5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Bearmach Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ659
Diolch am y cwestiwn. Deallwn fod Bearmach Cyf wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae cynghorwyr Cymru'n Gweithio wedi rhoi cymorth ar y safle i weithwyr Bearmach dros gyfnod o dair wythnos, a byddwn yn parhau i weithio gyda staff yr effeithiwyd arnynt, i roi cyngor a chymorth. Rwy'n deall y bydd hyd at 89 o bobl yn cael eu heffeithio yn sgil cau'r cwmni hwn ac yn wynebu colli eu swyddi.
Mae hwnnw'n ateb cychwynnol defnyddiol. Cefais wybod ddydd Llun 12 Medi gan gyngor Caerffili am Bearmach. Maent wedi cynhyrchu a chyflenwi partiau sbâr ar gyfer cerbydau Land Rover hŷn, ac wedi'u lleoli, fel y dywedais, ar ystad ddiwydiannol Pantglas. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r cyngor yn hwyr y dydd Gwener blaenorol, ac rwy'n deall bod y cwmni wedi derbyn cymorth grant gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol. A yw Gyrfa Cymru wedi ymwneud â'r cwmni? Dywedodd yr awdurdod lleol y bydd mewn cysylltiad â hwy i helpu o safbwynt cyflogadwyedd, felly hoffwn wybod hynny. Yn anffodus, ni chafodd union niferoedd y rhai sy'n cael eu diswyddo eu cadarnhau. Fe wnaeth y Gweinidog ei gadarnhau yn ei ateb; clywsom ei fod yn 51, ond yn awr, mae wedi cadarnhau ei fod yn 89. Mae hyn yn amlwg yn newyddion siomedig iawn i'r economi leol ym Medwas a'r cyffiniau. Hoffwn wybod beth y mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud i gefnogi'r economi ymhellach yn yr ardal o gwmpas Pantglas a Bedwas yn enwedig. A oes modd i'r Gweinidog roi asesiad pellach inni o effaith cau Bearmach ar weithlu'r gymuned leol, gan gynnwys ei ddealltwriaeth o rôl Gyrfa Cymru? Ac a oes modd iddo egluro pa gymorth pellach a fydd ar gael i gyn-weithwyr gan Lywodraeth Cymru, yn ychwanegol at yr hyn mae eisoes wedi'i grybwyll?
Diolch. Fe geisiaf ymdrin â phob un o'r pwyntiau hynny. Ein dealltwriaeth yw bod 89 o bobl yn gyflogedig ar y safle, ac o ystyried mai ein dealltwriaeth ni yw eu bod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a'i bod yn debygol y bydd y safle'n cau, maent i gyd mewn perygl o golli swyddi. Fy nealltwriaeth i yw bod nifer cyfyngedig o weithwyr wedi'u cadw am gyfnod o wythnosau i gynorthwyo gyda chau'r busnes a chael gwared ar stoc ar y safle. I'r rhai nad ydynt yn ymwybodol o hynny, mae Bearmach yn gwmni annibynnol sy'n cyflenwi rhannau ac ategolion ar gyfer cerbydau Land Rover, ac wrth gwrs, mae llawer o'r rheini yn dal mewn bodolaeth.
Mae Cymru'n Gweithio yn rhan o wasanaeth Gyrfa Cymru, felly maent wedi bod ar y safle yn rhoi cymorth i weithwyr. Rydyn ninnau hefyd yn dechrau gweithio gyda hwy—rydym yn deall bod rhywfaint o aelodau undebau llafur yno—i edrych ar gyngor ac arweiniad drwy sesiynau grŵp a sesiynau i unigolion. Mae rhai o'r prif dulliau cymorth y gallwn eu darparu yn digwydd drwy ein rhaglen ReAct Plus. Mae hynny ar gael i bobl sydd naill ai wedi eu heffeithio gan ddiswyddiadau posib, neu yn yr achos hwn, sefyllfa ddiswyddo sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd. Felly, rydym yn gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith ac yn wir, Cymru'n Gweithio, i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad addas. Mae hefyd yn darparu grant hyfforddiant galwedigaethol o hyd at £1,500 i helpu pobl sydd wedi'u diswyddo i gaffael sgiliau newydd o bosibl er mwyn caniatáu iddynt ddychwelyd i'r farchnad lafur, gan gynnwys gwaith amgen.
Dylwn ddweud, a byddaf yn hapus i gadarnhau hyn eto, os yw pobl eisiau rhagor o wybodaeth, gallant gysylltu â Cymru'n Gweithio ar 0800 0284844. Felly, os nad yw pobl wedi dod i gysylltiad uniongyrchol, fe allant wneud hynny ar y rhif hwnnw, a byddaf yn anfon y rhif a'r manylion hynny at Aelod yr etholaeth hefyd. Rydym hefyd yn darparu ystod o gymorth arall yn yr ardal, gan gynnwys y rhaglen gwella cynhyrchiant busnes. Rydym yn edrych ar wella cystadleurwydd mentrau bach a chanolig yn yr ardal leol hefyd, fel bod ffynonellau cyflogaeth amgen ar gael, gobeithio.
