Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 21 Medi 2022.
Felly, ni ddylem synnu, yn ystod wythnos gyntaf y tymor, mai dim ond hanner y plant dosbarth derbyn yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville yng Nghaerdydd a oedd yn bwyta’r cinio ysgol yr oedd ganddynt hawl iddo. Ac mae'n anodd deall cymhlethdod y rhesymau pam nad oedd y lleill yn manteisio arno, ond mae rhywfaint ohono'n ymwneud â phryder rhieni, sydd am sicrhau bod y plentyn yn cael rhywbeth y mae'n gwybod y mae'n ei hoffi. Nid oedd ganddynt y pryder 'a ydw i’n mynd i ollwng yr hambwrdd', y byddai unrhyw blentyn pedair oed yn ei brofi, oherwydd bod y pryd yn cael ei weini yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer y plant penodol hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd y nifer sy'n manteisio ar y ddarpariaeth yn gwella wrth i'r disgyblion weld y bwyd y mae eu cyd-ddisgyblion yn ei fwynhau, ac wrth iddynt feddwl, 'Wel, hoffwn i gael ychydig ohono hefyd.' Felly, mae'n wirioneddol bwysig nad yw plant sy’n cael pecyn bwyd yn cael eu gwahanu oddi wrth y rhai sy'n bwyta prydau ysgol, oherwydd mae hefyd yn creu anghymhelliad; os yw eich ffrind bob amser yn cael pecyn bwyd, rydych chi'n mynd i gael pecyn bwyd hefyd. Ond os oes gennych chi ddewis am ddim, mae'n llawer haws ei hyrwyddo i bawb.
Mae’n her wirioneddol i benaethiaid, oherwydd mae angen amser ar blant ifanc iawn i fwyta, ac nid yw’r egwyl ginio byth yn hwy nag awr. Felly, yn ysgol Albany, mae’r plant derbyn yn mynd i mewn i’r ystafell fwyta yn gyntaf, ac yn cael gofal cariadus gan yr athrawes ddosbarth, y cynorthwywyr addysgu a’r goruchwylwyr cinio canol dydd, ac mae hynny’n angenrheidiol gyda phlant mor ifanc. Yn seiliedig ar berthynas esblygol fy wyrion fy hun â bwyd, rwy’n cydymdeimlo â’r rhiant pryderus a anwybyddodd hawl eu plentyn i gael prydau ysgol am ddim, ac a roddodd becyn bwyd wedi’i baratoi’n hyfryd yn lle hynny i fynd i’r ysgol, fel y dangosodd un ferch i mi, yn llawn o lysiau a ffrwythau bendigedig— y cyfan heb ei gyffwrdd. Rwy'n siŵr ei fod i gyd yn mynd adref. Mae'n gymhleth iawn gyda phlant bach iawn.
Cofiwch fod plant pedair oed yn cyrraedd y dosbarth derbyn gyda'r arferion bwyta y maent wedi'u meithrin ers eu geni. Bydd gofyn i blant bach fabwysiadu arferion bwyta eu rhieni—dyna maent wedi arfer ag ef. Felly, beth sy'n digwydd ar aelwydydd lle nad oes ffrwythau neu lysiau ffres ar gael, oherwydd tlodi, neu am resymau cymhleth eraill—cenedlaethau o fethu deall beth sydd orau i ni? Oni bai bod plant ifanc yn cael profi ystod o flasau, efallai y byddant yn amharod i roi cynnig ar rywbeth newydd. Mae rhai hyd yn oed yn datblygu rhywbeth o'r enw neoffobia, sef, yn llythrennol, ofn y newydd, ac ni fydd eraill yn bwyta bwyd sy'n cyffwrdd â bwyd arall—gwn bopeth am hynny—neu ond yn bwyta pethau penodol. Mae'n bwysig iawn nad ydym yn defnyddio bwyd fel gwobr, oherwydd fel arall efallai y byddwn yn creu problemau difrifol iawn ar gyfer y dyfodol. Os dywedwch, 'Os gwnei di hyn, os gwnei di ymddwyn yn dda heddiw, fe gei di hufen iâ', beth ydych chi'n ei wneud? Rydych chi'n gwobrwyo'r plentyn. Yr ymateb emosiynol yw eich bod yn mynd i gael gwobr ar ffurf rhywbeth sy'n braf i'w gael, ond nad yw'n arbennig o dda i chi. Felly, mae yna gyfres wirioneddol gymhleth o drefniadau ynghylch diddyfnu ac annog plant i fwyta deiet iach a chytbwys.
