1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2022.
2. Sut mae'r Llywodraeth yn cysoni gwaith Cwmni Egino ar ddatblygu gorsafoedd pŵer niwclear â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ58372
Llywydd, mae Cwmni Egino wedi cael ei sefydlu i ailddatblygu cyn-safle gorsaf bŵer Trawsfynydd. Fel y nodir yn llythyr cylch gwaith y cwmni, bydd gofynion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhan annatod o'i asesiad o bob prosiect posibl.
Diolch am yr ateb hynny, Brif Weinidog. Pe bai'r bobl gyntaf ddaru adael cyfandir Affrica 80,000 o flynyddoedd yn ôl wedi cloddio am wraniwm a datblygu ynni niwclear, yna mi fyddem ni'n parhau i ddelio efo'r gwastraff heddiw, oherwydd mae gan thoriwm-230, sydd i'w ganfod yn tailings y gweithfeydd wraniwm, hanner bywyd o 80,000 o flynyddoedd. Mae gan plwtoniwm-239, o bosib yr elfen fwyaf peryglus i ddynoliaeth, hanner bywyd o 24,000 o flynyddoedd. Bydd dynoliaeth wedi esblygu i fod yn species arall, a byddwn ni'n parhau i dalu am y gwaith cynnal a chadw i ddiogelu gwastraff niwclear sy'n cael ei gynhyrchu heddiw. Os mai ni sy'n cynhyrchu'r gwastraff yma, onid ein cyfrifoldeb ni ydy delio efo'r gwastraff, yn hytrach na gadael 140 tunnell o wastraff ymbelydrol, y storfa fwyaf yn y byd, i sefyll heb fodd i'w waredu, yn Sellafield Cumbria? Ac a fyddech chi'n hapus i gael atomfa a chanolfan wastraff yma yng Nghaerdydd?
Llywydd, mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn bwysig. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i unrhyw bosibiliadau am y dyfodol i'r diwydiant niwclear ddelio â'r problemau sy'n codi gyda gwastraff niwclear. Ond dydy honno ddim yn mynd i fod yn broblem newydd i Drawsfynydd, onid yw hi? Rŷn ni wedi cael diwydiant niwclear yn Nhrawsfynydd am flynyddoedd, so mae'r broblem honno wedi codi yn barod—dŷn ni ddim yn creu problem newydd drwy'r posibiliadau y mae Cwmni Egino yn eu trafod nawr am y safle. Ac mae mwy nag un posibiliad yn codi yng nghyd-destun Trawsfynydd hefyd. Dwi'n awyddus i weld y cynllun i greu cyfleuster isotopau meddygol—yr unig un yn y Deyrnas Unedig—yn cael ei sefydlu yn Nhrawsfynydd. So, dwi ddim yn siŵr a yw'r Aelod jest yn erbyn popeth rŷn ni'n trio'i wneud yn Nhrawsfynydd mewn egwyddor, neu a yw e'n awgrymu, fel dwi'n gweld pethau, mai'r peth pwysig yw meddwl am y posibiliadau, am bobl sy'n byw yn yr ardal, i fod yn ofalus pan fyddwn ni'n symud ymlaen â'n syniadau, ond i weithio ar y pethau ymarferol sy'n codi pan fyddwch chi'n trio ail-greu posibiliadau ar safle sydd wedi cael ei defnyddio ar gyfer pŵer niwclear dros y blynyddoedd yn barod.
Ar nodyn llawer ysgafnach o optimistiaeth, hoffwn gytuno â nodau craidd Cwmni Egino, sef helpu i fanteisio ar fuddion economaidd adweithyddion modiwlaidd bach a thechnolegau cysylltiedig yn Nhrawsfynydd. Nawr, efallai eich bod yn ymwybodol, Prif Weinidog, fy mod wedi bod yn amheus ynghylch cynnydd hyn. Fe'i cyhoeddwyd ar 30 Medi 2020, ac eto, ni osodwyd targedau cerrig milltir ymarferol ar unwaith. Ac yna bu'n rhaid i ni aros 18 mis arall cyn i brif weithredwr hirdymor, Alan Raymant, gael ei benodi. Fodd bynnag, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddwch chi'n ymuno â mi i gymeradwyo ei nod o sicrhau mai Trawsfynydd yw'r safle adweithydd modiwlaidd bach cyntaf yn y DU. Fel y mae'r prif weithredwr wedi dweud ei hun, mae hyn yn cael hwb drwy gael Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi niwclear yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae costau a chyllid yn allweddol, ac maen nhw wedi bod yn rhan o brosiectau blaenorol yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Deddf Ynni Niwclear (Ariannu) 2022 a Great British Nuclear, a all helpu gyda chyllid, ond a wnewch chi amlinellu, Prif Weinidog, pa gymhellion ariannol y mae Llywodraeth Cymru a Chwmni Egino yn ystyried eu darparu i helpu i sicrhau y bydd gwaith yn dechrau ar adweithydd modiwlaidd bach yn Nhrawsfynydd? Diolch.