Tra bod y farchnad lafur yn dynn iawn ar hyn o bryd, os yw'r rhagolygon gan sawl economegydd o Fanc Lloegr yn gywir, rhan o fy mhryder yw y gallem weld nifer o sefyllfaoedd tebyg yn wynebu'r economi yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ond byddwn yn fwy na pharod i siarad gyda'r Aelod hyd yn oed ar ôl y cwestiwn hwn, oherwydd rwy'n credu y bydd yn ddarlun sy'n newid.
Mae Bearmach wedi bod yn gyflogwr lleol da ers blynyddoedd lawer yn ardal Bedwas a Thretomos. Ar wahân i'r 50 o swyddi y nodwyd y byddant yn cael eu heffeithio, fel y clywsom, bydd llawer o staff asiantaeth eraill a gyflogwyd ar y safle bellach wedi colli eu hincwm ar yr amser gwaethaf posibl. Bydd hyn hefyd yn ergyd i fusnesau lleol a oedd yn cydweithio â Bearmach, neu'n elwa o fod gweithwyr yn gwario'u harian yn y gymuned leol. A wnewch chi roi gwybod i'r Siambr p'un a wnaeth Bearmach gysylltu â chi am unrhyw gymorth ariannol a pha gefnogaeth a gafodd ei chynnig wedyn? Ac a yw cau Bearmach, cwmni llwyddiannus ar un adeg sydd wedi methu ymdopi â'r amodau economaidd anodd, wedi ysgogi ailfeddwl ynghylch y modd y mae Llywodraeth yn blaenoriaethu'r diwydiant ceir fel sbardun i economi Cymru?
Rwy'n meddwl bod dau gwestiwn gwahanol yno. Yn gyntaf, mae'n bwynt sy'n werth ei ystyried bod gweithwyr asiantaeth, oni bai eu bod wedi ennill hawliau cyflogaeth—. Ac mae yna broses; rwy'n cofio gwneud hyn pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth. Os ydych chi wedi bod yno'n ddigon hir, gallwch hawlio statws parhaol. Fel arall, ni fydd ganddynt ddiogelwch diswyddo ac ni fydd ganddynt hawl i daliadau, oherwydd ni fyddant wedi ennill hawliau cyflogaeth na hyd gwasanaeth mewn cyflogaeth yn wir.
O ystyried yr her gyda'r sector modurol yn fwy eang, rydym yn dal i weld y sector modurol yn rhan sylweddol o economi Cymru, wrth symud ymlaen. Mae'n amlwg yn agored i rai o'r newidiadau sy'n digwydd, ac yn arbennig y newidiadau yn ein perthynas fasnachu â gwledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn enwedig ein perthynas fasnachu ag Ewrop. Mae hynny wedi gwneud sawl rhan o'r sector yn fwy bregus. Ond bydd yn gyfnod o newid i'r sector, ac mae cyfleoedd, wrth symud ymlaen, drwy fathau newydd o yriant gyda'r cryfder sylweddol sy'n dal i fod gennym yma yn rhan o'r economi, ac yn rhan o'r darlun gweithgynhyrchu ehangach yn wir.
Byddaf yn cyfarfod ag aelodau o sector modurol Cymru yr wythnos nesaf yng nghynhadledd Autolink Fforwm Modurol Cymru. Rwyf wedi eu cyfarfod sawl gwaith i edrych ar heriau y mae'r sector yn eu hwynebu. Nid oeddem yn ymwybodol ymlaen llaw y byddai'r safle'n cau bron ar unwaith. Rwyf wedi cyfarfod â fy swyddogion fy hun, ac nid oedd unrhyw arwyddion cynnar. Ni chafwyd unrhyw ymgysylltiad â'r cwmni yn hirdymor na hyd yn oed yn y tymor byr ymlaen llaw; daethom yn ymwybodol o'r cau pan ddigwyddodd hynny. Felly, mae fy swyddogion wedi cynnig ymgysylltu â'r cwmni, fel y gwelwch; mae fy adran wedi ymgysylltu'n swyddogol â gwasanaeth Cymru'n Gweithio. Rwy'n hapus i rannu rhagor o wybodaeth wrth iddi ddod i law gyda'r Aelodau sydd â diddordeb.
Diolch i'r Gweinidog. Bydd Dirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon yn ateb yr ail gwestiwn. Galwaf ar Heledd Fychan.