Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac am ei gefnogaeth i'r datganiad yn gyffredinol, ac mae'r cwestiynau'n rhai teilwng iawn. O ran lleoliadau yr ysgolion newydd, bydd y 23 o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn cael eu dosbarthu ymhlith 15 o'r cynghorau lleol, ond mae'r rheini yn ymestyn o Benfro i Ferthyr i'r Fro, felly ar draws Cymru benbaladr. Ac mae hefyd 10 awdurdod lleol yn ffocysu ar symud ysgolion presennol ar hyd y continwwm ieithyddol. Felly, pan fydd cynlluniau'n cael eu cyhoeddi maes o law, wedi iddyn nhw gael eu cymeradwyo'n swyddogol, bydd yr Aelod yn gallu gweld yn fanwl beth yw'r cynlluniau ymhob rhan o Gymru, ac mae'r darlun yn edrych yn wahanol, wrth gwrs, ymhob awdurdod, yn dibynnu lle maen nhw eisoes ar eu llwybr tuag at gynyddu darpariaeth. Bydd rhai, o ran y cwestiwn gweithlu, fel roedd e'n gofyn ar y diwedd, angen, wrth gwrs, recriwtio athrawon ychwanegol. Mi wnaiff e weld yn y cynlluniau fod dadansoddiad o'r gofyniad fydd ei eisiau i sicrhau er mwyn llwyddo yn y cynllun. Mae hynny hefyd wedi ei gynnwys yn y cynllun gweithlu addysg 10 mlynedd, a byddwn ni'n edrych bob dwy flynedd ar beth yw'r sefyllfa gyfredol, fel ein bod ni'n cadw trac mewn amser go iawn ar y llwyddiant i recriwtio rhifau mwy. Ond i rai awdurdodau lleol eraill, lle mae'r pwyslais ar symud ysgolion ar hyd y continwwm, cwestiwn o ddatblygu sgiliau'r gweithlu presennol, efallai, yw e iddyn nhw. Felly, mae cymysgedd o anghenion, a bydd e'n gwybod y bydd y cynllun 10 mlynedd yn cyfrannu'n sylweddol tuag at recriwtio i mewn i'r sector.
O ran amserlenni, mae'n gynllun 10 mlynedd, ond mae angen gweld cynnydd ymhob blwyddyn, ac mae amryw o'r amcanion ar draws Cymru yn seiliedig ar gyfnod o bum mlynedd, efallai, fel ein bod ni'n gweld cynnydd penodol yn y cyfnod cyntaf, ac wedyn camau sy'n cael eu cymryd yn y tymor hirach o fewn y degawd hwnnw. Mae disgwyl i bob awdurdod lleol gyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer y pum mlynedd gyntaf a bydd y rheini'n cael eu monitro'n flynyddol. Felly, byddan nhw'n cyhoeddi'r rheini ar ôl cyhoeddi'r cynlluniau strategol.
Ac roedd e'n gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â rôl cynllun cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, sef ein cynllun buddsoddi ni yn yr ystâd addysgiadol yn gyffredinol. Rwyf eisiau ystyried sut y gallwn ni wneud y defnydd gorau o'r rhaglen gyfalaf honno i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'n huchelgais ni o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mi wnes i sôn yn y datganiad am y gronfa o £76 miliwn sydd wedi'i wario neu ei ddyrannu ar gyfer ysgolion newydd ac ehangu ysgolion, ond byddaf eisiau gweld hefyd beth mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod cynnydd yn y cynlluniau strategol yn digwydd ar y cyd â'r cynlluniau ehangach sydd gan ein partneriaid ni mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru.