– Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2022.
Yr eitem nesaf yw dadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, cyflawni ein hamcanion llesiant. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig.
Dirprwy Lywydd, wythnos diwethaf cafodd adroddiad blynyddol cyntaf tymor y Senedd hon ei gyhoeddi. Mae'n nodi'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant. Cafodd rhaglen llywodraethu'r Llywodraeth hon ei chyhoeddi llai na chwe wythnos ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2021. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fynd ati'n gyflym i daclo'r heriau sy'n wynebu Cymru ac i ddechrau gweithredu ein rhaglen polisi radical. Fe ddywedon ni y byddai ein Llywodraeth wedi'i selio ar ymddiriedaeth ac uchelgais, ac y byddai'n canolbwyntio ar ffyniannau cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol. Roedd ein rhaglen llywodraethu'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni 10 amcan llesiant yn nhymor y Llywodraeth hon.
Ym mis Rhagfyr, fe wnaethon ni lofnodi cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru—cytundeb pwrpasol sy'n cynnwys 46 o feysydd lle mae gennym ffyniannau yn gyffredin. Mae rhai o'r mesurau hyn wedi eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol hwn, ond fe fydd adroddiad llawn am yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd yn y flwyddyn gyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Dirprwy Lywydd, ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon, rydyn ni wedi wynebu cyfres o heriau digynsail—rhai yn gyfarwydd a rhai yn newydd. Rydyn ni'n dal i wynebu canlyniadau Brexit. Mae wedi lleihau maint ein heconomi. Mae wedi creu prinder gweithwyr ym mhob rhan o'r gymuned. Mae wedi arwain at y sefyllfa gywilyddus lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i ddiddymu cytundeb rhyngwladol y gwnaeth hi ei negodi a'i lofnodi. Efallai fod y Prif Weinidog Johnson wedi cyflawni Brexit—'Get Brexit done', fel y dywedodd—ond wnaeth e'n sicr ddim ei gyflawni'n llwyddiannus, a dyw e erioed wedi gwneud i Brexit weithio i bobl Cymru.
Rydyn ni wedi parhau i ddelio ag effaith pandemig byd-eang y coronafeirws. Mae'r feirws hwn yn dal gyda ni. Yn yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn heintiau, ac erbyn hyn, unwaith eto, mae ein hysbytai o dan bwysau. Mae 2,000 o aelodau o staff i ffwrdd o’u gwaith oherwydd salwch. Mae ychydig dros 1,000 o gleifion COVID-19 mewn gwelyau ysbyty, ac mae cynnydd hefyd wedi bod yn y nifer o bobl sydd angen gofal dwys.
Ac yna, ar ben yr heriau hyn, ym mlwyddyn gyntaf y chweched Senedd, rydym ni wedi wynebu argyfwng costau byw digynsail, ac, wrth gwrs, y gwrthdaro sydd yn parhau yn Wcráin ac sydd wedi creu trychineb dyngarol ar ein carreg drws. Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnom ni i gyd. Mae’n gwneud bywyd beunyddiol yn her i bobl ar draws Cymru wrth i brisiau gynyddu.
Yn y cyd-destun hwnnw, Llywydd, gwnawn ni bopeth o fewn ein gallu ni i gefnogi pobl drwy'r argyfwng hwn. Mae polisïau ar draws 20 mlynedd o ddatganoli wedi rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl: teithio am ddim ar fysiau i nifer cynyddol o ddinasyddion Cymru; presgripsiynau am ddim i bawb; brecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd ac yn awr, cinio ysgol am ddim hefyd; rydym ni wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg; rydym ni wedi parhau â'r budd-dal treth gyngor; mae gennym ni'r system fwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig; ac, ym mis Medi, byddwn ni'n ehangu eto'r cynnig gofal plant mwyaf hael gan unrhyw wlad yn y DU. Nawr, Llywydd, mae llawer mwy o bethau y gallwn i gyfeirio atyn nhw, ond gwnaf i'r pwynt cyffredinol hwn yn lle hynny: mae pob un o'r mesurau hyn yn gadael arian ym mhocedi teuluoedd Cymru i'w helpu nhw i ymateb i'r argyfwng costau byw. A nawr, rydym ni'n mynd ymhellach eto. Rydym ni'n darparu £380 miliwn i helpu aelwydydd, gan gynnwys ein taliad cymorth tanwydd gaeaf—taliad o £200 i aelwydydd sy'n cael budd-daliadau cymwys a rhwydwaith newydd o fanciau tanwydd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Llywydd, yn dilyn yr ymosodiad digymell ar bobl sofran ac annibynnol Wcráin, mae haelioni a charedigrwydd pobl Cymru wedi bod yn gadarn. Mae bron i 3,700 o bobl o Wcráin nawr wedi cyrraedd, wedi'u noddi gan bobl ledled Cymru a thrwy ein cynllun uwch-noddwyr, ac mae'r nifer hwn yn tyfu bob dydd. Ar yr un pryd, rydym ni wedi rhoi noddfa i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn Afghanistan ac yn Syria. Mae bod yn genedl noddfa yn uchelgais sy'n sôn yn uniongyrchol am y fath o wlad yr ydym ni eisiau i Gymru fod. Mae gwireddu'r uchelgais hwnnw'n cymryd gwaith caled bob dydd, ond mae'n waith yr ydym ni, fel Llywodraeth, yn benderfynol o'i wneud.
