Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Yn y cyd-destun hwnnw, Llywydd, gwnawn ni bopeth o fewn ein gallu ni i gefnogi pobl drwy'r argyfwng hwn. Mae polisïau ar draws 20 mlynedd o ddatganoli wedi rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl: teithio am ddim ar fysiau i nifer cynyddol o ddinasyddion Cymru; presgripsiynau am ddim i bawb; brecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd ac yn awr, cinio ysgol am ddim hefyd; rydym ni wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg; rydym ni wedi parhau â'r budd-dal treth gyngor; mae gennym ni'r system fwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig; ac, ym mis Medi, byddwn ni'n ehangu eto'r cynnig gofal plant mwyaf hael gan unrhyw wlad yn y DU. Nawr, Llywydd, mae llawer mwy o bethau y gallwn i gyfeirio atyn nhw, ond gwnaf i'r pwynt cyffredinol hwn yn lle hynny: mae pob un o'r mesurau hyn yn gadael arian ym mhocedi teuluoedd Cymru i'w helpu nhw i ymateb i'r argyfwng costau byw. A nawr, rydym ni'n mynd ymhellach eto. Rydym ni'n darparu £380 miliwn i helpu aelwydydd, gan gynnwys ein taliad cymorth tanwydd gaeaf—taliad o £200 i aelwydydd sy'n cael budd-daliadau cymwys a rhwydwaith newydd o fanciau tanwydd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Llywydd, yn dilyn yr ymosodiad digymell ar bobl sofran ac annibynnol Wcráin, mae haelioni a charedigrwydd pobl Cymru wedi bod yn gadarn. Mae bron i 3,700 o bobl o Wcráin nawr wedi cyrraedd, wedi'u noddi gan bobl ledled Cymru a thrwy ein cynllun uwch-noddwyr, ac mae'r nifer hwn yn tyfu bob dydd. Ar yr un pryd, rydym ni wedi rhoi noddfa i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn Afghanistan ac yn Syria. Mae bod yn genedl noddfa yn uchelgais sy'n sôn yn uniongyrchol am y fath o wlad yr ydym ni eisiau i Gymru fod. Mae gwireddu'r uchelgais hwnnw'n cymryd gwaith caled bob dydd, ond mae'n waith yr ydym ni, fel Llywodraeth, yn benderfynol o'i wneud.
Nawr, Llywydd, rydym ni wedi wynebu heriau eraill hefyd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r argyfwng hinsawdd a natur wedi parhau heb ei ddatrys, ac rydym ni, wrth gwrs, wedi gorfod ymdrin â'r her o weithio gyda llywodraeth y DU sy'n benderfynol o roi'r cloc yn ôl ar ddatganoli ar bob cyfle. Ond er gwaethaf hyn i gyd, rydym ni wedi parhau i gyflawni dros Gymru ac rydym ni wedi parhau i sefyll dros Gymru.
Llywydd, yn yr etholiad fis Mai diwethaf, rhoddodd fy mhlaid chwe addewid allweddol gerbron yr etholwyr. Cafodd y cyntaf o fewn 12 wythnos i ddiwrnod yr etholiad, pan wnaethom ni gadarnhau cyllid llawn gennym ar gyfer 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol gan yr heddlu—swyddogion sy'n gwneud cymaint i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n mynd i'r afael â'r amseroedd aros hir sydd wedi cronni yn ystod y pandemig ac rydym ni wedi sefydlu rhaglen dal i fyny uchelgeisiol, gyda chefnogaeth gwerth £1 biliwn o gyllid. Ac rydym ni nawr yn dechrau gweld gostyngiadau yn yr amseroedd aros hir hynny am driniaeth, ar gyfer profion diagnostig ac ar gyfer therapïau.
