Disgyblion o Wahanol Gefndiroedd Economaidd-Gymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:36, 21 Medi 2022

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o adroddiad diweddar yr Education Policy Institute, sy'n dweud bod dim cynnydd wedi bod o ran lleihau'r bwlch rhwng disgyblion o wahanol gefndiroedd cymdeithasol dros y ddegawd diwethaf. Mae'r adroddiad yn dweud bod y disgyblion tlotaf ddwy flynedd y tu ôl i'w cyfoedion o gefndiroedd mwy llewyrchus, ar gyfartaledd. Rwy'n gwybod eich bod chi'n poeni am hyn, Weinidog; rydych chi wedi gwneud hynny'n hysbys. Ond, allwch chi esbonio i ni beth sydd wedi mynd o'i le a beth fyddwch chi'n ei wneud i daclo'r broblem, ynghyd â beth rydych chi wedi ei ddweud? Rwy'n deall yr heriau y gwnaeth llymder eu hachosi, ond dyw hyn ddim yn esbonio pam fod y sefyllfa yn waeth yng Nghymru nag yw e yn Lloegr. Allwch chi ddweud hefyd beth yw eich dadansoddiad o ran gwraidd y broblem? Ydy e achos bod ysgolion mewn ardaloedd tlotach heb yr un adnoddau a chyllid, neu a oes heriau mewn atynnu athrawon efallai i rai o'r ardaloedd hyn? Sut fyddwch chi'n targedu adnoddau a chyllid er mwyn cefnogi disgyblion sy'n wynebu anfanteision? Ac yn olaf, Weinidog, faint o flaenoriaeth fyddwch chi'n ei rhoi i geisio dysgu grwpiau sydd angen mwy o gefnogaeth mewn grwpiau sydd yn llai, plis? Diolch yn fawr.