– Senedd Cymru am 4:25 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Eitem 7, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8038 Luke Fletcher
Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021;
b) cynnig cyfres o fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn cael eu trin yn annheg o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo;
c) caniatáu mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny;
d) ymestyn caniatáu anifeiliaid anwes mewn llochesi a llety i bobl ddigartref.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am neilltuo amser i'r cynnig hwn a diolch i'r Aelodau sydd eisoes wedi mynegi cefnogaeth. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Dogs Trust, Blue Cross a Cats Protection am eu cefnogaeth yn y cyfnod cyn y ddadl hon.
Amcangyfrifir bod tua hanner yr aelwydydd yng Nghymru yn berchen ar anifeiliaid anwes, ond yn y sector rhentu preifat mae tenantiaid yn aml yn sôn am waharddiadau cyffredinol ar gadw anifeiliaid anwes. Pan oeddwn i a fy mhartner yn ceisio rhentu lle, dywedodd yr asiant tai wrthym y byddai cael ci yn broblem enfawr. Mewn tai cymdeithasol, mae yna bolisi anifeiliaid anwes nad yw wedi cael ei ddatblygu'n ddigonol, tra bod pobl ddigartref yn wynebu'r penderfyniad rhwng cael llety diogel neu gadw eu hanifeiliaid anwes.
I'r rheini ohonom sy'n berchen ar anifail anwes—ac unwaith eto, mae'r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod fy mod yn berchen ar filgi bach—mae'n rhan fawr o'r teulu. Dyna pam y mae'r penderfyniadau y mae pobl yn cael eu gorfodi i'w gwneud mor dorcalonnus.
Wrth agor y ddadl hon, mae rhai pwyntiau rwyf eisiau sôn amdanynt. I ddechrau, ychydig iawn o resymau neu broblemau sydd yna na ellir eu datrys o ran pam na all rhywun fod yn berchen ar anifail anwes mewn llety rhent. Pan fyddwch yn chwilio am dŷ, mae bod yn berchen ar anifail anwes yn rhwystr ychwanegol sydd, i rai, yn anorchfygol. Mae Dogs Trust yn gweithredu prosiect Lets with Pets, sy'n ceisio annog landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i dderbyn tenantiaid ag anifeiliaid anwes a gwneud y gwaith o chwilio am dŷ yn haws i denantiaid, ac mae wedi bod yn orchwyl anodd iddynt.
Mae'n waeth byth pan edrychwch arno o safbwynt digartrefedd. Mae prosiect Hope, sydd eto'n cael ei redeg gan Dogs Trust, yn ceisio helpu pobl ddigartref gyda mynediad at wasanaethau a chymorth, ond unwaith eto, mae bod yn berchen ar anifail anwes yn rhwystr sylweddol. Mae'r rhan fwyaf o ddarpariaethau llety i bobl ddigartref yn amharod i roi lle i rywun sydd ag anifail anwes oherwydd y pryder y gallai fod angen ystafell arnynt am amser hir, o gofio'r anhawster i ddod o hyd i lety sy'n caniatáu anifeiliaid anwes yn y sector tai—cylch dieflig.
Mae'r frwydr honno, yn ei thro, yn cysylltu â'r argyfwng lles a wynebwn gyda llochesi anifeiliaid. Mae Dogs Trust ac achubwyr eraill yn aml yn dweud bod anawsterau i ddod o hyd i lety yn cael ei nodi fel rheswm pam fod pobl yn trosglwyddo eu hanifeiliaid iddynt.
Felly, beth allwn ni ei wneud? Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ddeddfu ynghylch cadw anifeiliaid anwes mewn eiddo ar rent. Mae'n rhaid i'r sefyllfa hon newid. Mae angen Deddf anifeiliaid anwes mewn tai ar Gymru. Hyd yn oed pe baem yn ychwanegu at Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, mae'r RSPCA, ymhlith eraill, wedi codi pryderon y byddai landlordiaid yn dal i wrthod anifeiliaid anwes. Maent yn gwneud hynny ar raddfa fawr yn barod, felly oni bai ein bod yn ei gwneud yn glir na allant wrthod heb reswm da, byddant yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn cytuno na allwch roi modfedd i landlordiaid.
