Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud y cynnig hwn yn ffurfiol drwy bwysleisio gwrthwynebiad parhaus fy mhlaid i’r cynnydd mympwyol i ardrethi annomestig busnesau hunanddarpar ledled Cymru. Ac rydym yn ochri gyda'r diwydiant ar y mater hwn. Credwn y byddai cynnydd o 70 diwrnod i 105 diwrnod er mwyn iddynt gyd-fynd â gofynion Cyllid a Thollau EM yn llawer mwy priodol na’r hyn a gynigir. Mae perygl y bydd y newid hwn yn y ddeddfwriaeth yn effeithio'n aruthrol ar y diwydiant hunanddarpar ledled ein gwlad. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU ac UK Hospitality Cymru wedi rhybuddio y gallai’r newidiadau treth orfodi cymaint â 30 y cant o fusnesau hunanddarpar i gau neu orfod gwerthu.
I roi rhywfaint o gyd-destun i’r newidiadau hyn: ar hyn o bryd, mae'n rhaid i eiddo hunanddarpar yng Nghymru fod ar gael i’w osod am o leiaf 140 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, a chael ei osod am 70 diwrnod er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes yn hytrach na’r dreth gyngor; o dan y cynigion newydd, mae'n rhaid i eiddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod a bod wedi'i osod am 182 diwrnod i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes—cynnydd aruthrol o 160 y cant. Bydd hyn yn effeithio'n niweidiol iawn ar allu busnesau i weithredu yng Nghymru ac yn niweidio ein heconomi, gyda llawer o fusnesau'n cael eu gorfodi i gau. Mae hyn, ynghyd â threth dwristiaeth bosibl a rhoi’r gallu i gynghorau gynyddu cyfraddau’r dreth gyngor hyd at 300 y cant ar y busnesau hyn nad ydynt yn gymwys, yn golygu bod yn rhaid iddynt wynebu ergyd driphlyg y mesurau, a fydd, i mi, yn mygu’r diwydiant a’n heconomi yng Nghymru o ganlyniad.
Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis bwrw ymlaen â chynlluniau treth, er iddynt dderbyn môr o dystiolaeth o effeithiau niweidiol gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU ac UK Hospitality Cymru, a arolygodd dros 1,500 o fusnesau llety hunanddarpar ledled Cymru. Dywedasant nad yw'r
'dull Cymru gyfan, un ateb sy'n addas i bawb, yn ystyried y gwahanol fathau o fusnesau sy’n gweithredu mewn blwyddyn dwristiaeth dymhorol yng Nghymru. Nid yw ychwaith yn ymateb i'r ffaith nad yw'r broblem y mae hyn yn bwriadu ei datrys yn effeithio ar Gymru gyfan, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i gydnabod.'
Yn yr ymgynghoriad ar y mater, a oedd yn edrych fel ymarfer ticio blychau, mae’n ddrwg gennyf ddweud, Weinidog, roedd y diwydiant twristiaeth yn cefnogi’r egwyddor o godi nifer y dyddiau y mae’n rhaid i eiddo (a) fod ar gael a (b) fod wedi'i ddefnyddio er mwyn bod yn fusnes dilys. Ymateb y mwyafrif i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd o ddiwedd y llynedd ymlaen, oedd codi’r trothwy defnydd o 70 diwrnod i 105 diwrnod, yn unol â gofynion CThEM—roedd hynny’n gynnydd o 50 y cant, a awgrymwyd gan aelodau o sector proffesiynol sy'n deall tueddiadau archebu, marchnata ac ymddygiad cwsmeriaid. Felly, hoffwn glywed, yn ymateb y Gweinidog, pam na wnaethant wrando ar eu hymgynghoriad eu hunain, a oedd yn amlwg yn cefnogi newid i 105 diwrnod.
Yn lle hynny, awgrymwyd y cynnydd hwn o 160 y cant gan naw ymatebwr yn unig, llai nag 1 y cant o'r cyfanswm. Mae hyn wedi bod yn sioc enfawr i'r diwydiant cyfan, nid y sector hunanddarpar yn unig. Er nad yw’r Llywodraeth yn rhwym i ddilyn yr hyn y mae ymgynghoriad yn dweud wrthi am ei wneud air am air, yn sicr, mae ganddi ddyletswydd i egluro pam ei bod wedi anwybyddu un yn llwyr. Nid yw hynny wedi’i ateb na’i esbonio’n ddigonol o hyd, ac mae’n dangos diffyg parch at bobl ledled y wlad sy’n haeddu esboniadau, yn hytrach na dim ond dictadau.
Mae Ashford Price, ysgrifennydd Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru yn credu y byddai oddeutu 1,400 o fusnesau yn mynd i'r wal oherwydd y newidiadau ac y byddai'n rhaid diswyddo miloedd o weithwyr yng Nghymru. Ychwanegodd,
'Bydd ardaloedd gwledig yn dlotach hefyd, oherwydd pan fydd gweithredwyr hunanddarpar dilys yn rhoi'r gorau i weithredu, bydd llai o dwristiaid yn gwario arian yn eu hardal yn ystod y tymor twristiaeth. Mae "arian twristiaid yr haf" yn helpu siopau, garejys a thafarndai lleol i oroesi'r gaeafau tawel hir mewn llawer o fannau gwledig.'
Dyna pam ei bod yn syndod gweld y Gweinidog yn dweud mai,
'Diben y newid yw helpu i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i gymunedau lleol, er enghraifft drwy gynyddu eu cyfraniad i’r economi leol'.
Bydd hynny’n ergyd mor chwerw i’r rheini yn y diwydiant sy’n cefnogi swyddi, cynnyrch a chadwyni cyflenwi lleol. Maent yn buddsoddi yn ein cymunedau, a bydd cynyddu’r trothwy drwy’r newid cosbol hwn yn taro economïau ledled y wlad. Mae angen inni gefnogi’r diwydiant, gan mai dyma un o’r diwydiannau yr effeithiwyd arnynt fwyaf drwy gydol y pandemig, yn hytrach na’u gwthio i’r cyrion a’u cosbi am ddiffygion hanesyddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag adeiladu tai.
Yn olaf, Lywydd, oherwydd y camau hyn gan y Llywodraeth, bydd nifer fawr o'r eiddo hunanddarpar hwn yn cael ei roi ar werth. Fodd bynnag, ni fyddai’r eiddo ar gael i’r rhan fwyaf o bobl leol eu prynu gan y byddai’r pris gofyn, yn ôl pob tebyg, y tu hwnt i’w cyrraedd. Felly, rwy’n annog Aelodau ar draws y Siambr i bleidleisio dros ddirymu heddiw, i ddangos ein bod yn sefyll gyda’r diwydiant ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y maent yn ei wneud i’n heconomi ledled Cymru. Diolch.