Nawr, Llywydd, rydym ni wedi wynebu heriau eraill hefyd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r argyfwng hinsawdd a natur wedi parhau heb ei ddatrys, ac rydym ni, wrth gwrs, wedi gorfod ymdrin â'r her o weithio gyda llywodraeth y DU sy'n benderfynol o roi'r cloc yn ôl ar ddatganoli ar bob cyfle. Ond er gwaethaf hyn i gyd, rydym ni wedi parhau i gyflawni dros Gymru ac rydym ni wedi parhau i sefyll dros Gymru.
Llywydd, yn yr etholiad fis Mai diwethaf, rhoddodd fy mhlaid chwe addewid allweddol gerbron yr etholwyr. Cafodd y cyntaf o fewn 12 wythnos i ddiwrnod yr etholiad, pan wnaethom ni gadarnhau cyllid llawn gennym ar gyfer 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol gan yr heddlu—swyddogion sy'n gwneud cymaint i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n mynd i'r afael â'r amseroedd aros hir sydd wedi cronni yn ystod y pandemig ac rydym ni wedi sefydlu rhaglen dal i fyny uchelgeisiol, gyda chefnogaeth gwerth £1 biliwn o gyllid. Ac rydym ni nawr yn dechrau gweld gostyngiadau yn yr amseroedd aros hir hynny am driniaeth, ar gyfer profion diagnostig ac ar gyfer therapïau.
Ym maes addysg, gwnaethom ni nodi ein cynllun adnewyddu a diwygio uchelgeisiol i sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu berson ifanc yn cael ei adael ar ôl oherwydd effaith y pandemig ar eu bywydau. Gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n ariannu 1,800 yn fwy o staff ysgol i gefnogi dysgwyr ac rydym ni wedi penodi a chadw mwy na'r nifer hwnnw i ddarparu'r cymorth hanfodol sydd ei angen ar ein plant. Gwnaethom ni addo gwarant i bobl ifanc, ac ym mis Tachwedd, cafodd y rhaglen feiddgar hon ei lansio gennym ni, gan ddarparu cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac o fewn pedwar mis yn unig, Llywydd, mae dros 2,700 o bobl eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth hwnnw.
Llywydd, yr oeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud cynnydd mor gyflym i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol. Gallwn ni nawr fwrw ymlaen â gwaith i wella telerau ac amodau'r gweithwyr hynny ledled y sector cyfan.
Yn nhymor y Senedd hon, am y tro cyntaf, mae gennym ni weinidogaeth newid hinsawdd, sy'n dwyn ynghyd popeth y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym ni wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050. Ym mis Hydref, gwnaethom ni gyhoeddi Sero Net Cymru, yn nodi sut y byddwn ni'n cyrraedd ein targedau cyllidebu carbon. Ac yn y mis hwnnw, gwelodd y gynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 Weinidogion Cymru yn cymryd rhan ac yn ymrwymo i weithio gydag eraill, er enghraifft, drwy'r Gynghrair Y Tu Hwnt i Olew a Nwy, gan ddangos ein hymrwymiad rhyngwladol i ymdrin â'r argyfwng hwnnw.
Yn nes at adref, rhaid i ni blannu mwy o goed i wrthbwyso'r difrod sydd eisoes yn cael ei achosi i'n hinsawdd. Byddwn ni'n sefydlu coedwig genedlaethol i Gymru, byddwn ni'n creu tri choetir coffa yn y gogledd, y gorllewin a'r de i gofio pawb, gwaetha'r modd, a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig. A byddwn ni'n gwobrwyo ffermwyr sy'n plannu'r coed sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru. A, Llywydd, mae'r coed sydd eu hangen arnom ni'n cynnwys coedwigoedd masnachol, fel y bydd modd adeiladu ein tai yn y dyfodol o bren sydd wedi'i dyfu yma yng Nghymru. Dyna pam yr ydym ni wedi dyblu'r gyllideb ar gyfer y grant tai cymdeithasol eleni i £250 miliwn ac wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol arall yn y gyllideb ar gyfer pob un o'r tair blynedd nesaf, i'n helpu ni i gyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 yn fwy o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu.