Mae'n debyg mai dyma'r fenter bwysicaf sydd gennym, sicrhau bod pob plentyn yn cael deiet iach a chytbwys drwy'r brecwast ysgol gynradd a'r cinio poeth maethlon. Y gwir cas yw na allwn fforddio peidio â'i wneud, oherwydd ni allwn barhau i wario 10 y cant o gyllideb ein GIG ar drin diabetes math 2, sy'n cael ei achosi i raddau helaeth gan ddeiet gwael a'r gordewdra sy'n deillio o hynny. Ni allwn ddal ati i oddef y nifer o blant pump oed sydd wedi colli dannedd, neu sydd â dannedd pydredig neu lenwadau—un o'r dangosyddion cryfaf o dlodi bwyd a maeth gwael, rhywbeth rwy'n dyst iddo dro ar ôl tro, bob tro rwy'n mynd i sefydliad addysgol. Mae'r athrawon yn dweud nad oes gan rieni'r plant hynny ddannedd, gan mai'r hyn sy'n digwydd gartref yw bod pobl yn bwyta'r holl bethau anghywir ac yn annhebygol o fod yn edrych ar ôl eu dannedd.
Felly, mae'n rhaid inni gwestiynu o ddifrif beth y mae ymwelwyr iechyd yn llwyddo i'w wneud i wneud gwahaniaeth go iawn wrth ryngweithio â rhieni, er mwyn sicrhau nad oes cenedlaethau newydd o blant yn dioddef y problemau sydd gan oedolion heddiw. Ac ar y radio heddiw, adroddiad arall eto am y cynnydd sylweddol mewn cyfres o ganserau, pob un yn gysylltiedig â deiet gwael—a hynny ar draws nifer o wledydd, nid ein gwlad ni yn unig. Ni allwn barhau fel hyn, er gwaethaf uchelgais ymddangosiadol Llywodraeth ddiweddaraf y DU i roi'r gorau i wrthsefyll y diwylliant bwyd obesogenig yr ydym wedi caniatáu iddo ddominyddu ein bywydau.
Mae datblygu dinasyddion iach yn un o ddibenion craidd y cwricwlwm newydd, ac mae'n her i bawb sy'n ymwneud ag addysg plant. Ni allwn ddal ati i adael i blant beidio â gwybod bod moron yn dod allan o'r ddaear. Fe gynhaliodd yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol arolwg o ddisgyblion dosbarthiadau babanod yn Lloegr a oedd yn bwyta cinio ysgol am ddim. Fe wnaethant ddangos, yn 2010, eu bod wedi blasu bwyd yn yr ysgol nad oeddent wedi'i flasu gartref, ac fe ddywedodd hanner y rhieni a holwyd fod eu plant wedi gofyn iddynt goginio bwydydd yr oeddent wedi'u bwyta yn yr ysgol. Yr eitemau mwyaf poblogaidd—nad yw'n syndod i ni, mae'n debyg—oedd moron, india-corn a phys, oherwydd bod y rhain ychydig yn felys, a'r lleiaf poblogaidd oedd planhigyn wy, ffacbys a sbigoglys. Ond wyddoch chi, po fwyaf y gwnawn annog plant i flasu, a pho fwyaf yr awn ati i gynnwys rhieni i gefnogi eu plant i ragarchebu'r prydau a fydd yn gwneud i'r plentyn deimlo'n fwy cyfforddus, eu bod yn mynd i gael yr hyn yr oeddent ei eisiau, a hefyd lleihau gwastraff bwyd—. Mae'n datblygu'r dysgu teuluol hwnnw mewn gwirionedd.
