Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:43, 6 Gorffennaf 2022

Diolch i Sam Kurtz am gyflwyno'r cwestiwn yma heddiw. Ac ystyriwch lle roedden ni ryw bedair mlynedd yn ôl efo 'Brexit a'n tir'; mae yna sifft sylweddol wedi bod fan yma efo'r ieithwedd a'r dôn, ac mae hwnna i'w groesawu. Dwi'n falch hefyd o weld bod y bartneriaeth cydweithredu efo Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi arwain at sicrhau bod yna daliadau sefydlogrwydd am barhau yn ystod y cyfnod trosiannol tan 2029. Eto, mae hynny i'w groesawu yn gynnes. 

Ond, ac mae yna 'ond', mae angen i'r system newydd gydnabod y pwysigrwydd o rôl ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Dylai cynhyrchu bwyd fod yn un o'r deilliannau craidd, a dylid gwobrwyo ffermwyr am hyn. A fydd cynhyrchu bwyd felly yn rhan ganolog o unrhyw Fil newydd, ac yn un o'r deilliannau? Yn ogystal â hyn, fel rydyn ni wedi'i glywed, mae pwysigrwydd amaeth efo cymuned a diwylliant yn ganolog i ddatblygiad ein cenedl yma. A fydd diwylliant felly yn un o'r deilliannau craidd, ac a fydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am gynnal ein cymunedau a'n diwylliant?

Mae yna gryn sylw am yr angen i neilltuo tir ar gyfer coedwigaeth, dyfroedd a bywyd gwyllt. A wnewch chi sicrhau na fydd gofyn i ffermwyr neilltuo tir amaethyddol da ar gyfer hyn, ac, yn hytrach, y byddwch yn cydweithio efo ffermwyr i adnabod y tir mwyaf addas? Hefyd, oes yna hyblygrwydd o ran y canran o dir a fydd yn cael ei neilltuo? Ydych chi'n sôn am goedwigaeth, yntau ydych chi hefyd yn sôn am wrychoedd? Ydy tir brwynog yn cyfrif tuag at y 10 y cant o ddyfroedd er enghraifft?

Yn olaf, efo tua 30,000 o unedau fferm yma yng Nghymru, mi fydd yn bwysig sicrhau bod gan Cyswllt Ffermio yr adnoddau cywir i fynd i'r afael â'r gwaith ychwanegol. Pa adnoddau ychwanegol ydych chi am eu rhoi er mwyn sicrhau y gall Cyswllt Ffermio gyflawni eu gwaith? Ac, a fedrwch chi roi sicrwydd na fydd ffermwyr yn cael eu cosbi am fethiannau all ddod yn sgil diffyg capasiti o fewn Cyswllt Ffermio? Dwi'n gofyn hyn nid yn unig ar ran fi fy hun, ond fe ddaru hogyn ifanc o Ddyffryn Ardudwy, Nedw, godi rhai o'r pwyntiau yma efo fi ddoe a gofyn beth fyddai dyfodol ffermio iddo fo. Felly, mae'r cwestiynau yma'n bwysig i'r new entrants hefyd. Diolch.