– Senedd Cymru am 5:50 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Eitem 14 yw'r eitem nesaf, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg i wneud y cynnig yma. Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Rwy'n symud y cynnig ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Mae'r rheoliadau'n caniatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar naw corff Prydeinig o'r sector iechyd, sef wyth corff rheoleiddio proffesiynol a'r Awdurdod Safonau Proffesiynol. Mae dros 120 o gyrff eisoes yn dod o dan y safonau, gan gynnwys byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru. Bydd cynnwys y cyrff rheoleiddio o dan y drefn safonau yn symud mwy o gyrff iechyd o'r hen drefn cynlluniau iaith i'r drefn safonau ac yn cryfhau hawliau unigolion wrth ddelio â'r sector. Mae'r rheoliadau wedi'u paratoi yn benodol ar gyfer y cyrff hyn, gan ffocysu ar y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu i'r cyhoedd. Mae'r safonau hefyd yn rhoi hawliau i weithwyr iechyd os ydyn nhw'n destun cwyn neu wrandawiad addasrwydd i ymarfer.
Rhan o'r jig-so yw'r rheoliadau hyn er mwyn gwireddu'r nod o gynyddu defnydd—a dyna sy'n bwysig—o wasanaethau Cymraeg. Bydd angen cefnogi'r cyrff i adeiladu capasiti i gynnig mwy o wasanaethau Cymraeg. Bydd swyddfa'r comisiynydd ar gael i gynnig arweiniad i'r cyrff wrth iddyn nhw fynd ar eu taith iaith. Bydd partneriaid eraill fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd ar gael i gynnig help i'r cyrff a'u staff, os byddan nhw'n dymuno dysgu Cymraeg, i allu cynnig gwell gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd. Mae'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn ymrwymo i gyflwyno'r camau rwy'n eu datgan heddiw.
Yn olaf, a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am gyflymu'r broses o adrodd ar y rheoliadau hyn wedi inni eu hailosod? Fe wnaeth cydweithrediad y pwyllgor sicrhau fod y ddadl hon yn gallu mynd yn ei blaen heddiw.
Diolch, Weinidog. Dwi'n croesawu'r cyfle i gyfrannu o ran y safonau yma heddiw. Oherwydd, wedi'r cyfan, dyma'r set gyflawn gyntaf o reoliadau safonau i ddod gerbron y Cyfarfod Llawn ers 20 Mawrth 2018, sef dros bedair blynedd yn ôl. Ac mae sawl rheswm dros yr oedi, gan gynnwys penderfyniad y Llywodraeth flaenorol i roi rhaglen safonau ar stop yn ystod y cynigion a dadleuon i gyflwyno Bil y Gymraeg newydd ac, yn ddiweddarach, y pandemig, wrth gwrs.
Wrth groesawu hyn heddiw, sy'n nodi ailddechrau cyflwyno'r rhaglen safonau, hoffwn edrych ymlaen nid yn ôl, oherwydd mae cyflwyno dyletswyddau iaith yma yn gam pwysig ymlaen ar sawl ystyr fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol. Mae'n hanfodol bwysig bod y Gymraeg wrth galon y gwaith ailgodi yn y sector iechyd wrth inni ddechrau adfer gwasanaethau wedi'r pandemig. Bydd rheoliadau rhif 8, o'u cymeradwyo heddiw, yn golygu bod pawb yn y sector o dan yr un drefn ac yn cywiro'r sefyllfa bresennol, sydd yn golygu bod y gwaith ar ei hanner: y byrddau iechyd dan safonau tra bo'r cyrff yma, sy'n gyfrifol yn bennaf am oruchwylio'r gweithlu iechyd, dan gyfundrefn cynlluniau iaith Deddf 1993, a ninnau wedi deddfu yma ers 2011 i greu cyfundrefn bwrpasol i hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg i Gymru.
