7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:35, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch hefyd i Luke Fletcher am gyflwyno’r pwnc hynod bwysig hwn i’w drafod yn y Senedd heddiw, ac wrth gwrs, rwy’n llwyr gefnogi bwriad cyffredinol y cynnig, sef caniatáu i fwy o bobl fwynhau’r gwmnïaeth y gall anifail anwes go iawn ei chynnig. Bu farw fy nghi yn ddiweddar, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod ar goll hebddo, felly rwy'n sicr yn deall y gwmnïaeth y gall anifail anwes o'r fath ei chynnig.

Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod gan bawb dai diogel, fforddiadwy sy'n diwallu eu hanghenion yn awr ac yn y dyfodol, ac rwy'n cytuno'n llwyr na ddylid cyfyngu ar ddewisiadau pobl ynglŷn â'r ffordd y maent yn byw am fod landlordiaid penodol yn ceisio gwahardd anifeiliaid anwes. Ond hoffwn nodi'r safbwynt presennol yn gywir, Ddirprwy Lywydd. Mae pwynt 2(a) yn y cynnig braidd yn aneglur, wrth alw am y

'cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU'.

Felly, er eglurder ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cytundeb tenantiaeth enghreifftiol sy’n cynnwys cymal ar gadw anifeiliaid anwes, ond mae landlord sy’n defnyddio cytundeb enghreifftiol yn gwbl rydd i ddileu’r cymal, gan nad oes unrhyw hawl statudol i gadw anifail anwes yn unrhyw le yn y DU, a bydd hynny’n dal yn wir ar ôl i’r contract enghreifftiol hwn gael ei roi ar waith. Felly, mae arnaf ofn nad ydynt yn gweld y golau, yn sydyn iawn, o ran bod yn llawer mwy goleuedig.

Yng Nghymru, bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cyflwyno gofyniad i bob cytundeb rhentu, neu gontract meddiannaeth, fel y’u gelwir o dan y Ddeddf, gael eu nodi’n ysgrifenedig, a bod contractau enghreifftiol ar gael i gynorthwyo gyda hyn. Eto, er nad yw'r Ddeddf rhentu cartrefi yn creu hawl statudol i gadw anifail anwes ar hyn o bryd, gellir cynnwys telerau ychwanegol yn y contractau meddiannaeth i'r perwyl hwn. Os oes un o'r telerau yn caniatáu i ddeiliad contract ofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes, ni all y landlord wrthod caniatâd yn afresymol, neu roi caniatâd ar sail amodau afresymol. Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 eisoes yn atal landlordiaid rhag gwrthod yn afresymol unrhyw gais rhesymol i ganiatáu i denantiaid fewnosod cymalau ychwanegol yn eu contract, ac mae hynny’n cynnwys cadw anifeiliaid anwes. Ac mae'n bwysig iawn cofio bod hyn eisoes yn gymwys i bob math o gontract neu gytundeb tenantiaeth, felly mae'r un mor berthnasol i dai cymdeithasol ag y mae i'r sector rhentu preifat. Fodd bynnag, mae deddfau diogelu defnyddwyr yn bŵer a gedwir yn ôl, felly byddwn yn aros i weld beth y mae cynnig Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y contract enghreifftiol yn ei wneud, ac a ydynt yn cryfhau hawliau o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr mewn gwirionedd, ond nid ydynt wedi dweud mai dyna sy'n digwydd hyd yn hyn, ac rydym yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa.

Yma yng Nghymru, mae Rhentu Doeth Cymru eisoes yn mynd ati'n weithredol i hyrwyddo canllawiau arferion da ‘Homes for All’ yr RSPCA, yn ogystal â’r cytundeb anifeiliaid anwes drafft rhad ac am ddim y gall landlordiaid a thenantiaid ei ddefnyddio ac y mae Jack Sargeant a minnau eisoes wedi’i drafod yn y Senedd. Mae cod ymarfer Rhentu Doeth Cymru hefyd yn annog landlordiaid ac asiantau i fod yn gymwynasgar â thenantiaid ag anifeiliaid anwes. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw broblemau o gwbl ar hyn o bryd pan fydd tenantiaid yn dymuno cadw anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o anifeiliaid anwes nad ydynt yn gathod a chŵn yn unig, felly, os dewch ar draws hynny eto, byddwn yn falch iawn o gael gwybod, gan na ddylai hynny fod yn digwydd. Rydym wedi dweud yn glir iawn wrth ddarparwyr y dylid croesawu anifeiliaid anwes oni bai fod rheswm penodol iawn pam na all yr anifail anwes penodol hwnnw neu'r llety penodol hwnnw ei gartrefu. Oherwydd mae rhai mathau o lety yn gwbl anaddas ar gyfer rhai anifeiliaid anwes, ond rydym yn disgwyl i ddarparwyr weithio gyda thenantiaid i ddod o hyd i ryw fath o ateb sydd o fudd i'r ddwy ochr pan fydd y mater yn codi, gan gynnwys chwilio am lety arall, yn amlwg.