Nid wyf yn dweud hyn yn aml, ond mae Llywodraeth y DU yn gwneud un peth yn iawn drwy ddeddfu i gryfhau hawliau perchnogion anifeiliaid anwes. Dyna'r union fath o beth y dylem fod yn ei wneud yma. Mae amser yn brin, a gwn fod nifer o Aelodau eisiau cyfrannu, ond hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Cefnogwch y cynnig i roi hawl i bawb gael cydymaith a chefnogwch y cynnig i'w gwneud yn haws i denantiaid a'r rhai sy'n profi digartrefedd gadw anifeiliaid sydd wedi dod yn aelodau o'u teuluoedd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Luke am gyflwyno'r ddadl hon. Diolch yn fawr iawn. Fe wyddoch i gyd fod gennyf filgi o'r enw Arthur. Nid wyf erioed wedi bod yn ddigartref, ond pe byddwn wedi bod yn y sefyllfa honno, nid wyf yn gwybod pa ddewis y byddwn yn ei wneud—naill ai cysgu yn rhywle lle na allwn fod gydag Arthur neu barhau i fod gydag ef a bod allan ar y stryd o bosibl. Dyna'r mater rwyf eisiau canolbwyntio arno, y bobl sy'n ddigartref, y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Luke, atynt.
Amcangyfrifir bod gan 10 y cant o'r bobl sy'n ddigartref anifeiliaid anwes, ac eto mae'r rhan fwyaf o lochesi i'r digartref a thai cymdeithasol yn gweithredu polisi 'dim anifeiliaid anwes' cyffredinol. Mae hwn yn amlwg yn rhwystr enfawr i'r rhai sy'n ceisio mynd i loches i'r digartref, sy'n golygu bod llawer yn cael eu gwrthod o lety ac yn cael eu gadael heb gartref. Er enghraifft, dim ond wyth hostel y gallai'r RSPCA eu nodi ledled Cymru sy'n gweithredu polisi sy'n ystyriol o gŵn. Mae hyn yn gadael pobl ddigartref mewn sefyllfa amhosibl ac mae hefyd yn golygu bod lles anifeiliaid mewn perygl hefyd.
Gwyddom pa mor bwysig yw cŵn yn arbennig i bobl ddigartref. Maent yn rhoi cymorth iddynt, cwmni, cynhesrwydd pan fydd hi'n oer a chyfle iddynt fod gyda rhywun sydd wedi bod drwy gymaint hefyd. Mae'n wirioneddol hanfodol ein bod yn ystyried rhoi'r gorau i'r polisi 'dim anifeiliaid anwes' hwn.
Mae gwaith ymchwil arall yn dangos nad oes yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi mynd i'r afael â mater anifeiliaid anwes yn eu strategaeth ddigartrefedd, felly, heb ymyrraeth llywodraeth genedlaethol yma yng Nghymru, nid yw'n ymddangos y bydd y mater yn cael sylw priodol, a bydd pobl sy'n ddigartref yn parhau i orfod ymdopi â heriau wrth gael gafael ar lety a'r dewis ofnadwy hwnnw.
Byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn ac rwy'n falch o weld y bydd Cymru, gobeithio, yn cymryd cam pwysig ymlaen drwy ddileu'r gwaharddiad cyffredinol hwn, sy'n sylfaenol annheg ac sy'n effeithio ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Gobeithio na fyddaf byth yn ddigartref yng Nghymru, ond os byddaf, gobeithio na fyddaf yn cael fy ngwahanu oddi wrth Arthur. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Luke am gyflwyno’r cynnig hwn. Mae'n un rwyf wedi'i gefnogi ers tro, ac yn wir, mae'r ddeiseb i'r Senedd i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes', a lofnodwyd gan fwy na 850 o bobl, yn tarddu o fy etholaeth i yng Ngogledd Cymru gan Sam Swash.
Ar lefel egwyddorol, mae'n gwbl annheg fod y gallu i fod yn berchen ar anifail anwes yn dibynnu, ar hyn o bryd, ar p'un a ydych yn berchen ar dŷ ai peidio. Mae diffyg deddfwriaeth sy'n gwahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' yn gosod cosb bellach ar y nifer cynyddol o bobl, yn enwedig pobl ifanc, nad ydynt yn gallu mynd ar yr ysgol dai. Byddai’n well gan y rhan fwyaf o’r bobl hyn gael eu cartref eu hunain, ond ni allant wneud hynny oherwydd anghydraddoldeb cyfoeth, prisiau tai uchel iawn a phrinder tai fforddiadwy. Maent yn aml yn cael eu gorfodi i rentu o anghenraid, gan dalu mwy mewn taliadau rhent nag y byddent mewn taliadau morgais, am fod ein system dai wedi torri i'r fath raddau. Ac mae cyfyngu ymhellach ar ryddid y grŵp hwn o bobl i fod yn berchen ar anifail anwes, a fyddai'n dod â chysur mawr iddynt, yn halen ar y briw.