Yn ogystal â thanlinellu'r trywydd ehangach o symud y gwaith o weithredu Mesur y Gymraeg yn ei flaen, mae hawliau iaith penodol newydd a phwysig yn cael eu creu yn sgil y rheoliadau. Fe gyfeiriodd y Gweinidog at rai, ond, wrth gwrs, y rhai pwysig ydy: yr hawl i'r cyhoedd yng Nghymru wneud cais am swydd yn Gymraeg gyda'r cyrff dan sylw, ac i weithiwyr y cyrff allu cael gwersi Cymraeg am ddim; yr hawl i ymarferwyr a'r proffesiynau iechyd sy'n wynebu cwynion yn eu herbyn i gael ymwneud yn Gymraeg â'r broses drwyddi draw, ar lafar ac yn ysgrifenedig; a'r hawl i aelodau'r cyhoedd yng Nghymru allu gweld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn eu hymwneud â'r cyrff.
Cyn dyfodiad y Mesur, doedd dim cyfundrefn effeithiol i orfodi'r ymrwymiadau oedd yn cael eu gwneud gan gyrff i siaradwyr Cymraeg, a dim corff gyda dannedd i wrando ar gwynion. Bellach, mae'n rheidrwydd ar y comisiynydd i ystyried cwynion o'r fath, yn golygu bod unigolion sy'n profi rhwystrau i gael gofal yn Gymraeg yn cael eu trin gydag urddas a pharch—rhywbeth sy'n hollbwysig o ystyried y gall pobl sâl a bregus orfod troi at y cyrff dan sylw lle bo ganddynt gŵyn neu bryder am eu gofal dan law ymarferydd iechyd.
Mewn unrhyw faes cydraddoldeb, mae newid deddfwriaethol yn cymryd amser. Mae'r dystiolaeth sydd ar gael hyd yma yn cadarnhau gwerth safonau wrth greu'r newid hwnnw. Bydd dyletswydd hefyd ar y rhai fydd yn destun y safonau yma i ystyried effaith eu penderfyniadau ar y Gymraeg wrth ddatblygu polisïau newydd, er enghraifft cynllunio yn rhagweithiol i sicrhau bod yr egwyddor o beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn tywys gwaith cynllunio’r sector i’r dyfodol.
Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r ffaith na ellir gwahanu pwysigrwydd cael seilwaith gadarn mewn lle oddi wrth y dyhead i greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, ac i weld defnydd y Gymraeg yn cynyddu o ganlyniad. Am y rheswm hwnnw, dwi’n falch iawn bod y Llywodraeth ar y cyd efo Plaid Cymru yn ymrwymedig i ymestyn y ddyletswydd i ddefnyddio’r Gymraeg i sectorau eraill o bwys sy’n cyffwrdd bywydau dinasyddion Cymru, megis y diwydiant dŵr, maes trafnidiaeth, cyrff cyhoeddus newydd sydd tu allan i’r gyfundrefn safonau a’r cymdeithasau tai, ynghyd â’r ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i ddatblygu amserlen i gwblhau gweithredu’r Mesur yn ei gyfanrwydd.
Mae’n bwysig rŵan bod y gwaith yn symud ymlaen gyda momentwm ac egni newydd er mwyn ymestyn gwaelodlin y ddarpariaeth sylfaenol y dylai’n dinasyddion allu disgwyl mewn cenedl gyda dwy iaith, a fydd yn elwa unigolion, cymunedau a lles cyffredinol y Gymraeg ledled Cymru gyfan.
Gweinidog y Gymraeg i ymateb.
Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau yma'n caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried ble mae'r cyrff ar eu taith iaith cyn gosod safonau terfynol arnyn nhw, hynny yw ystyried beth sy'n resymol i gorff ei wneud ond hefyd herio i wella gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd. Y nod ar ddiwedd y dydd, y prif nod, yw sicrhau defnydd ymarferol bob dydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau ni.
Mae'r cyrff yma wedi bod yn paratoi ar gyfer dod o dan y drefn safonau ers rhai blynyddoedd ac yn barod i fwrw ymlaen i'w gweithredu. Mae'r cyrff wedi cydweithredu'n llawn gyda ni wrth inni baratoi'r rheoliadau, ac mae ganddyn nhw agwedd iach tuag at y Gymraeg. Rwy'n gobeithio felly bydd Aelodau'n cefnogi'r rheoliadau hyn fel rhan o'n huchelgais ni i gynyddu defnydd ymarferol bob dydd o'n hiaith.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.