Nawr, Llywydd, mae ein hamcanion llesiant yn ein hymrwymo ni i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb, ac ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon, rydym ni wedi cymryd camau breision tuag at y nod hwnnw. Rydym ni wedi sefydlu tasglu hawliau anabledd, rydym ni wedi ymgynghori ar ein cynllun gweithredu LGBTQ+, rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod gyda'n strategaeth newydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r mis diwethaf, gwnaethom ni gyhoeddi ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', gan ein rhoi ni ar y llwybr at fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Ac wrth i'n Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno o fis Medi ymlaen, byddwn ni'n sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei gydnabod, wrth i addysgu hanesion pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ddod yn orfodol yma yng Nghymru.
Llywydd, mae cymaint mwy wedi'i gynnwys ar dudalennau'r adroddiad blynyddol hwn na allaf wneud cyfiawnder ag ef y prynhawn yma. Ein camau i ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, y cwricwlwm newydd yn ein hysgolion, ein camau gweithredu i ehangu addysg y blynyddoedd cynnar a'r defnydd o'r Gymraeg, y gwasanaeth cerdd cenedlaethol, y cynllun treialu incwm sylfaenol, y rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol y gwnes i ei hamlinellu'r wythnos diwethaf. Dyma rai o'r cyflawniadau niferus sydd wedi'u hamlygu yn adroddiad blynyddol cyntaf y tymor hwn. Mae'r adroddiad hwnnw'n dangos, er gwaethaf yr heriau yr ydym ni wedi'u hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ein bod ni wedi parhau i ddarparu llywodraeth sefydlog, benodol a moesegol i bobl Cymru. Yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn ni'n parhau i weithio tuag at ein hamcanion llesiant, er mwyn sicrhau'r Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yr adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at fethiannau mawr o ran cyflawni ar gyfer pobl Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau cyson sydd ar y systemau iechyd ac addysg.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch mewn cyflogau mynd adref rhwng pobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Yn gresynu at y ffaith na fydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru.
Diolch, Llywydd, a chynigiaf y gwelliant yn ffurfiol yn enw Darren Millar ar y papur trefn y prynhawn yma. A chyn i mi ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn i hefyd gofnodi, yn ystod y 12 mis diwethaf, ddiolch diffuant fy ngrŵp i'r holl weithwyr GIG a'r gweithwyr cyhoeddus sydd wedi gweithio'n ddiflino yn y pandemig COVID yr ydym ni'n parhau i'w wynebu heddiw. Gwn i y byddwn ni'n anghytuno ar bolisi o dro ar ôl tro, y Prif Weinidog a minnau—democratiaeth yw hynny—ond roeddwn i bob amser yn ddiolchgar iawn am y papurau briffio a roddodd ef i mi, ac rwy'n credu, yn y dull gweithredu ar y cyd hwnnw, gyda phleidiau eraill yn y Senedd, fod posibilrwydd y gallem ni gydweithio ar wahanol agweddau yr oedd pobl yn wirioneddol bryderus yn eu cylch, ac roeddwn i wedi defnyddio'r geiriau 'ofnus', yng ngoleuni rhai o'r dyddiau dwys, tywyll yr ydym ni wedi mynd drwyddyn nhw yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly, hoffwn i gofnodi'n ffurfiol fy niolch diffuant i bawb a wynebodd her COVID ac sy'n parhau i wynebu her COVID.
Ond hoffwn i ddechrau gyda'r sylwadau y codais i gyda'r Prif Weinidog yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog y cawsom ni'r prynhawn yma. Y naratif pwysicaf sydd wedi dominyddu'r 12 mis diwethaf yw amseroedd aros y GIG, ac mae maint yr her honno wedi mynd yn fwy ac yn dywyllach wrth i bob wythnos a phob mis fynd heibio, gyda 700,000 o bobl ar restr aros heddiw yma yng Nghymru—un o bob pump o'r boblogaeth—a 68,000 o'r 700,000 o'r bobl hynny'n aros dwy flynedd neu'n fwy. Mae honno'n her enfawr nad yw datganiad y rhaglen lywodraethu hon heddiw, na'r ddadl heddiw, yn gwneud cyfiawnder â hi yn y ffordd y mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio ati, nid wyf i'n credu.
