Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:33, 21 Medi 2022

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn y cwestiwn olaf. Rŷn ni'n gweithio gyda'n partneriaid yn gyffredinol i sicrhau bod y wybodaeth iawn ar gael a bod canllawiau ar gael i allu mynd i'r afael â hyn. Mae wir yn bwysig—ac mae'n drueni nad yw llefarydd y Ceidwadwyr yma i glywed hyn eto—mae wir yn bwysig bod y drafodaeth gyhoeddus ynghlwm â'r maes polisi hwn yn digwydd mewn ffordd sydd yn gyfrifol ac yn seiliedig ar ffeithiau yn hytrach na honiadau.