu llety lle gall pobl ifanc sydd angen cymorth fyw'n annibynnol ond gyda chymorth. Felly, bydd y £60 miliwn hwnnw yn cael ei wario eleni ar ddarparu'r math hwnnw o lety. Ac yn gyffredinol, credaf fod gennym £197 miliwn mewn cymorth digartrefedd a thai eleni. Felly, credaf ein bod yn sicr wedi darparu'r arian, ac rydym yn sicr yn gweld ymatebion arloesol o ganlyniad i hynny, ond rwy’n derbyn pwyntiau Heledd yn llwyr, a chredaf fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i helpu'r 5 y cant hynny.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Bydd yr ail gwestiwn y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a galwaf ar Samuel Kurtz.