1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Medi 2022.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r sector darlledu yng Nghymru? OQ58389
Diolch yn fawr i Hefin David am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae'r sector yn chwarae rôl bwysig yn rhoi gwybodaeth i bobl yma yng Nghymru, ac i'n helpu ni i greu pethau i'n dinasyddion. Rydym ni'n cefnogi'r sector drwy becyn o bethau. Rydym ni'n gweithio gyda'r sector, ac i'w helpu nhw i wrthwynebu beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud yn y maes hwn.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r cynghorydd Plaid Cymru y tynnwyd llun ohono yn dal gwn, gan fygwth atal pobl o Loegr rhag dod i mewn i Gymru, a adroddwyd gan y Local Democracy Reporting Service. [Torri ar draws.] Mae'r cynghorydd wedi cael ei wahardd gan eich plaid; peidiwch â gweiddi 'Dewch ymlaen' arnaf i. Mae wedi cael ei wahardd gan eich plaid. Cafodd ei adrodd gan y Local Democracy Reporting Service, a Rhiannon James wnaeth gyhoeddi'r stori i'r Caerphilly Observer. Cafodd ei rhannu'n genedlaethol wedyn—roedd yn The Times, The Daily Telegraph, y Daily Mail, The Mirror, The Sun; fe'i rhannwyd hefyd ar y BBC. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd adrodd ar ddemocratiaeth leol yng Nghymru, ac yn enwedig gwerth y Caerphilly Observer.
Nawr, rwy'n gwybod bod grŵp gorchwyl a gorffen sy'n mynd i fod yn adrodd yn ôl i Dawn Bowden yn ddiweddarach eleni ar sut y gallwn ni gefnogi'r sector hwnnw ymhellach. Un o'r pethau yr hoffwn i ei ddweud cyn hynny yw bod rhai pethau y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud, ac yn gyntaf oll byddwn yn dweud y dylid sicrhau bod hysbysebion Llywodraeth Cymru yn cael eu targedu at yr asiantaethau newyddion bach hyperleol hynny, fel y Caerphilly Observer. Bydden nhw'n elwa yn enfawr o gael hysbysebion Llywodraeth Cymru ynddyn nhw. A hefyd, y £100,000 y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar y bwrdd eleni, rwy'n credu y gellid cyfeirio hwnnw nid at bobl fel Newsquest neu Reach, sydd eisoes â chyd-dyriad cenedlaethol; rwy'n credu y byddai'n cael ei dargedu'n well at y bobl hyperleol hynny, fel y Caerphilly Observer. Nid yw hynny'n bwriadu achub y blaen ar y grŵp gorchwyl a gorffen, ond rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y safbwyntiau hynny'n cael eu cymryd i ystyriaeth gan y Dirprwy Weinidog pan ddaw'r amser?
Diolch i Hefin David. Mae dau wahanol swm o arian ar gael drwy Lywodraeth Cymru. Mae cronfa newyddiaduraeth budd cyhoeddus Cymru, ac mae naw dyfarniad wedi cael ei gwneud ohoni'n barod. Roedd y Caerphilly Observer yn un o'r buddiolwyr ohoni, ynghyd â sefydliadau fel Llanelli Online a Wrexham.com, yr oedd pob un ohonyn nhw'n gyfranogwyr rheolaidd iawn yn y gyfres o gynadleddau newyddion a gynhaliwyd gennym ni yn ystod argyfwng COVID ac a wnaeth waith da iawn yn wir o hysbysu eu darllenwyr am y materion hyperleol hynny.
Yna, ceir swm arall o £100,000, wedi ei neilltuo o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu. Fel y dywedodd Hefin David, mae grŵp yn gweithio ar y ffordd orau y gellir defnyddio'r arian hwnnw. Gwn eu bod nhw'n edrych ar y mater o sut y gellir tynnu mwy o arian tuag atyn nhw o gyllideb hysbysebu Llywodraeth Cymru, trwy gyfuno grym prynu. Bydd y Gweinidog wedi clywed y sylwadau y mae'r Aelod wedi eu gwneud y prynhawn yma, ac rwy'n eithaf sicr y byddan nhw'n cael eu cyfleu i'r gweithgor hwnnw. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at allu manteisio'n iawn ar eu harbenigedd.
Prif Weinidog, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sydd wrth wraidd yr economi greadigol yng Nghymru, gan roi hwb i'r sector cynhyrchu teledu, gan greu swyddi a meithrin talent ar draws Cymru a gweddill y DU. Ar wahân i'w cyfraniad economaidd, maen nhw'n dod â phobl at ei gilydd ar draws ein gwlad i gyd. Mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn eu hanterth yn enwedig ar adegau pan ddaw ein cenedl at ei gilydd, fel y gwelsom ni gyda rhywfaint o'r darlledu rhagorol o farwolaeth ac angladd Ei Mawrhydi dros yr wythnos a hanner diwethaf, sydd, yn fy marn i, wedi bod yn enghraifft wych o hynny. Fodd bynnag, mae'r cyfraniad o dan fygythiad mewn oes lle mae teledu yn cael ei ddarparu a'i ddefnyddio fwyfwy ar-lein, gyda'r perygl bod platfformau technoleg ar-lein byd-eang yn dod yn borthmyn i raglenni darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Heb ddiwygio'r system bresennol, gallai cynulleidfaoedd y DU ei chael hi'n anodd dod o hyd i gynnwys y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y maen nhw'n ei werthfawrogi, a bydd symiau ariannol mawr yn cael eu tynnu o'u hecosystem ac economi greadigol y DU gan y platfformau ar-lein hyn. Felly, Prif Weinidog, er fy mod i'n ymwybodol, fel y cyfeiriodd Hefin David ato, o fodolaeth y panel arbenigol hwnnw a sefydlwyd gan eich Llywodraeth i archwilio'r posibilrwydd o ddatganoli darlledu i Gymru, o ystyried ymgysylltiad pobl â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus dros yr wythnos a hanner diwethaf, y pryder ynghylch defnydd ar-lein a'r potensial y gallai cynulleidfaoedd ei chael yn anodd dod o hyd i'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y maen nhw'n eu gwerthfawrogi, sut fyddech chi'n sicrhau, pe bai darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru, y byddai'n cadw'r cynnwys y mae pobl Cymru yn ei werthfawrogi fwyaf?
Siawns bod y bygythiad mwyaf i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yn dod o gynigion ei Lywodraeth ef yn San Steffan i breifateiddio Channel 4—yn gwbl ddi-gefnogwr fel cynigion ac wedi'u hysgogi'n llwyr ar sail ideolegol gan yr Ysgrifennydd diwylliant blaenorol—y methiant i ddod o hyd i sail briodol ar gyfer gwneud yn siŵr y gellir sicrhau cyllid y BBC yn y dyfodol, a methiant Llywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyn yr haf, fel y gwnaeth addo i ni y byddai ym mis Mehefin. Rydym ni'n dal i ddisgwyl gweld yr ymarfer ymgynghori hwnnw'n cael ei lansio. Nawr mae'n rhaid i ni obeithio bod y Llywodraeth Geidwadol ddiweddaraf yn San Steffan yn mabwysiadu gwahanol safbwynt ar y materion yma. Oherwydd rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud: mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gwbl gynhenid i'r ffordd y mae dinasyddion y DU a dinasyddion Cymru yn gallu derbyn newyddion y maen nhw'n ei ystyried yn ddibynadwy ac sy'n caniatáu iddyn nhw fod yn ddinasyddion sy'n cymryd rhan yn iawn. Y peryglon mawr i hynny oll yw'r ymosodiadau ideolegol sydd wedi cael eu gwneud ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gan ei gyfeillion yn San Steffan.