Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Dwi'n falch bod y cynnig yma o'n blaenau ni heddiw. Rwyf innau yn mynd i fod yn cyfeirio at ambell i bwynt sydd wedi cael ei wneud yn barod. Mae gan o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru heintiad cronig hepatitis C. Heb ei drin o, wrth gwrs, mae e'n gallu creu ac achosi afiechydon difrifol iawn—sirosis yr iau, canser yr iau, a phroblemau iechyd eraill. Dwi'n gwybod, o fod wedi siarad efo etholwyr, pa effaith mae o'n gallu cael ar fywydau bob dydd pobl. Yng ngeiriau un etholwr, a gafodd hepatitis C drwy waed wedi ei heintio yn yr 1970au, 'Dydw i byth yn cael diwrnod da, dim ond dyddiau drwg neu rai drwg iawn.'
Erbyn hyn, wrth gwrs, mae hi'n bosib trin hepatitis C, gwella ohono fo a'i atal o yn y lle cyntaf, ac, yn allweddol, mi allwn ni gael gwared ar hepatitis C yn llwyr. Ond er bod cael gwared arno fo yn bosib, a bod Cymru yn y gorffennol wedi cymryd camau breision tuag at ddileu erbyn 2030, y gwir ydy ein bod ni rŵan yn llithro yn ôl a dydyn ni ddim ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i daro'r targed. Cymru ydy'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i beidio â chael targed o ddileu hepatitis C cyn y targed yna o 2030 sydd wedi'i osod gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi pennu targed uchelgeisiol o ddileu erbyn 2025, a Llywodraeth yr SNP yn yr Alban yn gosod targed mwy uchelgeisiol fyth o ddileu erbyn 2020.
Mi glywch chi'r Llywodraeth yma yng Nghymru yn dweud bod COVID wedi cael effaith, ac wrth gwrs dwi ddim yn amau hynny, ond hyd yn oed cyn y pandemig mi wnaeth y pwyllgor iechyd ddatgan pryderon nad oedden ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed 2030, hyd yn oed. Mae yna waith da iawn yn cael ei wneud. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini o fewn y gyfundrefn iechyd ac elusennau am y camau bras maen nhw wedi sicrhau sy'n digwydd yn barod, ond mae angen gweithredu ehangach gan Lywodraeth Cymru.
Yn gyntaf, mi ddylai'r Llywodraeth roi cyllidebau penodol mewn lle—cyllideb benodol ar gyfer hepatitis C. Mi fyddai hynny yn rhoi y sicrwydd sydd ei angen ar fyrddau iechyd i allu buddsoddi yn unol â'r broses o ddileu'r clefyd erbyn y dyddiad hwnnw. Yn ail, mae angen inni sicrhau bod arbedion—ac rydyn ni wedi eu gweld yn ddiweddar mewn costau triniaeth oherwydd newidiadau i systemau caffael a chaffael canolog llwyddiannus—yn cael eu hailfuddsoddi i ddod o hyd i gleifion hepatitis C sydd heb gael diagnosis. Yn drydydd, efo cyfraddau uchel iawn o heintiad hepatitis C ymhlith defnyddwyr cyffuriau sy'n chwistrellu, mae angen cymorth ariannol penodol yn y maes hwnnw i gynnig a chynnal mwy o brofion, er enghraifft. Mi hoffwn i glywed ymateb y Llywodraeth a'r Gweinidog i'r tri phwynt yna.
Mae gen i ambell sylw arall, a dau gwestiwn. Mae rhai o'r strategaethau a fydd yn ein helpu ni i ddileu HIV a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y maes hwnnw, rhywbeth sydd wedi cael sylw yn ddiweddar, hefyd yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth inni geisio cyrraedd y nod o ddileu hepatitis C. Ydy'r Llywodraeth yn gwneud yn siŵr bod y ddau nod, neu'r ddau ymgyrch yna, yn gweithio law yn llaw i osgoi dyblygu?
Ac yn olaf, gan symud oddi wrth y ffocws ychydig bach, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar waed wedi'i heintio, yr wythnos yma mi glywodd yr ymchwiliad i waed wedi'i heintio dystiolaeth gan Syr Robert Francis am gynllun iawndal posib i ddioddefwyr neu deuluoedd. Mi fuaswn i'n ddiolchgar o glywed pa drafodaeth mae'r Llywodraeth wedi'i gael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hynny yn ddiweddar. Diolch yn fawr.