Mae gan ddarparwyr tai cymdeithasol hefyd ddyletswydd gofal i bawb sy’n byw yn eu cymuned, felly bydd yna achosion lle na fyddant yn caniatáu rhai cŵn, er enghraifft, unrhyw gŵn a nodir yn Neddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976.

Rwyf hefyd yn cytuno’n llwyr, i lawer o bobl sy’n cael eu gorfodi i gysgu allan ar strydoedd ein trefi a’n dinasoedd—nad yw'n digwydd yng Nghymru bellach, os caf ddweud, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn darparu gwasanaethau i bawb sy’n ddigartref, felly mae hon yn sefyllfa wahanol iawn i'r briff y bydd yr Aelodau wedi'i gael, sy'n ymwneud yn bennaf â'r sefyllfa yn Lloegr, os caf yn eglur am hynny—. Ond serch hynny, mae ci neu anifail yn aml yn gydymaith hollbwysig i’w helpu i ymdopi â’r sefyllfa y maent ynddi, ac yn fuddiol iawn i iechyd meddwl, fel y nododd Sioned mewn perthynas â'r hwyaid. Felly, cytunaf na ddylai anifail anwes fod yn rhwystr iddynt rhag dod i mewn i wasanaethau, ac mae'n annerbyniol pan fo hynny'n digwydd.

Nawr, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn drwy gydol y pandemig ac yn syth ar ei ôl, a chan gynnwys gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin—mae pobl Wcráin yn arbennig o hoff o anifeiliaid anwes hefyd—i sicrhau bod cymaint o'n hosteli a'n darpariaeth frys ledled Cymru yn darparu ar gyfer anifeiliaid anwes. Nid yw'n bosibl mewn rhai mannau, ond lle mae'n bosibl, rydym wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid darparu ar gyfer anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, rydym yn cynnwys asesiad risg, ac mae'n rhaid gwneud hynny yn ôl disgresiwn y rheolwr prosiect ar y safle. Felly, nid wyf am fod yn negyddol o gwbl, gan fy mod yn gwbl gefnogol i'r hyn y ceisiwn ei gyflawni yma. Ond yn amlwg, os oes gennych bobl sydd wedi'u trawmateiddio a bod un ohonynt ofn cŵn, bydd problem fawr os oes ci yn y llety. Felly, mae'n rhaid inni gael ffordd gytbwys o sicrhau bod gennym ffyrdd o asesu risg sydd o fudd i’r ddwy ochr. Ac wrth gwrs, gall hynny fod yn rhwystr i rywun sydd eisiau mynediad i'r lloches neu'r gwasanaeth penodol hwnnw, felly mae'n ymwneud â cheisio cael y cydbwysedd cywir a'r hyblygrwydd cywir i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion unigolion. Ac yna, yn amlwg, y peth i'w ddweud yw bod llety brys, hostel, yn lle i fynd pan fetho popeth arall; nid ydym yn awyddus i bobl fod yno o gwbl, felly, yn amlwg, yr hyn y ceisiwn ei wneud yw cael y llety camu ymlaen gorau a'r tai hirdymor addas ar eu cyfer, a byddai hynny, wrth gwrs, yn caniatáu iddynt gadw eu hanifeiliaid anwes yn barhaol.

Felly, i grynhoi, rwy'n cytuno y dylid croesawu anifeiliaid anwes ym mhob math o lety, cyn belled â bod hynny'n briodol ar gyfer y tenant a’r anifail. Nid ydym yn credu bod angen deddfu, gan y credwn fod llawer o'r mesurau diogelu eisoes ar waith, ac mae gennym gydbwysedd da o ran asesu risg, ond os oes gan unrhyw Aelod enghraifft benodol o landlord cymdeithasol yn gwrthod anifeiliaid anwes heb fod angen, cysylltwch â mi gyda'r manylion hynny a byddwn yn gweithio gyda'r landlord cymdeithasol i sicrhau ein bod yn deall beth sy'n digwydd ac i sicrhau bod croeso i anifeiliaid anwes yn ein darpariaeth dai yng Nghymru. Diolch.