Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 20 Medi 2022.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod pwysigrwydd y sector twristiaeth yn ddiamau; byddwn i a fy mhlaid a phawb arall fan hyn, dwi'n meddwl, yn cydnabod y cyfraniad pwysig mae'r sector yn ei wneud. Yr hyn y mae'n rhaid inni ochel rhagddo fe yw ffeindio'n hunain mewn sefyllfa lle mae yna ormod o dwristiaeth echdynnol. Hynny yw, rŷn ni wedi ffeindio enghreifftiau dros y blynyddoedd diwethaf o le mae hynny wedi bod yn broblem mewn cymunedau ar draws Cymru, felly, symud tuag at sefyllfa fwy cynaliadwy sydd angen i ni ei wneud.
Rŷn ni wedi gweld y straen ar adnoddau seilwaith lleol, gwasanaethau lleol ac adnoddau naturiol. Y llynedd, mae yna gynnydd wedi bod, ac mae ystadegau i ddangos cynnydd mewn gwersylla anghyfreithlon, sbwriel, gwastraff dynol yn cael ei adael ar lwybrau, meysydd parcio ac yn y blaen, ac erydu llwybrau yn broblem gynyddol. Felly, er mwyn creu dyfodol mwy llewyrchus i'r sector, mae angen inni symud at fodel o dwristiaeth mwy cynaliadwy, ac nid mecanwaith—yn fy marn i, beth bynnag—yw lefi fel hyn i gosbi y sector nac i gosbi unrhyw un. Dwi'n gweld e fel ffynhonnell fydd yn creu refeniw fydd yn gallu cael ei fuddsoddi mewn isadeiledd, nid yn unig i wella profiad cymunedau sy'n croesawu pobl, ond y bobl sydd yn ymweld, a bod e'n gwella profiad ymwelwyr, fydd, yn y pen draw, gobeithio, yn help i ddenu mwy o ymwelwyr—virtuous circle, hynny yw, bod gennym ni sefyllfa fwy cynaliadwy na beth sydd gennym ni nawr.
Ymgynghoriad, wrth gwrs, yw hwn; cychwyn ymgynghoriad, trafodaeth, sgwrs. Gobeithio bydd y sylwadau rŷn ni'n clywed gan y Ceidwadwyr ddim yn golygu na fydd y sector yn dod i'r bwrdd, a bod nhw ddim yn rhannu'r un sinigiaeth rŷn ni wedi clywed yn y cyfraniad blaenorol. Mae e yn gyfle i bawb—y sector, y cymunedau a phawb arall—i rannu eu barn, ac os caiff e ei wneud yn iawn, ac os ydy e yn rhywbeth sydd yn cael ei gyd-gynhyrchu, yna dwi yn teimlo y byddai rhywbeth fel hyn â photensial i ddod â budd i'r sector. A phŵer disgresiwn rŷn ni’n sôn am fan hyn i awdurdodau lleol. Bydd neb yn cael eu gorfodi i weithredu hwn.
Mae'r Ceidwadwyr yn licio'n hatgoffa ni yn aml iawn: dyw datganoli ddim yn stopio ym Mae Caerdydd—digon teg. Wel, dyma chi enghraifft ymarferol o ymbweru awdurdodau lleol i fynd i'r afael â mater—ac rŷch chi'n gwrthwynebu. Os ŷch chi o ddifrif ynglŷn â helpu'r sector yng Nghymru, yna siaradwch â'ch Canghellor eich hunain ynglŷn â threth ar werth. Mae yna ddigon o gyfleoedd eraill y gallwch chi fod yn cefnogi'r sector. Mae'r Ceidwadwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn cefnogi'r cam yma. Mae Ceidwadwyr yn arwain yn Ynys Wyth, mae Cyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf wedi bod yn galw am hyn; mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cotswolds hefyd yn dweud eu bod nhw'n cefnogi hyn. Rŷn ni wedi clywed am y dwsinau lawer o wledydd eraill sydd â lefi o'r fath, felly mae'n rhaid inni weithiau weld y cyfle mewn pethau fel hyn, a ddim jest gweld y broblem.
Felly, cwpwl o gwestiynau gen i, Weinidog. Mae yna wahanol ffyrdd, wrth gwrs, o gyflwyno lefi—aros dros nos yw'r un amlwg—ond dwi jest eisiau eglurder ynglŷn ag a ydy'r Llywodraeth yn meddwl mai dyna yw'r modd rŷch chi'n bwriadu symud ymlaen, neu ydych chi'n feddwl agored i ffyrdd eraill o gasglu lefi o'r fath?
Rŷn ni wedi clywed, ac yn berffaith iawn i glywed, fod yna greisis costau byw; sut rŷch chi, felly, am sicrhau y byddai unrhyw ardoll yn gymesur ac yn deg ar bocedi'r bobl fydd disgwyl iddyn nhw gyfrannu tuag ato fe? Allwch chi hefyd gadarnhau mai'ch bwriad chi yw—mae e'n implicit; dwi ddim yn siŵr os ydy e'n ddigon explicit—mai'r bwriad yw y bydd unrhyw bres sy'n cael ei godi'n lleol yn cael ei wario'n lleol? Dwi'n meddwl bod yna gwestiwn pwysig angen ei ateb yn fanna.
Ac rŷn ni'n clywed pobl yn dweud y bydd e'n cymryd ambell i flwyddyn i hwn ddod yn realiti, os ydy e yn digwydd. Ai'r bwriad yw y bydd hynny'n digwydd o fewn y Senedd yma, neu ydych chi'n rhagweld efallai y gallai fod yn linell amser hirach na hynny? Diolch.