Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 20 Medi 2022.
Dirprwy Lywydd, dyna ddim ond ychydig o'r cynlluniau y gallwn i fod wedi eu nodi. Ac yn awr fe fydd yna fwy. Yn gynharach y mis hwn, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu, fe wnaethom ni ddechrau cyflwyno prydau ysgol yn rhad ac am ddim yn ein hysgolion cynradd ni. Wythnos nesaf, fe fyddwn ni'n agor ceisiadau eto ar gyfer ein taliad cymorth tanwydd gaeaf unigryw, gan ymestyn y cymhwysedd fel y bydd hawl, y tro hwn, i 400,000 o bobl yng Nghymru gael eu helpu.
Wythnos nesaf, fe fydd ein cynllun banc tanwydd newydd, sy'n cynnig help i bobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw a'r rhai sy'n prynu ynni oddi ar y grid, yn dod yn weithredol. Ac yn y mis nesaf, fel bydd y Gweinidog addysg yn ei nodi mewn datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac wrth drafod â'n partneriaid yn y cytundeb cydweithredu, fe fyddwn ni'n ymestyn prydau ysgol am ddim eto yn ystod gwyliau'r ysgol am weddill y flwyddyn ariannol hon. Mae'r holl fesurau hyn, Dirprwy Lywydd, yn arwain at gadw arian ym mhocedi'r dinasyddion hynny sydd ag angen mwyaf am gymorth.
A'r ail bwynt, fe fyddwn ni'n ariannu rownd arall yr hydref hwn o'n hymgyrch lwyddiannus ni Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi. Rydym ni'n gwybod bod gwerth miliynau o bunnoedd o gymorth oddi wrth gynlluniau Llywodraeth y DU yn mynd heb eu hawlio yma yng Nghymru. Nid yw 40% o dalebau Dechrau Iach, sydd ar gael i deuluoedd sydd â phlant o dan bedair oed, yn cael eu hawlio. Mae hynny'n werth £4.25 bob wythnos. I deulu gyda dau o blant dan bedair oed, mae hynny'n golygu £442 y flwyddyn. Ac fe fydd pob punt ychwanegol y gallwn ni ei thynnu i lawr o'r cynlluniau hynny y mae pobl eisoes â hawl iddyn nhw'n mynd yn uniongyrchol i gyllidebau'r teuluoedd mwyaf anghenus yng Nghymru.
Wrth i ni fynd i mewn i'r gaeaf hwn a fydd yn un anodd iawn, mae hi'n hanfodol y bydd pob rhan o'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru yn gwneud ei ran i sicrhau y bydd pobl yn gallu elwa ar y ffynonellau o gymorth hyn i gyd—boed hynny'n gyrff llywodraethu mewn ysgolion sy'n sicrhau bod pob plentyn cymwys yn cael pryd ysgol am ddim, neu ystyried sut y gallan nhw leihau costau gwisg ysgol, i ymwelwyr iechyd yn annog teuluoedd i hawlio'r holl gymorth sydd ar gael yno ar eu cyfer nhw. Mae angen i ni sicrhau, y gaeaf hwn, fod pob cyswllt yn cyfrif yn wirioneddol.
Dirprwy Lywydd, mae'r trydydd pwynt sydd gen i heddiw yn canolbwyntio ar allgáu ariannol. I lawer o aelwydydd Cymru, hyd yn oed heb ystyried y pwysau cyfredol o ran chwyddiant, nid oes fawr yn weddill, os o gwbl, o'r arian sy'n dod i mewn i'r aelwyd ar ôl i'r biliau gael eu talu. Nawr, mae gennym ni rwydwaith o undebau credyd yma yng Nghymru, sy'n gallu helpu, ac mae gennym ni sefydliadau cyllid arloesol sy'n darparu benthyca cyfrifol i drigolion Cymru. Ond fe geir enghreifftiau eraill y gallwn ni dynnu arnyn nhw mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i helpu mwy o bobl sy'n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol iawn o fynd i ddyled y gaeaf hwn. Fe fyddwn ni'n dwyn y rhwydwaith hwn o sefydliadau ac unigolion yng Nghymru at ei gilydd. Fe fyddwn ni'n cynnwys sefydliadau eraill, fel y sector cydfuddiannol, ein cynlluniau ni ein hunain ar gyfer banc cymunedol, a darparwyr gwasanaethau hanfodol, fel Dŵr Cymru, i ddod o hyd i atebion newydd sydd â'r nod o helpu'r rhain sy'n wynebu'r perygl mwyaf.
Am y prynhawn yma, mae'r maes olaf yr wyf i'n awyddus i ganolbwyntio arno yn un sydd eisoes yn denu sylw a gweithgarwch eang: 'banciau cynnes', fel y'u gelwir nhw, mewn cymunedau lleol—lleoedd y gall pobl ddod i gadw yn gynnes y gaeaf hwn. Dirprwy Lywydd, mae hi'n anodd iawn credu ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae cynghorau cymuned, grwpiau ffydd, clybiau chwaraeon, canolfannau cymunedol yn gorfod cynllunio ar gyfer rhwystro pobl rhag wynebu tlodi tanwydd eithafol y gaeaf hwn. Ac er ein bod ni'n cymeradwyo'r ymdrechion hyn, wrth gwrs, a ysgogir drwy benderfyniad i wneud gwahaniaeth, mae pob sefydliad yr wyf i wedi cyfarfod ag ef dros yr haf eleni wedi dweud wrthyf i eu bod nhw'n gresynu bod cymorth fel hyn yn angenrheidiol.
Yn fan cychwyn, fe fyddwn ni'n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £1 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi'r ymdrechion hyn, gan ymestyn eu cyrhaeddiad a'u cylch gwaith nhw. Fe all ychwanegiad cymedrol o, dyweder, £10,000 olygu'r gwahaniaeth rhwng sicrhau llwyddiant i'r ymdrech yr wyf i wedi sôn amdani, a methu â'i rhoi hi ar waith o gwbl.