Gallwch chi gyfeirio at rannau eraill o'r DU sydd wedi wynebu'r un heriau COVID ag sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac sydd wedi troi'r gornel yn eu niferoedd. Fel y dywedais i yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, yn Lloegr aeth hi mor uchel â 23,000, yr aros am ddwy flynedd, ond mae wedi gostwng i 12,000 erbyn hyn. Felly, mae angen cynllun mwy cydlynol ymlaen arnom ni gan Lywodraeth Cymru ar y mater allweddol hwn. Mae angen i ni fod yn hyderus bod gan y Prif Weinidog a'i Lywodraeth y cynlluniau recriwtio ar waith i adfywio gweithlu'r GIG. Fel yr wyf i wedi codi gydag ef o'r blaen, fel meddygon a recriwtio meddygon, er enghraifft, gyda lleoedd hyfforddi sy'n ofynnol gan amcangyfrif Cymdeithas Feddygol Prydain ei hun o 200 lle y flwyddyn, a'r Prif Weinidog yn cydnabod y gallai hynny, o bosibl, fod yn ffigur gwirioneddol, pan fydd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn ariannu unrhyw beth o 150 i 160 lle ar gyfer hyfforddi meddygon. Felly, nid yw'r adroddiad hwn yn cynnig map ffordd i ni yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymdrin â'r diffygion difrifol sy'n bodoli yn ein GIG.
A dim ond yr wythnos diwethaf, tynnais i sylw'r Prif Weinidog at ymrwymiad Llafur ar ofal plant a phlant mewn gofal yn cael eu cartrefu mewn gwely a brecwast ac amgylcheddau heb eu rheoleiddio, lle'r oedd adroddiad y BBC yn tynnu sylw at y ffaith bod 50 o blant yn agored i risg a bod 270 o blant mewn lleoliad llety heb ei reoleiddio, er bod hwn wedi bod yn ofyniad allweddol i Lywodraeth Lafur, i gael gwared arno'n raddol mor bell yn ôl â 2015. Mae bron i saith mlynedd yn ôl ers bod yr ymrwymiad hwnnw wedi'i sefydlu. Rwy'n deall mai ymrwymiad y Llywodraeth heddiw yw gwneud hynny, ond mae'r sefyllfa honno'n dal yn bodoli.
Ac yna pan edrychwn i ar y materion cladin ar dai, p'un ai yng Nghaerdydd, Abertawe, yn y gogledd, ledled Cymru gyfan, mae trigolion wedi teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r mater allweddol hwn. Nid wyf yn amau ymrwymiad personol y Gweinidog ei hun i hyn, ond pan edrychwch chi ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig sy'n wynebu'r datblygwyr ac mewn gwirionedd yn defnyddio'r dulliau deddfwriaethol sydd ganddyn nhw i ddod â'r datblygwyr at y bwrdd, fel eu bod yn cyfrannu at yr hyn sy'n fai arnyn nhw—nid bai'r trigolion, nid bai'r lesddeiliaid—a rhoi'r mesurau adferol ar waith, nid yw'r ddadl hon y prynhawn yma'n sôn am y pryderon gwirioneddol hynny y mae pobl yn byw gyda nhw o ddydd i ddydd, bob diwrnod o'r wythnos, ac mae hynny'n ddiffyg cynnydd yn gorwedd yn uniongyrchol wrth ddrws Llywodraeth Cymru.
Rwy'n llwyr ategu ac yn cefnogi'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran y rhyfel yn Wcráin, ac mae'r statws uwch-noddwr a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill yn rhywbeth i'w ganmol. Fodd bynnag, fel y dywedais i wrth y Prif Weinidog bythefnos yn ôl, gyda'r Prif Weinidog yn atal y ceisiadau presennol i'r cynllun, lle mae tua 3,000 o hyd, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, o ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, ffoaduriaid sy'n aros i ddod i Gymru, mae angen rhywfaint o gyflymder i'w gyflwyno i'r cynllun fel y mae modd ei ailagor, ailgychwyn, a lle gallwn ni gartrefu a chysgodi a chynnig y blanced gysur honno o ddiogelwch, dylem ni fod yn gwneud hynny. Fel y dywedais i, rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am yr hyn y maen nhw wedi'i wneud ar yr eitem benodol hon ar yr agenda, ond mae'n hanfodol ein bod ni'n rhoi'r cynllun hwnnw ar waith a bod egni'r Llywodraeth yn cael ei gyfeirio at wneud hynny.