Nid yw unrhyw gymdeithas sy’n rhoi cyfyngiadau ar hawliau pobl yn seiliedig ar eu gallu i fforddio eiddo yn un sydd â’r hawl i alw ei hun yn flaengar. Mae tenantiaid ac anifeiliaid anwes yn dioddef bob dydd ledled Cymru oherwydd y gwaharddiadau cyffredinol cosbol hyn ar anifeiliaid anwes. Y prif reswm a roddir dros roi cŵn mewn canolfannau ailgartrefu yw oherwydd newid yn amgylchiadau pobl, sef methu byw mewn eiddo rhent gydag anifail anwes. Mae’n gwbl amlwg fod y ddeddfwriaeth bresennol yn methu. Nid oedd annog landlordiaid i fod yn fwy cymwynasgar drwy rannu arferion gorau â hwy byth yn mynd i fynd i'r afael â'r broblem hon, fel yr amlygir yn y ffaith bod llai na 7 y cant o eiddo rhent preifat yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n gyfeillgar i anifeiliaid anwes—llai na 7 y cant.
Rwy'n aml yn clywed esgusodion am y niwed posibl y gallai anifeiliaid anwes ei wneud i eiddo rhent, ac eto ychydig iawn o denantiaid preifat sy’n berchen ar anifeiliaid anwes sy’n achosi difrod i’r eiddo y maent yn ei rentu—nid yw’n digwydd. Yn ychwanegol at hynny, yn ôl Shelter Cymru, nid yw 34 y cant o lety rhent preifat yng Nghymru yn bodloni'r safonau ar gyfer amodau byw boddhaol beth bynnag. Pan nad yw mwy na thraean o dai rhent preifat yng Nghymru yn bodloni safonau byw derbyniol, mae’n amlwg nad yw’r landlordiaid hyn yn ddarostyngedig i'r un safonau â thenantiaid, pan fydd tenantiaid yn cael eu cosbi'n llym ar sail digwyddiadau damcaniaethol, posibl.
Nid yw’r sefyllfa yng Nghymru yn un gynaliadwy mwyach, a chaiff hyn ei waethygu gan y ffaith bod Llywodraeth y DU, nad yw’n enwog am ei hagweddau blaengar, eisoes wedi deddfu i roi diwedd ar yr arfer hwn. A byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i roi cynnig Luke ar waith cyn gynted â phosibl i sicrhau nad ydym yn parhau i wahaniaethu yn erbyn tenantiaid ag anifeiliaid anwes yma yng Nghymru.
Un o'r darnau cyntaf o waith achos ces i ar ôl cael fy ethol oedd apêl am help gan fenyw oedd wedi cael ei hail-gartrefi a'i had-leoli yn sgil dianc o gamdriniaeth ddomestig. Roedd hi mewn cyflwr hynod fregus, wedi gorfod symud o'i chartref a'i chymuned i dref newydd, wedi gorfod symud ei merch i ysgol newydd, yn ceisio gwneud ffrindiau newydd ac ymdopi â'r trawma a ddioddefodd yn sgil trais domestig.
Roedd ganddi hi hwyaid, ac fe soniodd hi wrthyf i fod gwylio'r hwyaid a gofalu amdanynt yn ei helpu i ymdopi â'r straen meddyliol oedd arni, ond doedd y gymdeithas tai ddim yn fodlon iddi gadw'r hwyaid am eu bod yn cael eu cyfrif nid fel anifeiliaid anwes ond fel da byw.
Es i i'w gweld. Nifer fach o hwyaid bach oedd y rhain, wedi eu cadw yn lan ac yn ddestlus mewn cwt bach pwrpasol pert yn ei gardd gefn—anifeiliaid anwes oedd yn dod â phleser a chysur i berson bregus oedd dirfawr angen y pleser a'r cysur hwnnw. Dwi'n cofio hi'n dweud wrthyf i, 'Dwi'n cael fy nhrin yn wahanol gan nad ydw i'n medru fforddio prynu fy nghartref.'
