Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod dros Orllewin De Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn? Mae'n deg dweud bod y sector twristiaeth yn hanfodol i gynifer o'n cymunedau, sydd wedi'u taro mor galed gan y pandemig ac sy'n pryderu'n fawr am effaith bosibl y rheoliadau hyn, fel y mae Tom Giffard a Sam Rowlands wedi'i fynegi'n huawdl. Yn wir, fel y nodwyd yn y dystiolaeth a ddarparwyd gan nifer o gyrff twristiaeth yng Nghymru, dim ond naw ymateb i ymgynghoriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar y cynigion hyn a oedd o blaid cynnydd yn y trothwy defnydd, ac rwy'n anobeithio ynghylch y diffyg dealltwriaeth o'n heconomi bwysig yng Nghymru a'r ffaith bod y materion hyn sy'n ymwneud â pherchnogaeth tai a busnesau yn cael eu cyfuno heb roi digon o ystyriaeth briodol i hynny.
Nid yw'n golygu bod y diwydiant yn erbyn y cynnydd yn y trothwy defnydd, ond y pryder yw y bydd cynnydd mor fawr yn y trothwy, fel y'i cynigiwyd gan y Llywodraeth, yn golygu y bydd yn rhaid i lawer mwy o fusnesau hunanddarpar dalu'r dreth gyngor, sef 300 y cant o'r cyfraddau arferol o bosibl yn y cymunedau hynny, rhywbeth nad yw llawer o'r busnesau hynny, sy'n dal i wella o effeithiau'r pandemig, yn gallu ei fforddio. Ceir pryderon hefyd ynghylch yr effaith y gallai'r argyfwng costau byw ei chael ar y sector twristiaeth, a allai amharu ymhellach ar allu busnesau i gyrraedd y trothwy newydd. Yn wir, mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru ac eraill wedi rhybuddio y gallai cynifer â 30 y cant o fusnesau hunanddarpar, fel y clywsom eisoes, gau neu werthu o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Nid yn unig y byddai hyn yn niweidio ein sector twristiaeth, ond byddai'n amlwg yn peryglu bywoliaeth a swyddi pobl. Felly, Ddirprwy Lywydd, credaf na ddylid gweithredu'r rheoliadau hyn ac y dylai'r Llywodraeth ailasesu ei safbwynt.
Fodd bynnag, os yw'r Llywodraeth a Phlaid Cymru yn glynu wrth eu safbwynt presennol, rwy'n llwyr gefnogi galwadau i gyflwyno eithriadau yn unol â'r ddeiseb bresennol a gyflwynwyd i'r Senedd gan nifer o sefydliadau twristiaeth. Yn benodol, rhaid cael proses apelio briodol yn ogystal ag eithriad ar gyfer tai i'w gosod sydd wedi'u cyfyngu gan ganiatâd cynllunio. Mae'r agwedd olaf hon yn rhywbeth sydd wedi bod yn destun pryder i nifer o fy etholwyr. A yw'n deg, mewn gwirionedd, y bydd busnesau gwledig, sydd wedi cael eu hannog i arallgyfeirio i'r sector twristiaeth, yn cael eu llyffetheirio gan reolau cynllunio fel na fyddent yn gallu newid defnydd eu llety pe na baent yn dymuno parhau yn y sector twristiaeth mwyach o ganlyniad i'r rheolau hyn?
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig ac yn erbyn y rheoliadau hyn, sy'n amlwg yn annoeth.