Gallwn siarad llawer mwy, ond rwy'n gwerthfawrogi mai dim ond pum munud sydd gennyf i wneud hynny, nad yw ynddo'i hun yn gwneud cyfiawnder â dadl ar raglen lywodraethu gyfan. O ran y datganiad deddfwriaethol, dywedais i wrth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yr hoffem ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, fod wedi gweld Bil awtistiaeth a hoffem ni fod wedi gweld Bil Iaith Arwyddion Prydain—dau beth a fyddai wedi grymuso pobl drwy'r broses ddeddfwriaethol yn ein cymunedau ni i gael gwarantau a sicrwydd gwirioneddol, ac iawndal cyfreithiol pan fyddan nhw'n teimlo nad yw gweithredoedd y darparwr wedi'u cyflawni. Yn anffodus, nid ydym ni'n gweld hynny yn y datganiad deddfwriaethol, ac felly mae'n amlwg na allem ni gefnogi na chymeradwyo'r cynnydd y mae'r cynnig hwn yn sôn bod gan y datganiad deddfwriaethol. Felly, cynigiaf y gwelliannau'n ffurfiol yn enw Darren Millar ar y papur trefn heddiw, a gobeithiaf y byddan nhw'n cael eu cefnogi ar draws y Cyfarfod Llawn.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 3—Sian Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau angenrheidiol i sicrhau gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy i fywydau pobl Cymru ac mai annibyniaeth yw'r ffordd fwyaf ymarferol o sicrhau dyfodol gwirioneddol gryfach, gwyrddach a thecach i bobl Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae yna gymaint y gallwn i, ac yr ydw i yn aml, yn beirniadu’r Llywodraeth yn ei gylch. Dwi’n cymryd fy rôl o ddifri fel llefarydd iechyd a gofal fy mhlaid, yn dal Llywodraeth i gyfrif ar y gwasanaeth iechyd, ac mi barhaf i wneud hynny tan y byddaf i’n gweld bod pobl Cymru yn cael y gwasanaeth iechyd a gofal y maen nhw’n ei haeddu. Ond, yn ysbryd diwedd tymor fel hyn, gwnaf i ddechrau, o leiaf, ar nodyn positif iawn. Mae’r adroddiad blynyddol yma'n cyfeirio at raglen lywodraethu sy’n adeiladu cenedl, a dwi’n meddwl, diolch i gyfraniad Plaid Cymru, bod yma raglen a all ddod â buddion gwirioneddol a phendant i bobl Cymru.
Efo’r sentiment hwnnw, dwi’n cynnig gwelliant cyntaf Plaid Cymru, sy’n croesawu a chydnabod effaith y cytundeb cydweithio ar y rhaglen lywodraethu. Mae’r adroddiad blynyddol yn rhoi ffocws ar sut all y Llywodraeth weithredu mewn ffordd ataliol, ac mae hynny’n arbennig o berthnasol ym maes gofal iechyd. Ond er mwyn gweld y dull ataliol yma yn cael effaith go iawn, fel bod llai o bobl yn y pen draw yn dibynnu ar wasanaethau iechyd, yn dibynnu ar y system gyfiawnder, er enghraifft, dydy cael syniad neu gael bwriad ddim yn ddigon. Mae’n rhaid cael cyllid, mae’n rhaid cael polisi radical hefyd, a diolch i'r cytundeb cydweithio, mae ymyriadau ataliol radical ac allweddol, fel prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd, a darpariaeth gofal plant, wedi’u hehangu yn sylweddol, ac wedi cael blaenoriaeth o’r diwedd. Ydyn, maen nhw’n gostus, ond mi fyddwn ni’n elwa fel cenedl yn y blynyddoedd i ddod pan fyddwn ni wedi rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’r genhedlaeth ieuengaf.
Efo dim ond chwe mis o’r cytundeb y tu ôl i ni, mae yna sawl cerrig milltir rydyn ni wedi'u cyrraedd yn barod—y broses o gyflwyno prydiau ysgol am ddim ar waith, rydyn ni’n disgwyl deddfwriaeth am ddiwygio’r Senedd y flwyddyn nesaf, pecyn o fesurau ar y gweill i drio taclo’r argyfwng tai, sy’n prisio pobl allan o’u cymunedau eu hunain, a heddiw mi gafodd ymgynghoriad ei lansio fel cam tuag at dreth gyngor decach. Mae pob un o’r polisïau yma yn gwneud ei gyfraniad ei hun—cyfraniad pwysig at lunio dyfodol sy’n canolbwyntio ar les y genhedlaeth nesaf. Mae’n rhaid i ni rŵan sicrhau, wrth gwrs, bod y polisïau uchelgeisiol yma yn cael eu mabwysiadu ar bob lefel o lywodraeth—fan hyn, llywodraeth leol, lle bydd cynghorau o blaid y Prif Weinidog a fy mhlaid innau yn gyfrifol am gyflawni llawer o’r mentrau.
