5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
2. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai? TQ660
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn hwnnw. Rwyf wedi cynnal trafodaethau ar hawliau gweithwyr gyda swyddogion yr undeb cydnabyddedig ym Mhlas Menai, gyda Chwaraeon Cymru, a chyda Siân Gwenllian, Aelod Senedd etholaethol yr ardal leol. Mae'r cyhoeddiad ddoe gan Chwaraeon Cymru yn cadarnhau bod yn rhaid i Parkwood ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth staff, ac rwy'n dawel fy meddwl bod Chwaraeon Cymru wedi dilyn proses ymgysylltu drylwyr gyda'r staff a'r undeb.
Diolch, Dirprwy Weinidog. A minnau wedi fy magu yn Ynys Môn, dwi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Plas Menai fel adnodd a chyflogwr lleol, a braf oedd medru ymweld â Phlas Menai ychydig fisoedd yn ôl fel aelod o'r pwyllgor diwylliant a chwaraeon. Yn ystod yr ymweliad, fe wnaethom fynegi pryder am y posibilrwydd o allanoli gwasanaethau, a rhaid cyfaddef does dim o'r pryderon hynny wedi'u lleddfu ddoe na heddiw. Rhaid cyfaddef hefyd fy mod yn synnu'n fawr at gefnogaeth y Llywodraeth i allanoli gan gorff wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru sydd hefyd â dyletswyddau o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Sut mae'r newid hwn yn cyd-fynd â'r egwyddorion hynny? Yn bellach, doedd dim cyfeiriad ddoe o gwbl chwaith yn eich datganiad am yr iaith Gymraeg a phwysigrwydd Plas Menai o ran swyddi da i Gymry Cymraeg yn yr ardal, a hefyd o ran darparu hyfforddiant a chyrsiau yn ddwyieithog. Pa sicrwydd allwch chi ei roi o ran yr elfen hon? Does yna ddim profiad, o beth dwi'n ei weld, gan y rhai sydd wedi cael y cytundeb o flaenoriaethu pethau yn ddwyieithog. Gan gydnabod bod yna nifer o bryderon pellach, da fyddai gwybod hefyd beth oedd y paramedrau pendant oedd yn eich datganiad rhwng Chwaraeon Cymru a'i bartner strategol newydd a gyfeiriwyd ato gennych.
Fe fyddwch yn ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennyf ddoe fod Chwaraeon Cymru wedi cwblhau ei broses i nodi beth y maent yn ei alw'n bartner strategol ar gyfer rheoli Plas Menai yng Ngwynedd yn y dyfodol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud hynny. Rydym yn siarad am reoli'r ganolfan, rydym yn sôn am fanyleb, contract gyda Parkwood Leisure sydd â'r nod o sicrhau, diogelu ac ehangu dyfodol Plas Menai. Fel y gwyddoch, mae Plas Menai wedi cael ychydig o drafferthion dros nifer o flynyddoedd, ac mae nifer o opsiynau gwahanol wedi'u cyflwyno ynghylch sut y gallem ddiogelu a symud ymlaen o hynny. Bydd Parkwood Leisure yn dod â phrofiad helaeth, arbenigedd a hanes o lwyddiant ym maes gweithgareddau awyr agored i'r bartneriaeth hon gyda Chwaraeon Cymru, rhywbeth nad yw'n bodoli ar y safle ar hyn o bryd. Felly, rydym yn edrych ar bartneriaeth a fydd yn defnyddio ac yn manteisio ar y profiad a'r arbenigedd sydd gennym, gyda phartner a fydd â'r arbenigedd nad oes gan y ganolfan.