Mae angen inni gynnwys plant wrth dyfu bwyd, yn ogystal â'i baratoi. Bydd hynny'n ffordd dda iawn hefyd o'u cael i fwyta pethau newydd. Er enghraifft, adeiladodd Caerdydd ar brofiad cynllun Bwyd a Hwyl yr haf, lle'r oedd plant wedi mwynhau gwneud a bwyta caserol ffa sbeislyd. Mae bellach i'w weld bob pythefnos ar fwydlenni prydau ysgol ar ddyddiau Llun yng Nghaerdydd, lle dywedodd y cogydd yn un o'r ysgolion yr ymwelais â hi, 'O, nid wyf yn gwybod a ydynt yn mynd i hoffi hwnnw.' Nid yw hi'n rhywun sy'n hoff o fwyd sbeislyd, felly mae'n rhaid ichi obeithio nad yw hi'n dylanwadu ar faint sy'n ei gael. Mae'n ddrwg gennyf weld eu bod wedi ei gynnig ochr yn ochr â pizza tomato a chaws, sy'n her, mae'n rhaid i mi ddweud. Serch hynny, gallwch weld sut y mae'n adeg gyffrous ar gyfer annog a datblygu cenedlaethau iach i'r dyfodol. Mae rhagor y gallwn ddweud ar hynny i gyd, ond rwyf am symud ymlaen, oherwydd mae fy amser yn brin.
Caffael bwyd yw'r cam nesaf y mae angen inni edrych arno. Mae sir Gaerfyrddin wedi arwain oherwydd rhai o'r grantiau a gawsant drwy ein cyd-Aelod, Lee Waters, mewn rô flaenorol. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw newidiadau i fwydlenni ysgolion hyd yma, oherwydd eu bod wedi gorfod canolbwyntio ar gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb. Felly, nid ydynt wedi newid unrhyw un o'u bwydlenni. Ond er hynny, roeddwn wrth fy modd yn gweld llawer o fwyd cartref ar eu bwydlen, a gofynnais, 'Beth ydych chi'n ei olygu wrth fwyd cartref?' Mae bwyd cartref yn golygu bwyd a gaiff ei wneud yn yr ysgol, felly bydd arogl y bwyd hwnnw'n treiddio i'r ystafelloedd bwyta, a bydd yn amlwg yn galluogi'r cogydd i newid pethau. Os nad yw plant yn hoffi un peth, gallant ei gyfnewid am rywbeth arall.
Rydym yn lwcus iawn i gael pobl fel Castell Howell a Gwasanaeth Bwyd Harlech yn gyflenwyr bwyd, cyflenwyr Cymreig, sy'n hoff iawn o'r agenda i wella caffael bwyd. Ond mae'n rhaid inni fynd â'r peth lawer ymhellach mewn gwirionedd. Fel y dywedodd sir Gaerfyrddin, mae hyn yn ymwneud â newid system mewn gwirionedd, ac mae'n gymhleth. Felly maent yn arbrofi yn sir Gaerfyrddin i weld sut y gallant gael cynnyrch lleol ar y plât yn y sector ysgolion cyhoeddus, ac maent wedi defnyddio grantiau'r Llywodraeth i edrych ar hyn, gan weithio gydag arbenigwyr bwyd a CLES i'w wneud. Ond mae'n rhaid inni sylweddoli, yn y cyd-destun cyfredol, gyda'r holl broblemau presennol, mai cam dau y cynllun yw hwn, a rhywbeth rwy'n teimlo'n gyffrous iawn yn ei gylch, ond nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd dros nos. Felly, diolch am wrando, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pobl eraill.