Wrth gwrs, mae yna gyfyngiadau mawr i’r Llywodraeth, sy’n cael eu hadlewyrchu yn ail welliant Plaid Cymru. Fel un sydd wedi credu gydol fy oes mewn annibyniaeth, dwi wastad yn rhwystredig o feddwl beth allai fod. Trafod rheilffyrdd oedd Laura McAllister dros y penwythnos, pan ddywedodd hi,
'Mae'n ymddangos yn amlwg y gall gwneud pethau'n well o fewn y system bresennol nad yw wedi'i datganoli arwain at welliannau ymylol yn unig'.
Er ein bod ni yn gwneud ein gorau dros bobl Cymru yn y Senedd yma, mae’r methiant i integreiddio penderfyniadau polisi a phenderfyniadau cyllid ar y lefel uchaf yn atal newid gwirioneddol drawsnewidiol. Yng nghyd-destun rheilffyrdd, efallai bod trafnidiaeth wedi’i datganoli i Gymru, ond tra y bydd San Steffan yn dal y pŵer dros seilwaith rheilffyrdd, mi fyddwn ni'n parhau i ddioddef gwerth biliynau o bunnau o danariannu a diffyg buddsoddiad mewn unrhyw seilwaith newydd, mewn unrhyw ddarn o drac newydd. Allwn i ddim ei roi yn well na beth sydd yn yr adroddiad blynyddol ei hun:
'Yng Nghymru, ni sy’n gwybod orau beth sy’n gweithio i Gymru.'
Ond pan ydyn ni’n cael y blaenoriaethau’n iawn, dyw’r gallu, yn y pen draw, ddim yna i ddelifro. Rydyn ni eisiau gwarchod gweithwyr. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau dileu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017. Rydyn ni’n ariannu cymorth i’n cyfeillion o Wcráin, ac rydyn ni yn arloesi yn ein cynlluniau i groesawu ffoaduriaid. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd arian heb ofyn tuag at gymorth milwrol. Nid gwneud sylw am beth mae'r arian yn cael ei wario arno fo ydw i, ond y ffaith ei fod yn cael ei gymryd heb ofyn oddi ar gyllidebau iechyd, cyllidebau addysg a newid yn yr hinsawdd, pan fo trethi Cymru eisoes wedi cyfrannu at gyllid amddiffyn y Deyrnas Unedig.
Rydyn ni eisiau arloesi mewn ynni adnewyddol, ond mae Gweinidogion yn San Steffan yn gwadu y gallu i ni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol i greu refeniw drwy ddatganoli Ystad y Goron, rhywbeth maen nhw wedi ei wneud i'r Alban. Ac er gwaethaf addewid penodol gan y Prif Weinidog na fyddai Cymru geiniog yn waeth o adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Prydain yn pocedu gwerth £1 biliwn o arian ddylai fod wedi dod i Gymru. Po fwyaf mae Llywodraeth San Steffan yn torri ei haddewidion, y mwyaf mae o'n chwalu y Deyrnas Unedig, ond yn yr un modd, po hiraf mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwadu hynny, y pellaf fydd Cymru yn cael ei gadael ar ôl ym mha bynnag weddillion o'r hen Deyrnas Unedig fydd yn weddill.
Mae fy nghyfraniad yn mynd i fod yn fwy technegol ei natur, rwy'n credu. Yn gyntaf, Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r adroddiad blynyddol hwn, y cyntaf o'r Senedd hon? Mae adroddiad blynyddol yn rhywbeth y dylem ni edrych ymlaen ato. Mae'n rhoi cyfle i ganmol llwyddiant, ond dylai hefyd roi cyfle i ddangos lle mae pethau'n anghywir. Dylai ddangos hunanymwybyddiaeth y Llywodraeth i wybod ble mae pethau ar raddfa pethau.
Mae 10 amcan llesiant i'w croesawu. Roeddwn i'n edrych ymlaen at ddarllen drwy'r adroddiad, ac roeddwn i'n edrych ymlaen at gyrraedd y gwerthusiad yr wyf i mor gyfarwydd ag ef fel cyn arweinydd cyngor, yn gorfod paratoi ar gyfer rheoleiddwyr, ar gyfer cynulleidfaoedd a allai fod yn arolygu fy nghynlluniau blynyddol yr oeddwn i'n eu cyflwyno. Ond, roeddwn i'n siomedig o weld nad oedd unrhyw ffordd o werthuso'r stori sy'n cael ei hadrodd wrthym ni. Er bod llawer o bethau da yn yr adroddiad, rwy'n siŵr bod llawer o feysydd lle mae angen i'r bobl ddeall ychydig mwy am yr hyn sydd wedi mynd o'i le, beth sydd ei angen i unioni pethau, a sut y byddai'r pethau hynny'n cael eu mesur. Mae rheoli perfformiad yn allweddol mewn unrhyw sefydliad, ac ni ddylem ni ond ei gymryd yn ganiataol pan gaiff ei gyflwyno gydag adroddiad blynyddol. Dylem ni allu craffu ar hynny fel Senedd a herio, a deall beth sydd angen digwydd i wella pethau.
Rwyf i wedi arfer edrych ar dablau RAG—rwy'n siŵr bod llawer ohonoch yn gwybod am y rheini; tablau coch, oren, gwyrdd sy'n cyd-fynd ag adroddiadau. Llywydd, sut y mae'r Senedd wir yn gwerthuso'r mathau hyn o adroddiadau, neu sut y bydd yn gwneud hynny yn y dyfodol? Rwy'n gwybod fy mod i, mae'n debyg, yn bod yn naïf wrth ddisgwyl pethau o'r fath, ond rwy'n credu ei bod yn arfer da i ni allu edrych ar sut mae pethau'n mynd rhagddynt, a sut mae'r Llywodraeth ei hun yn gwerthuso cynnydd yn erbyn ei hamcanion. A oes targedau? Pa dargedau sy'n cyd-fynd â'r 10 nod llesiant hyn, a sut yr ydym ni'n gwerthuso'r rheini? Heb herio data'n gadarn, siawns nad yw'r Llywodraeth mewn perygl o gredu safbwyntiau nad ydyn nhw bob amser yn gywir. Er enghraifft, pan fyddwch chi'n darllen amcan 1,
'Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel', gallech chi gael eich camarwain i deimlo nad yw pethau'n rhy ddrwg—y gallai pethau fod yn oren, yn ffiniol wyrdd. Fodd bynnag, fel y nododd Andrew R.T. Davies yn gadarn y bore yma ac eto heddiw, ac mae llawer o rai eraill yn adrodd hyn i ni bob dydd—. Yn wir, eisteddais i mewn cyfarfod neithiwr lle y gwnaethom ni glywed am berfformiad ofnadwy yn ein bwrdd iechyd. Felly, y gwir sefyllfa yw, ar sail sgôr RAG, yw y byddai hyn yn goch—coch sylweddol—a byddwn i'n cael fy nwyn i gyfrif os mai fy sefydliad i ydoedd, gan y Gweinidog llywodraeth leol bryd hynny, ac rwyf wedi cael fy herio droeon yn y gorffennol.
Mae llawer o feysydd sy'n haeddu cydnabyddiaeth, ond rwyf i'n apelio arnoch chi, Prif Weinidog, yn y dyfodol, bod gennym ni'r darlun llawn mewn adroddiadau blynyddol, y cyfle i herio cyfeiriad y Llywodraeth hon yn gadarn, a sut y mae pethau'n cael eu cyflawni, oherwydd ar hyn o bryd, rwy'n teimlo ei bod yn anodd deall. Mae'n rhaid i mi ei gymryd yn ganiataol mai dyma beth yr ydym ni'n ei wneud. Sut ydw i'n gwybod sut yr ydym ni'n mynd i wneud yn well? Diolch yn fawr, Llywydd.
Y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Llywydd, diolch yn fawr. A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn y dywedodd ef am y gallu i gydweithio pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny? Bydd cyfleoedd yn y flwyddyn i ddod hefyd i barhau i wneud hynny pan fo gennym rai agendâu ar y cyd. Gwaith y gwrthbleidiau yw gwrthwynebu, Llywydd, felly rwy'n deall, pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn gafael mewn un ystadegyn o rywle arall ac yn ceisio seilio adeiladwaith cyfan arno, ei fod yn gwneud y gwaith y mae disgwyl iddo'i wneud. Ni ddylai hynny ymestyn i beidio â rhoi cydnabyddiaeth briodol i bethau lle mae'r clod hwnnw'n haeddiannol. Gwnaeth y Gweinidog gyfarfod â datblygwyr tai a datblygwyr adeiladau ddoe ddiwethaf er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau yma yng Nghymru, yn union fel y mae disgwyl iddyn nhw ei wneud mewn mannau eraill.
O ran plant sy'n byw mewn llety dros dro, mae hi dal yn amcan y Llywodraeth hon i ddileu'r defnydd hwnnw, ac edrychaf ymlaen at allu cydweithio ar rai o'r polisïau heriol y bydd angen i ni eu cyflwyno er mwyn sicrhau y gallwn ni gyflawni'r amcan hwnnw.
