Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 21 Medi 2022.
Cytuno'n llwyr, Weinidog, a diolch am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg bod y grŵp yn targedu rhieni gyda'i ymgyrch o gam-wybodaeth, ac hyd yn oed Aelodau o'r Senedd fe ymddengys. Nodaf fod y Llywodraeth wedi creu canllaw i'r cwricwlwm i rieni a gofalwyr, a dogfen dwi'n credu sy'n wych ac yn egluro'r newidiadau yn effeithiol. Ond, o siarad â nifer o rieni a gofalwyr, prin neb sydd wedi gweld yr adnodd pwysig hwn.
Sut felly ydych chi am sicrhau bod pob rhiant a gofalwr yn derbyn copi o'r taflenni hyn, ac yn cefnogi ysgolion i egluro'r newidiadau, rhag ofn eu bod hwythau hefyd yn cael eu bygwth gan y rhai sy'n ymgyrchu yn erbyn y newidiadau? Mae angen sicrhau bod pob plentyn yn elwa o'r newidiadau hyn, ac ofnaf fod yna nerfusrwydd ac ofn o ran cyflwyno'r pwnc hwn os ydy'r ymgyrch hon yn parhau i fynd rhagddi.