Ym maes addysg, gwnaethom ni nodi ein cynllun adnewyddu a diwygio uchelgeisiol i sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu berson ifanc yn cael ei adael ar ôl oherwydd effaith y pandemig ar eu bywydau. Gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n ariannu 1,800 yn fwy o staff ysgol i gefnogi dysgwyr ac rydym ni wedi penodi a chadw mwy na'r nifer hwnnw i ddarparu'r cymorth hanfodol sydd ei angen ar ein plant. Gwnaethom ni addo gwarant i bobl ifanc, ac ym mis Tachwedd, cafodd y rhaglen feiddgar hon ei lansio gennym ni, gan ddarparu cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac o fewn pedwar mis yn unig, Llywydd, mae dros 2,700 o bobl eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth hwnnw.
Llywydd, yr oeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud cynnydd mor gyflym i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol. Gallwn ni nawr fwrw ymlaen â gwaith i wella telerau ac amodau'r gweithwyr hynny ledled y sector cyfan.
Yn nhymor y Senedd hon, am y tro cyntaf, mae gennym ni weinidogaeth newid hinsawdd, sy'n dwyn ynghyd popeth y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym ni wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050. Ym mis Hydref, gwnaethom ni gyhoeddi Sero Net Cymru, yn nodi sut y byddwn ni'n cyrraedd ein targedau cyllidebu carbon. Ac yn y mis hwnnw, gwelodd y gynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 Weinidogion Cymru yn cymryd rhan ac yn ymrwymo i weithio gydag eraill, er enghraifft, drwy'r Gynghrair Y Tu Hwnt i Olew a Nwy, gan ddangos ein hymrwymiad rhyngwladol i ymdrin â'r argyfwng hwnnw.
Yn nes at adref, rhaid i ni blannu mwy o goed i wrthbwyso'r difrod sydd eisoes yn cael ei achosi i'n hinsawdd. Byddwn ni'n sefydlu coedwig genedlaethol i Gymru, byddwn ni'n creu tri choetir coffa yn y gogledd, y gorllewin a'r de i gofio pawb, gwaetha'r modd, a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig. A byddwn ni'n gwobrwyo ffermwyr sy'n plannu'r coed sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru. A, Llywydd, mae'r coed sydd eu hangen arnom ni'n cynnwys coedwigoedd masnachol, fel y bydd modd adeiladu ein tai yn y dyfodol o bren sydd wedi'i dyfu yma yng Nghymru. Dyna pam yr ydym ni wedi dyblu'r gyllideb ar gyfer y grant tai cymdeithasol eleni i £250 miliwn ac wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol arall yn y gyllideb ar gyfer pob un o'r tair blynedd nesaf, i'n helpu ni i gyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 yn fwy o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu.
Nawr, Llywydd, mae ein hamcanion llesiant yn ein hymrwymo ni i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb, ac ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon, rydym ni wedi cymryd camau breision tuag at y nod hwnnw. Rydym ni wedi sefydlu tasglu hawliau anabledd, rydym ni wedi ymgynghori ar ein cynllun gweithredu LGBTQ+, rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod gyda'n strategaeth newydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r mis diwethaf, gwnaethom ni gyhoeddi ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', gan ein rhoi ni ar y llwybr at fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Ac wrth i'n Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno o fis Medi ymlaen, byddwn ni'n sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei gydnabod, wrth i addysgu hanesion pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ddod yn orfodol yma yng Nghymru.
Llywydd, mae cymaint mwy wedi'i gynnwys ar dudalennau'r adroddiad blynyddol hwn na allaf wneud cyfiawnder ag ef y prynhawn yma. Ein camau i ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, y cwricwlwm newydd yn ein hysgolion, ein camau gweithredu i ehangu addysg y blynyddoedd cynnar a'r defnydd o'r Gymraeg, y gwasanaeth cerdd cenedlaethol, y cynllun treialu incwm sylfaenol, y rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol y gwnes i ei hamlinellu'r wythnos diwethaf. Dyma rai o'r cyflawniadau niferus sydd wedi'u hamlygu yn adroddiad blynyddol cyntaf y tymor hwn. Mae'r adroddiad hwnnw'n dangos, er gwaethaf yr heriau yr ydym ni wedi'u hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ein bod ni wedi parhau i ddarparu llywodraeth sefydlog, benodol a moesegol i bobl Cymru. Yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn ni'n parhau i weithio tuag at ein hamcanion llesiant, er mwyn sicrhau'r Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno.