Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n falch o gyflwyno Bil Deddfau Treth Cymru etc (Pŵer i Addasu) i'r Senedd i'w gymeradwyo. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r holl swyddogion sydd wedi gweithio mor ddiwyd dros flynyddoedd lawer ar y Bil hwn. Fel y gwyddom ni, mae treth yn faes pwysig a chynyddol yn y setliad datganoli. Mae arnom ni, Lywodraeth Cymru, felly, angen, fel pob gweithrediaeth, cyfres gymesur ac effeithiol o ddulliau i reoli'r pwerau trethu hynny'n strategol ac, yn hollbwysig, i ddiogelu trethdalwyr a chyllid cyhoeddus yn effeithiol. Mae angen i'r Senedd hon, fel pob senedd, oruchwylio'r dulliau hynny'n gryf ac yn gadarn. Mae'r Bil yn sicrhau hyn oherwydd mai dim ond gyda chydsyniad y Senedd ar ôl iddi roi ystyriaeth briodol y gellir gwneud y newidiadau neu sicrhau effaith barhaol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam cyntaf pwysig tuag at y system gydlynol a thryloyw sydd ei hangen arnom ni i gefnogi datganoli trethi yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i bawb yn y Senedd a thu hwnt sydd wedi helpu i lunio a gwella'r Bil sydd gerbron yr Aelodau heddiw. Rydym ni wedi gwrando ac wedi diwygio'r Bil yn sylweddol er mwyn ymateb i'r adborth a gafwyd i'r Bil. Rwyf wastad wedi ceisio deall a myfyrio ar y sylwadau a wnaeth Aelodau'r gwrthbleidiau ac yn enwedig yr hyn y mae ein pwyllgorau craffu wedi'i ddweud pan fyddan nhw wedi edrych ar y Bil. Mae canlyniadau'r trafodaethau hynny wedi newid y Bil yn sylweddol mewn ffordd gadarnhaol.
Mae'r Bil yn ceisio sicrhau y gall Gweinidogion Cymru ymateb yn gyflym i newidiadau y mae angen eu gwneud i'n deddfwriaeth dreth o ganlyniad i amgylchiadau allanol na allwn eu rheoli, megis ymateb i newidiadau polisi treth Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu ein refeniw yng Nghymru. Gwnaed diwygiadau sylweddol i'r Bil hwn, gan gynnwys darparu cymal machlud a phroses adolygu, yn ogystal â chyfyngiadau pellach ar ddefnyddio deddfwriaeth ôl-weithredol. Mae'r newidiadau a wnaed yn golygu bod y Bil hwn bellach yn wahanol iawn i'r un a gyflwynwyd gyntaf i'r Senedd ac yn un gwell oherwydd y craffu hwnnw.
Mae hefyd yn werth adlewyrchu fy mod wedi addasu cryn dipyn ers amlinellu'r cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Ymatebais i ganlyniad yr ymgynghoriad drwy gyfyngu ar gwmpas y pŵer i wneud rheoliadau i gynnwys y profion pedwar diben, gostyngiad sylweddol yn yr amgylchiadau lle gallai Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer. Yn bwysig, rwyf hefyd wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed gan Aelodau'r Senedd hon ac wedi ymrwymo i gymryd camau, ynghyd â'r Senedd a'i phwyllgorau, tuag at ddod o hyd i ateb deddfwriaethol priodol, tymor hirach i'r materion y mae Aelodau wedi'u codi, ond, yn hollbwysig, sicrhau y caiff ein trethdalwyr a'n cyllideb eu diogelu yn y cyfamser.
Yn syml, nid yw'n bosibl, ac ni fyddai'n iawn ychwaith, i gyflwyno'r trefniadau hyn dros nos heb ymgymryd â'r gwaith trylwyr sydd ei angen o ddatblygu'r polisi ac ymgysylltu yn ei gylch. Bydd pasio'r Bil hwn yn helpu i ddiogelu trethdalwyr a chyllideb Cymru. Bydd yn golygu, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, y caiff cyllideb Cymru a'n trethdalwyr eu gwarchod oherwydd byddwn yn gallu ymateb yn effeithiol i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein trethi yng Nghymru. Er enghraifft, os bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyfundrefn codi tâl newydd sy'n debyg i gyfraddau uwch y dreth dir ar gyfer anheddau ychwanegol, yna, gyda'r Bil hwn, gallwn ddiogelu'r safbwyntiau polisi pwysig yr ydym ni wedi'u datblygu ar ail gartrefi. Neu, pe bai Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn cyflwyno newid a fyddai o fudd arbennig i'r rhai sy'n ceisio sefydlu busnesau ffermio newydd, yna gallem gyflwyno math tebyg o newid yn gyflym er mwyn sicrhau nad yw ein trethdalwyr dan anfantais.
Gwyddom i gyd nad yw Llywodraeth bresennol y DU yn gyfaill i ddatganoli. Mae'n amlwg o'r dyddiau diwethaf fod newidiadau sylweddol i'n system dreth ar y gorwel, a gwyddom o brofiad yn y gorffennol na fydd Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw ffafrau arbennig neu ystyriaeth arbennig inni os nad oes gennym ni'r pwerau i amddiffyn ein hunain. Bydd y Bil hwn yn rhoi amddiffyniad hanfodol arall inni i drethdalwyr Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru mewn cyd-destun o'r fath, felly ni allaf dderbyn y ddadl bod unrhyw beth yn flaengar am ddewis pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth hon heddiw.
Gobeithio y gallwch chi weld yr ewyllys da fu'n gysylltiedig â datblygu'r Bil hwn. Os caiff ei basio, hoffwn weithio yn yr un ysbryd ag Aelodau'r Senedd i sefydlu'r bensaernïaeth hirdymor ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru, a gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw. Diolch.