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn y dywedodd ef am y camau a gafodd eu cymryd i gefnogi pobl sy'n dod o Wcráin. Bydd ef wedi gweld bod yr Alban heddiw hefyd wedi gorfod atal ei llwyfan uwch-noddwyr, a hynny oherwydd bod y cyflymder y mae pobl yn cyrraedd Cymru a'r Alban yn awr yn golygu, er mwyn gallu parhau i ofalu am bobl yn y ffordd y byddem ni'n ei ddymuno, fod yn rhaid i ni gael cydbwysedd yn y system, lle bo'r bobl sy'n gadael ein canolfannau croeso yn gytbwys yn fras â'r bobl sy'n cyrraedd. Gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud hynny'n gyflymach, ond mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn. Pan fyddwn ni'n cynnig cyfle i bobl symud i'r trefniadau tymor hirach hynny, rydym ni eisiau gwneud hynny ar y sail orau bosibl a gyda'r risg leiaf posibl y bydd y trefniadau hynny'n chwalu.
Diolch i Rhun ap Iorwerth. Wrth gwrs, rydyn ni eisiau cydweithio gyda Plaid Cymru ar bopeth sydd yn ein cytundeb. Fel y dywedodd e, rydyn ni wedi dechrau ar hwnna yn gyflym yn barod, a dwi'n edrych ymlaen at fis Rhagfyr pan fydd cyfle i ni adrodd ar bopeth sydd yn y cytundeb yn llawn. Rydyn ni wedi bod yn siarad heddiw, Llywydd, am nifer o bethau lle rydyn ni wedi cydweithio yn barod—diwygio'r treth gyngor; dim ond heddiw mae'r Gweinidog cyllid wedi cyhoeddi nifer o bosibiliadau heriol a radical. Ond, os ydyn ni'n mynd i wneud pethau sy'n radical, bydd rhaid i ni wneud pethau sy'n heriol hefyd. Dyna bwrpas cydweithio, i fwrw ymlaen gyda pethau fel yna. Wrth gwrs, dydy taith datganoli ddim ar ben. Ond, pan ydych chi'n gweithio tu fewn i'r Llywodraeth, mae'n rhaid i chi ffocysu ar y pethau y gallwn ni eu gwneud ac y gallwn ni eu gwneud heddiw, ac nid jest siarad am bethau na allwn ni eu gwneud. Gwaith y Llywodraeth yw, fel rydyn ni wedi dangos yn yr adroddiad blynyddol, i ddefnyddio'r pwerau a'r cyfrifoldebau sydd gyda ni yn barod.
Diolch i Peter Fox am yr hyn y dywedodd ef. Byddaf i'n meddwl yn ofalus am yr hyn y dywedodd. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, mae gennym ni fôr o ddata. Rydym ni'n cyhoeddi mynydd o ddata fel Llywodraeth. Nid yw'n broblem o fod heb ddigon o ddata, yr hyn nad ydym ni bob amser yn ei wneud gymaint ag y byddem ni eisiau ei wneud yw canolbwyntio ar yr esboniad sydd y tu ôl i'r data hynny, y ddealltwriaeth ohono. Os oes mwy y gallwn ni ei wneud mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol i adlewyrchu hynny, fel y dywedais i, byddaf i'n rhoi ystyriaeth ofalus i'r hyn y dywedodd ef.
Yn y cyfamser, Llywydd, dyma adroddiad blynyddol cyntaf tymor y Senedd hon. Mae'n dangos, rwy'n credu, y dechrau cryf sydd wedi'i wneud o ran cyflawni'r amcanion llesiant hynny, er gwaethaf y ffaith eich bod chi, mewn unrhyw fath o lywodraeth, yn treulio llawer iawn o'ch amser yn ymdrin â phethau nad oedden nhw'n rhan o'ch cynllun ac yn wir ymhell y tu hwnt i'ch cwmpas eich hun. Felly, p'un ai yw hi'n Brexit neu'n COVID, neu'r argyfwng costau byw, neu ryfel yn Ewrop, mae'r holl bethau hynny'n pwyso ar y Llywodraeth bob dydd. Ac eto, mae'r adroddiad blynyddol yn dangos ein bod ni wedi gallu gwneud cynnydd sylweddol, gan nodi'r sylfeini ar gyfer y blynyddoedd i ddod, i gyflawni'r mandad y gwnaeth pobl Cymru ei roi i'r Llywodraeth hon. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny.
Ni fyddwn ni'n gallu cefnogi'r gwelliant yn enw Darren Millar. Byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant cyntaf a gafodd ei gyflwyno gan Siân Gwenllian. Ni fyddwn ni'n gallu cefnogi'r ail un. Ac, felly, gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n barod i gefnogi'r cynnig diwygiedig, os mai dyna sydd o'n blaenau ni i'w benderfynu. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i welliant 1 ac, felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, fe gymerwn ni doriad byr er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais hynny yn dechnegol.