Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch am y cyfraniad yna. Na, dydw i ddim yn derbyn hynny. Mae'r polisi yma ar gyfer cau'r loophole; dyna ydy'r pwynt. Bwriad y Gorchymyn hwn yr ydych chi fel Ceidwadwyr yn ceisio ei ddiddymu heddiw ydy cau'r bwlch, neu'r loophole, fel rydw i'n sôn, sydd yn y gyfraith.
Dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl resymol yn cytuno bod yna rywbeth sylfaenol anghywir am sefyllfa lle mae miloedd o fy etholwyr i—gweithwyr allweddol, nyrsys, ymladdwyr tân, gweithwyr siop, gweithwyr cyngor—yn byw mewn amodau annerbyniol neu'n methu â chael cartref o gwbl yn lleol, tra mae'r rheini sydd yn gallu fforddio ail gartref yn y cymunedau hynny yn medru chwarae'r system er eu budd eu hunain, a thra bod mwy a mwy o dai annedd mewn ardaloedd preswyl yn cael eu colli i'w defnyddio fel Airbnb ac ati. Airbnbs a'r platfformau hynny sydd yn bygwth cynaliadwyedd y sector llety gwyliau. Mae busnesau sefydlog ac aeddfed sydd wedi bod yn gweithredu ac yn cyfrannu at yr economi bellach yn gweld eu bodolaeth yn y fantol oherwydd y cynnydd aruthrol yma, efo nifer fawr o dai yn cael eu prynu fel asedau i'w gosod ar blatfformau fel Airbnb. Mae hyn yn tanseilio busnesau hirsefydlog.
Yn ogystal â hyn, does yna ddim math o reoleiddio ar y platfformau newydd yma. I bob pwrpas, gall unrhyw un osod eiddo ar y platfformau tra bod cwmnïau hirsefydlog sydd yn defnyddio darparwyr cyfrifol, sydd efo cydwybod gymunedol, fel Dioni, yn gorfod cyrraedd safonau penodol cyn cael eu llogi allan. Felly, rhaid peidio ag edrych ar y polisi 182 niwrnod ar ei ben ei hun. Mae'r polisi yma o 182 niwrnod yn rhan o becyn ehangach—yn yr achos yma'n benodol, y cyhoeddiad ddydd Llun am gyflwyno cyfundrefn drwyddedu statudol newydd i letyau gwyliau. Mae'r sector wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd, a rŵan, fel rhan o'r cytundeb cydweithio efo Plaid Cymru, rydyn ni'n gweld hyn yn cael ei gyflwyno o'r diwedd.
Dwi'n croesawu'r ymrwymiad mae'r Gweinidog wedi'i roi yn barod yn ei datganiad ysgrifenedig ar 24 Mai wrth gyflwyno'r Gorchymyn i gadw'r pecyn yn ei gyfanrwydd dan adolygiad, gan gynnwys sut y gellir defnyddio'r mesurau diweddaraf wrth iddynt ddod yn weithredol i gyflawni'r nod yn fwyaf effeithiol. Fel y dywedodd Adam Price, mae cydweithio rhwng pleidiau, a'r angen i weithredu'n gyflym i geisio gwneud gwahaniaeth ymarferol a chyflwyno datrysiadau ar unwaith i fethiannau sydd wedi bodoli ers degawdau yn y farchnad dai, yn gofyn am gyfaddawd a phragmatiaeth—cyfaddawd ynghylch defnyddio is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredu'n gyflym, tra'n cydnabod cyfyngiadau ehangach ein deddfwriaeth gynradd treth gyngor, a phragmatiaeth ynghylch parhau i fireinio wrth fynd yn ein blaenau, gan gynnwys cyn i'r Gorchymyn yma ddod yn weithredol fis Ebrill nesaf.
Dwi'n croesawu hefyd felly yr ymrwymiad gan y Llywodraeth i (1) edrych ar eithriadau penodol ar gyfer llety gwyliau go iawn cyn i'r Gorchymyn ddod yn weithredol fis Ebrill nesaf, a (2) i ddiwygio'r canllawiau i gadarnhau y gall cynghorau ddileu'r liability treth gyngor mewn rhai amgylchiadau. Gellir gwneud hyn i gyd heb daflu popeth allan drwy'r ffenest a chyn i'r newidiadau ddod i rym. Felly dwi'n galw ar Aelodau i wrthod y cynnig. Diolch yn fawr iawn.