Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Mi gychwynnais i, fel bob tro, y broses yma yn agored fy meddwl ynglŷn â'r ddeddfwriaeth yma ac yn cydnabod bod yna amgylchiadau weithiau lle mae angen medru ymateb i ddigwyddiadau pan fydd hi'n dod i faterion fel hyn, ond, mae'n rhaid i mi ddweud, mi wnaeth tystiolaeth roddwyd i'r pwyllgorau perthnasol oedd yn craffu ar y Bil yma, yn enwedig yng Nghyfnod 1, gan ffigurau cyfreithiol mwyaf nodedig Cymru amlygu sawl elfen wnaeth beri gofid yn sicr i fi o safbwynt y Bil yma.