Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 20 Medi 2022.
Mae yna nifer o bethau i'w croesawu yn y datganiad heddiw, yn arbennig, wrth gwrs, y cytundeb rŷn ni wedi dod iddo fe o ran medru darparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Mae hynny’n mynd i helpu llawer iawn o deuluoedd sy’n wynebu cyni ar hyn o bryd. A hefyd, yn arbennig, y banciau cynhesu roedd y Prif Weinidog wedi cyfeirio atyn nhw ar y diwedd. Er ei fod yn resyn o beth ein bod ni’n gorfod cyfeirio at y math hwn o beth, wrth gwrs, yn yr unfed ganrif ar hugain, mawr yw eu hangen ysywaeth ar hyn o bryd.