Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 11 Medi 2022.
A gaf i mi ymuno ag Aelodau eraill hefyd, wrth ddweud yn gyntaf pa mor braf yw gweld Aelodau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn dod at ei gilydd heddiw i nodi ein parch a thalu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II? Mae'r undod yma o ysbryd yn fy atgoffa o'r adeg pan oeddwn yn fy arddegau, ac fe wna i rannu rhai atgofion personol hefyd. Pan oeddwn i yn fy arddegau, ymwelodd y Frenhines â fy ysgol ym Mae Colwyn, a digwydd bod fe gyfeiriodd Darren Millar at hyn funud yn ôl, gan iddi ymweld â fy ysgol ym Mae Colwyn ym Mharc Eirias. Yr hyn a wnaeth fy nharo i o'r ymweliad hwn oedd nid dirprwy faer Towyn a Bae Cinmel yn gwneud y don Mecsicanaidd. Yr hyn a wnaeth fy nharo o'r ymweliad hwn, ar wahân i ba mor lân y daeth y lle'n sydyn, oedd y lliaws o bobl wahanol a ddaeth i'w gweld—pobl o wahanol oedrannau, gwahanol gefndiroedd, gwahanol hiliau, gwahanol gredoau. Hyd yn oed pan oeddwn yn iau, yn fy arddegau, deallais ei bod hi'n ffigwr a oedd yn uno pobl—yn rhywun a oedd yn dod â phobl at ei gilydd.
Cafodd hyn ei amlygu eto yn ystod cyfnodau clo COVID. Os cofiwn, rhoddodd Ei Mawrhydi araith anhygoel o deimladwy, a rhoddodd hynny, i mi'n bersonol, gryfder mawr i mi drwy gyfnod anodd iawn i fy nheulu. A dyfynnaf y llinellau a darodd dant gyda mi mewn gwirionedd. Dywedodd Ei Mawrhydi:
'Gyda'n gilydd rydym yn mynd i'r afael â'r clefyd hwn, ac fe hoffwn i eich sicrhau, os ydym yn parhau i fod yn unedig ac yn benderfynol, yna byddwn yn ei oresgyn...Dylem gymryd cysur, er y gallem fod â mwy o hyd i'w ddioddef, bydd dyddiau gwell yn dychwelyd: byddwn gyda'n ffrindiau eto; byddwn gyda'n teuluoedd eto; byddwn yn cyfarfod eto.'
Roedd y geiriau hynny mor bwysig i gymaint bryd hynny, ac yn ein huno gyda'n gilydd eto. Roedd ei phŵer a'i gallu i uno yn arddangosiad clir o safon ei hymarweddiad, gan newid gyda'r oes fel yr oedd angen iddi, gan ennill parch ac edmygedd cynifer.
Yr agwedd arall yr hoffwn dalu teyrnged iddi heddiw yw'r enghraifft o wasanaeth a dyletswydd y mae cymaint yma wedi'i grybwyll yn barod. Gosododd esiampl wych i ni i gyd. Cyflawnodd ei swyddogaeth gydag urddas a pharch, gan wasanaethu ei gwlad a'i phobl yn briodol tan y diwedd un, fel y gwelsom yr wythnos ddiwethaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn deillio o'i hamser—ac mae pobl eisoes wedi dyfynnu hyn—â hithau'n 21 oed, pan ddatganodd:
'Rwy'n datgan ger eich bron chi i gyd y caiff fy holl fywyd boed yn hir neu'n fyr ei neilltuo i'ch gwasanaeth.'
Efallai mai'r gwahaniaeth fwyaf rhwng y Frenhines a'r mwyafrif llethol ohonom ni yw iddi gadw ei haddewid. Cadwodd ei haddewid cyn iddi fod yn Frenhines a thrwy ei 70 mlynedd o deyrnasu. Gweithiodd Ei Mawrhydi gyda 15 o Brif Weinidogion, ac rwy'n siŵr bod rhai yn anoddach i weithio gyda nhw nag eraill. Cynhaliodd ddegau ar filoedd o ymgysylltiadau brenhinol, roedd yn noddwr ac yn llywydd dros 600 o elusennau, ac wrth gwrs hi oedd ein brenhines a deyrnasodd hiraf erioed. Gosododd Ei Mawrhydi yr esiampl orau bosibl i bob un ohonom ni. Dyna pam, pan gymerais fy llw o deyrngarwch a thyngu llw yn Aelod o Senedd Cymru, pleser o'r mwyaf oedd datgan fy nheyrngarwch i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Cysegrodd Ei Mawrhydi ei bywyd i'r wlad hon—craig i gymaint cyhyd. Diolch i chi, Fawrhydi, am eich gwasanaeth diwyro, a Duw gadwo'r Brenin.