Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch. Hoffwn ateb y pwynt olaf. Soniais yn fy ateb i James Evans ein bod yn sefydlu rhai gweithgorau arbenigol, a bydd ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn weithgor arbenigol arall, gan y credaf eich bod yn llygad eich lle, mae'n hanfodol fod y cynllun yn gweithio ar gyfer ffermwyr cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Dyma’r tro cyntaf inni gael polisïau a phrotocolau a chynlluniau amaethyddol pwrpasol ar gyfer Cymru, felly mae'n debyg y bydd angen inni gael pethau’n iawn am ddau neu dri degawd, byddwn yn dweud. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn rhan o'r sgwrs honno. Bydd yna bedwar gweithgor arbenigol—tenantiaethau; ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid; busnesau fferm trawsffiniol; a thir comin—gan ei bod yn bwysig iawn inni ystyried yr holl safbwyntiau hynny.
Credaf mai egwyddor drosfwaol y cynllun yw eich bod yn cynhyrchu bwyd. Os nad ydych yn cynhyrchu bwyd, ni fyddwch yn y cynllun, felly rwy'n gobeithio bod hynny’n ateb eich cwestiwn. Rydym yn amlwg yn cydnabod bod cynhyrchu bwyd yn hanfodol i’n gwlad, ond mae’r cynllun hwn hefyd yn cydnabod bod yn rhaid inni ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur os ydym am gael y sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld. Fel y dywedais mewn ateb cynharach, credaf mai’r argyfyngau hynny yw’r bygythiad mwyaf i ddiogeledd bwyd byd-eang.
Fe sonioch chi am Cyswllt Ffermio, ac mae’n bwysig ei fod yn addas at y diben ac yn gallu ymdopi. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y buom yn edrych arno'n fanwl iawn, nid yn unig wrth baratoi'r cynllun hwn, ond dros y tair blynedd diwethaf, mae'n debyg, wrth inni gyflwyno'r polisi. Rydym wedi bod yn edrych ar Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein fel rhyw fath o fesur o sut y gwnaethom hynny i fwrw ymlaen â’r cynllun hwn hefyd.
Ar y 10 y cant, yn sicr, bydd modd cynnwys gwrychoedd. Mae'n debyg na fydd rhai ffermydd yn gallu cyrraedd 10 y cant, felly rheini yw'r ffermwyr y gobeithiaf y byddant yn cael trafodaethau gyda ni. Rydym yn gofyn i bob ffermwr gyrraedd 10 y cant, fel y gallwn rannu'r baich ledled Cymru er mwyn osgoi newid defnydd tir ar raddfa fawr. Fel y dywedaf, rydym am gadw ffermwyr ar y tir, felly mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn cael y sgyrsiau hynny. Er mwyn helpu i gyrraedd y targedau plannu coed, rydym yn mabwysiadu dull 'gwrychoedd ac ymylon' o gyflawni'r camau cyffredinol, felly byddwn yn cefnogi ffermwyr i integreiddio mwy o goed ar eu tir ac yn y system ffermio. Yn sicr, mae ffermwyr wedi dweud wrthyf eu bod yn awyddus i blannu mwy o wrychoedd, eu bod yn awyddus i blannu lleiniau cysgodi, a choed yng nghorneli caeau. Felly, dyna'r hyn y byddwn yn gweithio gydag ef. Ar hyn o bryd, rydym yn argymell caniatáu hyd at bum mlynedd i ffermwyr gyrraedd yr isafswm o 10 y cant. Credaf mai Sam Kurtz a soniodd am y goeden iawn yn y lle iawn; mae hynny'n wirioneddol bwysig, a bydd hynny'n rhan o'r gwaith hwnnw hefyd.