Wel, Llywydd, rwyf innau'n falch bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio defnyddio safle Trawsfynydd, ac i fanteisio ar dechnolegau newydd a allai fod yn ddefnyddiol i ni yn y dyfodol. Nid oes dim o hynny yn mynd i wthio o'r neilltu y pwyntiau pwysig a gododd Mabon ap Gwynfor am waddol gwastraff niwclear a sicrhau, wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, ein bod yn ystyried hynny i gyd yn briodol. Mae gan adweithyddion niwclear bach gyfres wahanol o bosibiliadau a hawlir ar eu cyfer. Nid yw'n dechnoleg sy'n barod i'w defnyddio heddiw, ac efallai nad yw'n dechnoleg a fydd yn barod i'w defnyddio am beth amser eto, ac mae Trawsfynydd, beth bynnag, yn safle lle mae'n rhaid cwblhau'r gwaith y mae angen ei wneud i ymdrin â gweithgaredd niwclear blaenorol cyn y gellir cadarnhau defnyddiau newydd ar gyfer y safle hwnnw. A dyna y mae Cwmni Egino yn canolbwyntio arno ar hyn o bryd, gan sicrhau ei fod yn gweithio gyda'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear i greu amgylchiadau lle gellir cyflwyno defnyddiau ar gyfer y safle hwnnw yn y dyfodol yn briodol, ac, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, nid yw'r rheini wedi'u cyfyngu i faes yr adweithyddion modiwlaidd bach. Nid oes gan y DU gyfleuster isotopau meddygol ein hunain. Nid oedd o bwys tra yr oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd; mae'n bwysig iawn i ni yn awr. Mae defnyddio'r arbenigedd sydd ar gael a'r cyfleoedd y mae'r safle'n eu cynnig i wneud mwy yn y maes hwnnw, a rhoi cydnerthedd i'r DU yn y maes hwnnw, yn gyfle gwirioneddol i'r rhan honno o Gymru.
Cytunaf, wrth gwrs, â'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am y ffaith bod problemau yn y gorffennol o ran cost a chyllid wedi bod yn endemig yn y maes hwn. Gwariodd y cwmni o Japan, Hitachi, a weithiodd i ddod â'r ail safle yn Ynys Môn i fodolaeth, £2 biliwn cyn i'w fwrdd benderfynu na allai barhau i fuddsoddi heb unrhyw obaith y byddai'r datblygiad hwnnw'n dwyn ffrwyth. Felly, mae'n iawn i ddweud bod gan Lywodraeth y DU hanes nad yw'n galonogol i unrhyw fuddsoddwr yn y maes hwn, a phan gawn Lywodraeth y DU o'r diwedd sy'n gallu gwneud penderfyniadau o'r math hwn, yna gobeithio y cawn well bargen ganddyn nhw na'r hyn a welsom hyd yn hyn.
Prif Weinidog, mae niwclear yn rhan fach o'n rhagolygon o ran cynhyrchu ynni yng Nghymru. Gyda'n hadnoddau naturiol, gallwn gynnig potensial mawr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o wynt, tonnau a llanw. Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi mor siomedig oedd gweld dim ond pedwar prosiect o Gymru yn llwyddo yng nghylch ariannu diweddaraf Contractau ar gyfer Gwahaniaeth Llywodraeth y DU, ac, o'r pedwar, dim ond un prosiect ffrwd llanw llwyddiannus?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â phob rhan o gwestiwn atodol Joyce Watson. Rwy'n cytuno'n llwyr fy hun mai ynni adnewyddadwy ddylai fod y prif gyfrannwr at ddyfodol ynni Cymru, ynghyd â defnyddio'r holl adnoddau naturiol gwych sydd ar gael i ni yng Nghymru. Ac yr oedd yn siomedig clywed, yn gynharach y mis hwn, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ganlyniad rownd 4 ei Chontractau ar gyfer Gwahaniaeth, mai dim ond pedwar prosiect a gadarnhawyd yng Nghymru yn y cylch ceisiadau hwnnw. Pedwar ar hugain i'r Alban, llawer mwy i Loegr, a dim ond pedwar yma yng Nghymru. Ac fel y dywed Joyce Watson, o'r pedwar a gymeradwywyd, dim ond un oedd yn ymwneud â thechnoleg forol, yr oedd y tri arall mewn technolegau sefydledig. Roeddem yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn mynd i ddarparu rhywfaint o arian ychwanegol yn y maes hwn, ond nid oedd £20 miliwn byth yn mynd i fod yn ddigon i wneud y pethau y mae angen i ni eu gweld yma yng Nghymru. Rwyf yn falch, wrth gwrs, fod un prosiect ffrwd llanw wedi bod yn llwyddiannus, i fyny ym Morlais, ond gwyddom fod prosiectau eraill yn y maes arloesol hwnnw a fyddai'n creu ynni adnewyddadwy'r dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn dilyn y cyhoeddiad, i weld pam na chafodd y prosiectau eraill hynny eu hariannu yn y ffordd y byddem ni eisiau ei gweld ac annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mwy yn y maes hwn, oherwydd byddwn yn cael llawer mwy yn ôl yn sgil y buddsoddiad hwnnw ac yn llawer cyflymach na rhai o'r prosiectau aflwyddiannus y maen nhw wedi buddsoddi ynddyn nhw heb unrhyw elw yn y gorffennol.