Fe ildiodd y gymdeithas tai yn y pen draw, ar ôl i fi ymyrryd, ond faint yn fwy o bobl sy'n derbyn gorchmynion ac yn eu derbyn, heb y gallu na'r egni na'r wybodaeth o ran sut i'w herio? Pam ddylai rhywun sydd yn methu â fforddio prynu eu cartref, neu sydd wedi gorfod symud i gartref newydd am ba bynnag rheswm, gael eu hamddifadu o'r gwmnïaeth, o'r cymorth i iechyd meddwl, o'r pleser a'r cariad y gall anifeiliaid anwes eu darparu? Rwy'n eich annog chi i gefnogi'r cynnig hwn a fyddai'n sicrhau bod pawb yn gallu elwa o gadw anifail anwes, beth bynnag eu hamgylchiadau.
Codaf heddiw i siarad o blaid y cynigion hyn a byddaf yn pleidleisio o’u plaid heddiw. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod hyn yn destun deiseb, fel y mae Carolyn Thomas wedi’i ddweud, ac mae fy mhwyllgor yn dal i ystyried hynny, felly mae hynny'n dangos nad diddordeb gwleidyddol yn unig sydd yna yn y mater hwn; mae diddordeb cyhoeddus amlwg yng Nghymru ynddo. Bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol fy mod wedi gweithio yn y Senedd flaenorol gyda nifer o sefydliadau fel y Dogs Trust, fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, fel y Wallich a’r Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl, a llawer o sefydliadau eraill, i gyflwyno 'pawlicy', fel y'i gelwais bryd hynny, sy'n ystyriol o anifeiliaid anwes. Prif ffocws y ddogfen honno oedd sicrhau nad oes unrhyw rwystrau ychwanegol i bobl ddigartref sy'n berchen ar anifeiliaid anwes rhag dod o hyd i lety addas.
Dechreuodd fy niddordeb yn hynny pan gysgais ar y stryd yng Nghaer un noson, ac nid yw’r dewis hwnnw rhwng cael anifail anwes, sef eich unig gydymaith yn aml, fel y dywedodd Jane Dodds, neu gael to uwch eich pen, yn un y dylai unrhyw un ei wynebu yng Nghymru; nid yw’n un y dylai unrhyw un ei wynebu yn y Deyrnas Unedig. Cyfarfûm ag unigolyn y noson honno a oedd wedi gwneud y dewis hwnnw, a chysgodd gyda'i anifeiliaid anwes ar strydoedd Caer ar noson arw o aeaf. Gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn amau'n fawr y gwelaf yr unigolyn hwnnw eto, na'i anifail anwes.
Felly, Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb. Gwn fod amser yn brin, ond hoffwn pe gallech fynd i’r afael â rhai o’r problemau y bydd y rheini sy’n cysgu allan yn enwedig yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Hefyd, a wnewch chi ystyried y cynigion a gyflwynwyd gan Luke Fletcher, ond a wnewch chi hefyd ymrwymo i ailedrych ar y ddogfen 'pawlicy' sy'n ystyriol o anifeiliaid anwes, y byddwn yn fwy na pharod i'w rhannu eto gyda'r Llywodraeth, i weld a allwn wella'r cynigion hyn ar ran y bobl sy'n caru eu hanifeiliaid anwes ac sy'n haeddu to cynnes uwch eu pennau dros y blynyddoedd i ddod? Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch hefyd i Luke Fletcher am gyflwyno’r pwnc hynod bwysig hwn i’w drafod yn y Senedd heddiw, ac wrth gwrs, rwy’n llwyr gefnogi bwriad cyffredinol y cynnig, sef caniatáu i fwy o bobl fwynhau’r gwmnïaeth y gall anifail anwes go iawn ei chynnig. Bu farw fy nghi yn ddiweddar, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod ar goll hebddo, felly rwy'n sicr yn deall y gwmnïaeth y gall anifail anwes o'r fath ei chynnig.
Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod gan bawb dai diogel, fforddiadwy sy'n diwallu eu hanghenion yn awr ac yn y dyfodol, ac rwy'n cytuno'n llwyr na ddylid cyfyngu ar ddewisiadau pobl ynglŷn â'r ffordd y maent yn byw am fod landlordiaid penodol yn ceisio gwahardd anifeiliaid anwes. Ond hoffwn nodi'r safbwynt presennol yn gywir, Ddirprwy Lywydd. Mae pwynt 2(a) yn y cynnig braidd yn aneglur, wrth alw am y
'cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU'.
Felly, er eglurder ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cytundeb tenantiaeth enghreifftiol sy’n cynnwys cymal ar gadw anifeiliaid anwes, ond mae landlord sy’n defnyddio cytundeb enghreifftiol yn gwbl rydd i ddileu’r cymal, gan nad oes unrhyw hawl statudol i gadw anifail anwes yn unrhyw le yn y DU, a bydd hynny’n dal yn wir ar ôl i’r contract enghreifftiol hwn gael ei roi ar waith. Felly, mae arnaf ofn nad ydynt yn gweld y golau, yn sydyn iawn, o ran bod yn llawer mwy goleuedig.
Yng Nghymru, bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cyflwyno gofyniad i bob cytundeb rhentu, neu gontract meddiannaeth, fel y’u gelwir o dan y Ddeddf, gael eu nodi’n ysgrifenedig, a bod contractau enghreifftiol ar gael i gynorthwyo gyda hyn. Eto, er nad yw'r Ddeddf rhentu cartrefi yn creu hawl statudol i gadw anifail anwes ar hyn o bryd, gellir cynnwys telerau ychwanegol yn y contractau meddiannaeth i'r perwyl hwn. Os oes un o'r telerau yn caniatáu i ddeiliad contract ofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes, ni all y landlord wrthod caniatâd yn afresymol, neu roi caniatâd ar sail amodau afresymol. Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 eisoes yn atal landlordiaid rhag gwrthod yn afresymol unrhyw gais rhesymol i ganiatáu i denantiaid fewnosod cymalau ychwanegol yn eu contract, ac mae hynny’n cynnwys cadw anifeiliaid anwes. Ac mae'n bwysig iawn cofio bod hyn eisoes yn gymwys i bob math o gontract neu gytundeb tenantiaeth, felly mae'r un mor berthnasol i dai cymdeithasol ag y mae i'r sector rhentu preifat. Fodd bynnag, mae deddfau diogelu defnyddwyr yn bŵer a gedwir yn ôl, felly byddwn yn aros i weld beth y mae cynnig Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y contract enghreifftiol yn ei wneud, ac a ydynt yn cryfhau hawliau o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr mewn gwirionedd, ond nid ydynt wedi dweud mai dyna sy'n digwydd hyd yn hyn, ac rydym yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa.
Yma yng Nghymru, mae Rhentu Doeth Cymru eisoes yn mynd ati'n weithredol i hyrwyddo canllawiau arferion da ‘Homes for All’ yr RSPCA, yn ogystal â’r cytundeb anifeiliaid anwes drafft rhad ac am ddim y gall landlordiaid a thenantiaid ei ddefnyddio ac y mae Jack Sargeant a minnau eisoes wedi’i drafod yn y Senedd. Mae cod ymarfer Rhentu Doeth Cymru hefyd yn annog landlordiaid ac asiantau i fod yn gymwynasgar â thenantiaid ag anifeiliaid anwes. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw broblemau o gwbl ar hyn o bryd pan fydd tenantiaid yn dymuno cadw anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o anifeiliaid anwes nad ydynt yn gathod a chŵn yn unig, felly, os dewch ar draws hynny eto, byddwn yn falch iawn o gael gwybod, gan na ddylai hynny fod yn digwydd. Rydym wedi dweud yn glir iawn wrth ddarparwyr y dylid croesawu anifeiliaid anwes oni bai fod rheswm penodol iawn pam na all yr anifail anwes penodol hwnnw neu'r llety penodol hwnnw ei gartrefu. Oherwydd mae rhai mathau o lety yn gwbl anaddas ar gyfer rhai anifeiliaid anwes, ond rydym yn disgwyl i ddarparwyr weithio gyda thenantiaid i ddod o hyd i ryw fath o ateb sydd o fudd i'r ddwy ochr pan fydd y mater yn codi, gan gynnwys chwilio am lety arall, yn amlwg.
Mae gan ddarparwyr tai cymdeithasol hefyd ddyletswydd gofal i bawb sy’n byw yn eu cymuned, felly bydd yna achosion lle na fyddant yn caniatáu rhai cŵn, er enghraifft, unrhyw gŵn a nodir yn Neddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976.
