1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Medi 2022.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad sy'n benodol i Gymru i farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal? OQ58416
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae rhai categorïau o breswylwyr cartrefi gofal eisoes wedi eu cynnwys yn y rhaglen waith genedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni gan y Gweinidog iechyd. Mae'r hyn a ddysgwyd o gyfnod cynnar y rhaglen yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r sector cartrefi gofal i ymchwilio i weddill y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID.
Diolch, Prif Weinidog. Cafodd y wybodaeth y byddai ymchwiliad mwy a phenodol i gartrefi gofal ei rannu'n eang ar y cyfryngau cymdeithasol gan grŵp ymgyrchu COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, yn dilyn eu cyfarfod gyda chi ychydig wythnosau yn ôl, a byddai'n ddefnyddiol cael eglurder ynghylch amserlen y dull a pha un a fydd yn ymdrin â rhyddhau'r henoed o'r ysbyty i gartrefi gofal heb brawf. Yn ogystal â gofyn am eglurder ynghylch hyn, dywedodd y teuluoedd mewn profedigaeth hefyd eu bod nhw wedi trafod ymchwiliadau i heintiau mewn ysbytai yng Nghymru gyda chi. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pryd y bydd adrodd a gweithredu'r argymhellion yn digwydd? Ac rwy'n deall bod y grŵp ymgyrchu wedi holi eich tîm chi a thîm y Gweinidog iechyd ar hyn ddwywaith ond heb glywed unrhyw beth ers hynny, ac, o ystyried bod 1,619 o ymchwiliadau wedi'u cwblhau, rwy'n clywed na chysylltwyd â theuluoedd o hyd ac maen nhw'n ysu am ddiweddariad.
Wel, diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau ychwanegol yna. Mae hi'n iawn i ddweud fy mod i, unwaith eto, wedi cyfarfod â'r grŵp teuluoedd mewn profedigaeth yn gynharach y mis yma, felly nid oes llawer o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y cyfarfod hwnnw, ac, o dan amgylchiadau eithriadol yr wythnos ddiwethaf, rwy'n credu ei bod hi'n ddealladwy na ymatebwyd i bob cwestiwn ar unwaith. At ddibenion eglurder, felly, Llywydd, unrhyw un y mae'r GIG yn ariannu ei ofal, gan gynnwys pobl a drosglwyddwyd o'r ysbyty i gartref gofal, ac a ddaliodd coronafeirws wedyn a fu farw o fewn 14 diwrnod o gael ei drosglwyddo, mae rheoliadau 'Gweithio i Wella' eisoes yn cwmpasu'r achosion hynny, ac mae'r digwyddiadau hynny eisoes yn cael eu hymchwilio yn dilyn y camau a amlinellodd y Gweinidog iechyd yn gynharach eleni. Rydym ni'n gallu gwneud hynny oherwydd bod llinell uniongyrchol o'r GIG i ofal y cleifion hynny.
Mae'r sector cartrefi gofal cyffredinol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn llawer mwy amrywiol na hynny: dros 1,000 o gartrefi gofal oedolion cofrestredig yng Nghymru, y mwyafrif helaeth o'r rheini dan berchnogaeth breifat. Yn anochel, mae hynny'n ychwanegu cymhlethdodau a heriau at y broses ymchwilio pan fyddwch chi'n dibynnu ar y set lawer ehangach honno o unigolion ac amgylchiadau. Mae byrddau iechyd unigol eisoes yn adrodd canlyniadau'r ymchwiliadau y maen nhw'n eu cynnal. Adroddodd a chyhoeddodd bwrdd iechyd Aneurin Bevan eu hadroddiad cyntaf ar eu gwefan ym mis Mehefin eleni, ac fe wnaeth Bae Abertawe yr un peth ym mis Gorffennaf, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd barhau i wneud hynny. Bydd yr uned gyflawni, a ariannwyd gan y Gweinidog er mwyn cynorthwyo gyda chysondeb o ran y dull gweithredu ym mhob rhan o Gymru, yn llunio ei hadroddiad interim ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a bydd adroddiad terfynol yn cael ei ddarparu ym mis Mawrth 2024.
Prif Weinidog, mae data sy'n gysylltiedig â nifer y marwolaethau o ganlyniad i COVID mewn cartrefi gofal yn dangos, yng Nghymru, mai COVID-19 oedd yr ail brif achos o farwolaeth ymhlith preswylwyr cartrefi gofal gwrywaidd a benywaidd yn ystod ton gyntaf ac ail don y pandemig. O gofio bod y gaeaf ac, yn wir, tymor y ffliw yn prysur agosáu, rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn poeni am ddiogelwch pobl oedrannus ac agored i niwed, yn enwedig os gwelwn ni straen COVID-19 marwol arall yn dod i'r amlwg. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cael ymchwiliad COVID i Gymru yn unig, rwy'n awyddus i wybod pa dystiolaeth a gwaith dadansoddi data y mae'r Llywodraeth hon wedi eu defnyddio wedi hynny i ddatblygu ei chynllun strategol ar gyfer cartrefi gofal a nyrsio, yn y dyfodol, a sut rydych chi wedi defnyddio'r gwaith dadansoddi hwn i ddatblygu cynlluniau ar gyfer trosglwyddo preswylwyr yn ddiogel i lety gofal ac oddi yno, y driniaeth a'r gofal diogel y maen nhw'n eu cael tra'u bod nhw mewn gofal, a pha fesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i atal a rheoli achosion yn y dyfodol. Diolch.
Wel, ni fyddai ymchwiliad Cymru gyfan o unrhyw gymorth i rywun sydd eisiau edrych ymlaen, fel y gwnaeth y rhan fwyaf o gwestiwn yr Aelod, at amodau mewn cartrefi gofal yng Nghymru dros y gaeaf nesaf. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd, oherwydd mae'n caniatáu i mi atgoffa pawb yn y Siambr a thu hwnt nad yw coronafeirws wedi diflannu. Gwelsom, yn gynharach yn yr haf eleni, y niferoedd uchaf erioed o bobl yn mynd yn sâl gyda'r don omicron o'i gymharu ag unrhyw ran arall o gyfnod y pandemig. Ac er bod y cysylltiad rhwng mynd yn sâl a salwch difrifol wedi cael ei erydu yn llwyddiannus gan frechu, mae bod yn sâl gyda'r coronafeirws ei hun yn brofiad anodd, a'r mwyaf agored i niwed ydych chi, y mwyaf anodd y mae'n debygol o fod. Felly, dyna pam rydym ni wedi blaenoriaethu preswylwyr cartrefi gofal ar gyfer ymgyrch pigiad atgyfnerthu'r hydref. Cafodd y llythyrau cyntaf yn gwahodd pobl i ddod ymlaen i gael eu brechu eu hanfon ar 15 Awst. Digwyddodd y brechiadau cyntaf ar 1 Medi. Ddoe, tra'r oedd y mwyafrif o bobl yn canolbwyntio ar y digwyddiadau a oedd yn mynd rhagddynt yn Abaty Westminster, roedd timau brechu yng Nghymru allan yna mewn cartrefi gofal yn gwneud yn siŵr bod yr holl drigolion agored i niwed hynny yn cael y cyfle cyntaf posibl i gael eu brechu.
Mae honno'n neges gyffredinol yr wyf i'n gobeithio y bydd Aelodau yma yn helpu i'w chyfleu i'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae ofn ymhlith y gymuned broffesiynol, oherwydd bod pobl yn teimlo bod y coronafeirws y tu ôl i ni, na fydd gennym ni'r niferoedd yn manteisio ar y brechiad y byddem ni wedi eu gweld mewn tonnau cynharach. Fydd dim byd yn bwysicach i'w wneud ar y diwrnod y cewch chi'r gwahoddiad na mynd i gael y brechiad hwnnw, ac mae hynny'n arbennig o wir, wrth gwrs, i breswylwyr oedrannus ac agored i niwed yn ein cartrefi gofal, a dyna pam maen nhw wedi cael eu rhoi ym mlaen y ciw yng Nghymru.