Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 11 Medi 2022.
Diolch am y cyfle i gyflwyno ychydig o eiriau yn ein Senedd genedlaethol ar gychwyn wythnos sy'n arwain at angladd y ddiweddar Frenhines Elizabeth II, ac dwi'n gwneud hynny fel trefnydd busnes a dirprwy arweinydd grŵp Plaid Cymru, a hefyd fel Aelod etholaeth Arfon. Mae fy etholaeth yn cynnwys yr hyn a elwir yn 'dref frenhinol Caernarfon'. Dyma i chi dref arbennig—tref lle mae’r Gymraeg yn fyw ac iach, tref llawn hanes, a thref sydd â chysylltiadau hir iawn gyda’r frenhiniaeth, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a hynny ers dros 700 o flynyddoedd.
Dwi'n ymuno efo Aelodau yn y Siambr drwy estyn fy nghydymdeimlad innau â theulu'r ddiweddar Frenhines Elizabeth II yn eu galar. Mae sylw’r byd arnyn nhw ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw ymdopi â'r tristwch mawr sy’n dod yn sgil colli un sydd yn annwyl i chi.
Mae llawer wedi newid yn ystod y 96 mlynedd diwethaf. Ond, ers 70 mlynedd, mae un peth wedi aros yr un fath, gydag ond un person yn cyflawni’r rôl o frenhines ar hyd yr holl amser yma. Mae gwneud un swydd yn ddigyfnewid am gyhyd yn gamp go fawr. Camp hefyd oedd ymuno â byd gwrywaidd iawn mewn oedran cynnar a llwyddo i ddal ei thir, y rhan fwyaf o’r amser, fe ymddengys. Roedd hi'n yn weladwy iawn yn ei rôl, ac, yn y cyfnod cynnar, roedd hi'n anarferol gweld menyw ar lwyfannau cyhoeddus mor gyson. Rhoddwyd hygrededd i rôl menywod mewn bywyd cyhoeddus. Mae bywydau merched wedi newid llawer dros y 96 mlynedd diwethaf, ond mae llawer o’r heriau yn parhau yn anffodus, a’r symud at gydraddoldeb rhywedd yn ystyfnig o araf o hyd.
Fe welodd Elizabeth newidiadau mawr yn ystod ei hoes hir, ac mae’n briodol ein bod ni'n adlewyrchu ar y newidiadau rheini gan ddefnyddio ei bywyd ac achlysur ei marwolaeth i edrych yn ôl dros gyfnod ei hoes. Mi fyddwn ni, yn y Siambr yma, yn dehongli’r saith degawd aeth heibio yn ôl ein gwahanol safbwyntiau, wrth gwrs, ac yn dod i wahanol gasgliadau yn dibynnu ar y persbectifs rheini. Ond mae hi'n briodol defnyddio’r cyfnod hwn i adlewyrchu. Mae hi hefyd yn bwysig defnyddio’r amser i edrych ymlaen, i edrych ymlaen gan ganolbwyntio ar flaenoriaethu’r hyn sydd yn bwysig mewn byd llawn helbulon. Roedd Elizabeth II yn gwybod beth oedd angen iddi ei wneud. Fe wnaeth hi wneud yr hyn ofynnwyd iddi hi am gyfnod hirfaith, a, bellach, daeth heddwch i’w rhan.