Rwyf hefyd yn cytuno’n llwyr, i lawer o bobl sy’n cael eu gorfodi i gysgu allan ar strydoedd ein trefi a’n dinasoedd—nad yw'n digwydd yng Nghymru bellach, os caf ddweud, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn darparu gwasanaethau i bawb sy’n ddigartref, felly mae hon yn sefyllfa wahanol iawn i'r briff y bydd yr Aelodau wedi'i gael, sy'n ymwneud yn bennaf â'r sefyllfa yn Lloegr, os caf yn eglur am hynny—. Ond serch hynny, mae ci neu anifail yn aml yn gydymaith hollbwysig i’w helpu i ymdopi â’r sefyllfa y maent ynddi, ac yn fuddiol iawn i iechyd meddwl, fel y nododd Sioned mewn perthynas â'r hwyaid. Felly, cytunaf na ddylai anifail anwes fod yn rhwystr iddynt rhag dod i mewn i wasanaethau, ac mae'n annerbyniol pan fo hynny'n digwydd.
Nawr, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn drwy gydol y pandemig ac yn syth ar ei ôl, a chan gynnwys gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin—mae pobl Wcráin yn arbennig o hoff o anifeiliaid anwes hefyd—i sicrhau bod cymaint o'n hosteli a'n darpariaeth frys ledled Cymru yn darparu ar gyfer anifeiliaid anwes. Nid yw'n bosibl mewn rhai mannau, ond lle mae'n bosibl, rydym wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid darparu ar gyfer anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, rydym yn cynnwys asesiad risg, ac mae'n rhaid gwneud hynny yn ôl disgresiwn y rheolwr prosiect ar y safle. Felly, nid wyf am fod yn negyddol o gwbl, gan fy mod yn gwbl gefnogol i'r hyn y ceisiwn ei gyflawni yma. Ond yn amlwg, os oes gennych bobl sydd wedi'u trawmateiddio a bod un ohonynt ofn cŵn, bydd problem fawr os oes ci yn y llety. Felly, mae'n rhaid inni gael ffordd gytbwys o sicrhau bod gennym ffyrdd o asesu risg sydd o fudd i’r ddwy ochr. Ac wrth gwrs, gall hynny fod yn rhwystr i rywun sydd eisiau mynediad i'r lloches neu'r gwasanaeth penodol hwnnw, felly mae'n ymwneud â cheisio cael y cydbwysedd cywir a'r hyblygrwydd cywir i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion unigolion. Ac yna, yn amlwg, y peth i'w ddweud yw bod llety brys, hostel, yn lle i fynd pan fetho popeth arall; nid ydym yn awyddus i bobl fod yno o gwbl, felly, yn amlwg, yr hyn y ceisiwn ei wneud yw cael y llety camu ymlaen gorau a'r tai hirdymor addas ar eu cyfer, a byddai hynny, wrth gwrs, yn caniatáu iddynt gadw eu hanifeiliaid anwes yn barhaol.
Felly, i grynhoi, rwy'n cytuno y dylid croesawu anifeiliaid anwes ym mhob math o lety, cyn belled â bod hynny'n briodol ar gyfer y tenant a’r anifail. Nid ydym yn credu bod angen deddfu, gan y credwn fod llawer o'r mesurau diogelu eisoes ar waith, ac mae gennym gydbwysedd da o ran asesu risg, ond os oes gan unrhyw Aelod enghraifft benodol o landlord cymdeithasol yn gwrthod anifeiliaid anwes heb fod angen, cysylltwch â mi gyda'r manylion hynny a byddwn yn gweithio gyda'r landlord cymdeithasol i sicrhau ein bod yn deall beth sy'n digwydd ac i sicrhau bod croeso i anifeiliaid anwes yn ein darpariaeth dai yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar Luke Fletcher i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb ac i Aelodau o bob rhan o'r Siambr am eu cyfraniadau. Credaf fod cytundeb trawsbleidiol, gobeithio, fod angen gweithredu yma. Rwyf bob amser yn clywed llawer am Arthur. Nid wyf wedi cyfarfod ag Arthur eto, ond credaf fod y pwynt a wnaeth Jane, a Jack hefyd, ynghylch digartrefedd a phobl ddigartref a chanddynt anifeiliaid anwes yn bwynt pwysig iawn. I lawer o'r bobl ddigartref hyn sy'n berchen ar anifeiliaid anwes, gwyddom mai'r anifail anwes hwnnw yw eu byd. Byddent yn rhoi'r anifail anwes cyn eu hunain. Gwn am lawer sy'n bwydo eu hanifeiliaid anwes cyn eu bod yn bwydo'u hunain. A dyna pam fod y mater arbennig hwn yn dorcalonnus, pan feddyliwn am y ffaith bod y bobl hyn yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd lle mae'n rhaid iddynt roi'r gorau i'w hanifail anwes er mwyn cael llety diogel. Felly, mae angen mynd i’r afael â hynny fel mater o flaenoriaeth. Ac mae’r ffigur o wyth hostel yn unig ledled Cymru yn ffigur gwirioneddol syfrdanol.
Unwaith eto, gan gyfeirio at Jack fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau—gobeithio nad wyf wedi achub y blaen ar unrhyw beth yma—fel cyd-aelod o’r Pwyllgor Deisebau, ac wrth gwrs, Carolyn hefyd, gan dynnu sylw at y ddeiseb a oedd gerbron y pwyllgor, a gyflwynwyd gan Sam Swash. Credaf fod hynny wedi dangos yr awydd am hyn y tu allan i’r Senedd. Felly, unwaith eto, nid galwad wleidyddol yn unig, ond rhywbeth y credaf fod y bobl y tu allan i'r Senedd am ei weld hefyd. A Sioned hefyd, rwy'n credu, gyda’r pwynt pwysig a wnaeth ynglŷn â'i hetholwr a’i hwyaid, gan y credaf ei bod yn bwysig inni gofio, pan fyddwn yn sôn am anifeiliaid anwes, nad sôn am gathod a chŵn yn unig a wnawn, rydym yn sôn am amrywiaeth eang o wahanol anifeiliaid. Ac roedd yn bwynt pwysig ynghylch pam y dylai pobl—. Roedd y pwynt a wnaeth Sioned yn bwysig, o ran pam y dylai pobl nad ydynt yn byw yn eu cartrefi eu hunain gael eu hatal rhag cael eu cydymaith eu hunain, fel llawer o bobl eraill—dros hanner aelwydydd Cymru.
Ar ymateb y Gweinidog, rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth y Gweinidog mewn egwyddor i’r syniad y dylid caniatáu i bobl gael anifeiliaid anwes boed eu bod yn eu cartref eu hunain neu mewn llety rhent. Credaf fod angen deddfu. Amlinellais rai o’r rhesymau hynny yn fy araith agoriadol. Nid fi yn unig sy'n dweud hynny; mae'r RSPCA yn dweud hynny hefyd. Ymddengys bod Llywodraeth y DU yn credu bod angen deddfu hefyd. Maent yn dechrau deddfu ar y pwynt penodol hwn. Oherwydd rwy’n cytuno â’r Gweinidog ar y cytundeb tenantiaeth enghreifftiol. Mae braidd yn aneglur, ond dywedir wrthyf fod rhagor o ddeddfwriaeth ar y gweill. Credaf efallai mai hwn yw'r tro cyntaf ers cael fy ethol imi ddweud fy mod yn cytuno â rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, felly gobeithio bod y Torïaid Cymreig yn gwerthfawrogi'r foment hon. Ond unwaith eto, mae'r RSCPA hefyd yn dweud hyn. Ymddengys bod datgysylltiad braidd rhwng yr hyn y mae’r Llywodraeth yn dweud sydd ar waith i atal pobl rhag gwahardd anifeiliaid anwes mewn llety rhent a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Er ein bod yn anghytuno, credaf fod lle i barhau i drafod, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Llywodraeth, gyda’r Gweinidog, ar y pwynt penodol hwn. A gobeithio, fel carfan drawsbleidiol o Aelodau yn y Senedd hon, y gall pob un ohonom weithio ar hyn wrth symud ymlaen, gan fod galw amlwg amdano.
Felly, i gloi, hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais i ddechrau yn fy araith gyntaf, neu i gloi fy araith gyntaf, sef fy mod yn gobeithio y bydd Aelodau eraill yn cefnogi’r cynnig hwn er mwyn sicrhau hawliau pawb yng Nghymru i gael cydymaith, boed eu bod mewn llety rhent neu yn eu cartref eu hunain. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.