Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 20 Medi 2022.
Dirprwy Lywydd, mae'r gaeaf fel arfer yn gyfnod heriol i ni i gyd, yn ogystal ag i'n gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r argyfwng costau byw a biliau ynni eithriadol, hyd yn oed gyda chap y Llywodraeth, yn rhoi pwysau anhygoel ar bob teulu a busnes yng Nghymru. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhybuddio y gallai effaith yr argyfwng yma arwain at y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw a welwyd erioed yn y cyfnod modern. Fel Llywodraeth yma yng Nghymru, byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi pobl drwy'r argyfwng. Diolch yn fawr.