1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
9. Pa gamau y mae'r Llywodraeth am eu cymryd i helpu tenantiaid yn ystod yr argyfwng costau byw presennol? OQ58408
Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi cyhoeddi cyllid o £380 miliwn i helpu aelwydydd Cymru i reoli'r argyfwng costau byw. Mae Cynllun Lesio Cymru yn gwella mynediad at dai yn y sector rhentu preifat fforddiadwy mwy hirdymor. Mae cronfa atal digartrefedd ychwanegol gwerth £6 miliwn wedi cael ei darparu i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gynnal tenantiaethau pobl ac osgoi digartrefedd.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am gamu i mewn, munud olaf. Gaf i innau estyn fy nymuniadau gorau i'r Gweinidog am wellhad buan hefyd?
Mae tenantiaid a chymdeithasau tai fel ei gilydd yn hynod o bryderus am y misoedd nesaf ac yn ei chael hi'n anodd i flaengynllunio ac i gyllido heb fod ganddynt sicrwydd o beth fydd cyfraddau budd-daliadau. Mae'r synau mae'r Prif Weinidog newydd, Liz Truss, wedi eu gwneud dros yr haf yn sôn am dorri i lawr ar fudd-daliadau, ac mae hynny yn hynod o bryderus, yn enwedig gan fod rhenti yn cael eu talu drwy'r system credit cynhwysol, ac wrth gwrs mae'r LHA wedi cael ei rhewi ers 2020. Pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi eu cael efo'r ysgrifennydd newydd dros waith a phensiynau yn Llundain? Ac a ydych chi wedi dwyn pwysau arni hi a'r Prif Weinidog newydd i sicrhau bod lefelau budd-daliadau yn cynyddu er mwyn cyfarch y cynnydd yn y costau byw, yn enwedig rhenti, a'u bod nhw hefyd yn cynyddu lefelau y lwfans tai lleol?
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg mae angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU mewn perthynas â llawer o'r materion a grybwyllwch. Fe fyddwch yn deall nad yw'r Llywodraeth newydd sy'n dod i mewn wedi cael—. Yn sicr nid ydynt wedi cael mis mêl. Mae wedi bod yn gyfnod anodd ar gyfer ymgysylltu â Gweinidogion newydd, felly nid wyf yn ymwybodol o unrhyw sgyrsiau penodol sydd wedi digwydd.
Cyfeiriais o'r blaen at y gronfa atal digartrefedd, a bod y £6 miliwn a gyflwynodd Llywodraeth Cymru wedi'i fwriadu ar gyfer llenwi bwlch a adawodd Llywodraeth y DU gyda'r gostyngiadau yn y gyllideb a gyflwynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ac er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i helpu pobl yn yr argyfwng costau byw digynsail, mae'n rhaid inni gydnabod na allwn lenwi pob bwlch. Ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cael trafodaethau gyda'i swyddog cyfatebol newydd pan fydd yn dychwelyd i'r gwaith.