Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
A wnewch chi gydnabod nad yw hyn yn ymwneud â pherchnogion ail gartrefi nad ydynt yn cofrestru eu cartref gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac sy'n osgoi'r dreth gyngor, a bod hyn yn ymwneud â busnesau lleol Cymru? A wnewch chi gydnabod bod pob busnes sydd wedi cysylltu â mi—ac mae cannoedd ohonynt wedi gwneud bellach—yn Gymry lleol, ac eithrio un, a anwyd yng Ngwynedd ac sy'n siarad Cymraeg, ond sydd i ffwrdd gyda'r fyddin ac sydd wedi cadw ei gartref er mwyn iddo allu dychwelyd iddo pan fydd yn gadael y fyddin ac ar wyliau?