O ran y fanyleb a'r contract, rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid cydymffurfio â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynny wedi'i ysgrifennu yn y contract, yn ogystal â gofyniad i Parkwood Leisure gydymffurfio â strategaeth Chwaraeon Cymru ac i gydweddu â rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, ynghyd â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fel y gwyddoch, mae un o'r saith dull o weithio yn cynnwys ymrwymiad i'r Gymraeg a'i datblygiad. Mae Parkwood Leisure wedi ymrwymo'n llwyr i hynny i gyd. O ran amodau cyflogaeth y bobl sy'n gweithio yno, a oedd yn brif ystyriaeth i mi, ac i Chwaraeon Cymru, rwy'n gwybod, maent wedi cynnwys gwarant yn y contract y bydd telerau ac amodau gweithwyr Plas Menai yn cael eu gwarantu, gan gynnwys eu hawliau pensiwn, am gyfnod cyfan y contract. Maent hefyd wedi cytuno yn nhelerau'r contract na fydd gweithlu dwy haen, fel bod unrhyw staff newydd sy'n cael eu penodi ar ôl cychwyn y contract hefyd yn cael eu cyflogi ar y telerau ac amodau presennol y mae staff Plas Menai yn eu mwynhau ar hyn o bryd.
Rwyf wedi cael trafodaethau manwl gyda'r undebau lleol cydnabyddedig yn Chwaraeon Cymru. Mater i Chwaraeon Cymru wrth gwrs, fel corff hyd braich, yw trafod manylion hyn a sut y bydd yn effeithio ar eu gweithwyr, ond mae yna gydnabyddiaeth mai dyma'r ffordd orau ymlaen i'r datblygiad a goroesiad a thwf Plas Menai yn y dyfodol, sy'n bwysig. Mae'n gontract a fydd yn ceisio datblygu'r ganolfan yn gyfleuster gydol y flwyddyn, nad yw'n wir ar hyn o bryd. A chyda'r prosesau monitro sy'n mynd i fod ar waith i fonitro perfformiad y contract, ynghyd â buddsoddiad cyfalaf parhaus gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r safle, rwy'n fodlon y byddwn yn cyflawni'r contract rheoli—oherwydd dyna ydyw; bydd yn dal i fod ym mherchnogaeth Chwaraeon Cymru ac yn dal i fod ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, felly mae'n dal i fod yn gyfleuster sector cyhoeddus.
Pan ymwelais â Phlas Menai gyda'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Heledd, cefais fy synnu gan ba mor wych yw'r cyfleuster, mewn lleoliad syfrdanol, ond hefyd y potensial pellach a allai fod ganddo i ymgorffori rhagor o weithgareddau. Roedd yr arlwy'n ymddangos yn eithaf cyfyngedig o'i gymharu â chanolfannau gweithgareddau awyr agored eraill. Roeddwn yn pryderu y byddai'r cyfleuster yn cael ei roi allan i fenter breifat er elw, ond rwy'n clywed y bydd Parkwood Leisure yn ei redeg fel busnes nid-er-elw; y caiff telerau ac amodau staff eu diogelu, fel rydych newydd ei ddweud, ac roedd hynny, fel rwy'n deall, yn bryder i'r undebau a byddai'n bryder i mi; y byddent yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fel rydych newydd ei ddweud, sy'n rhoi ystyriaeth i'r Gymraeg; ac y byddant yn parhau i gyflogi pobl leol, gan greu mwy o swyddi drwy gydol y flwyddyn wrth symud ymlaen gobeithio.
Rwy'n ymwybodol fod llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi gorfod newid i wahanol fodelau gweithredu yn ystod blynyddoedd cyni, ac mae gan Parkwood Leisure brofiad eisoes o reoli rhai o'r rhain. Os gwelwch yn dda, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau hyn, a pha lwyddiant a gawsant gyda'r rheini? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn hwnnw? Mae hi'n hollol gywir, ar yr adeg hon o gyni ac o wahanol ffyrdd o wneud busnesau a chyfleusterau'n llwyddiannus, mae'n rhaid inni edrych ar wahanol fodelau. A phe baem yn byw mewn byd delfrydol, mae'n debyg na fyddem yn edrych ar y math hwn o fodel, ond nid ydym, ac felly rydym yn gwneud hynny, oherwydd yr hyn y gobeithiwn ei wneud yw sicrhau dyfodol a thwf y cyfleuster hwn. Rydych yn hollol gywir i ddweud nad preifateiddio yw hyn—y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei gyfleu i Heledd Fychan; mae Parkwood yn bartner a gomisiynwyd, ac mae'r asedau yn parhau o dan berchnogaeth Chwaraeon Cymru. Siaradais am y buddsoddiad cyfalaf parhaus y bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i'w wneud ym Mhlas Menai. Byddai contract Parkwood yn cael ei weithredu drwy eu cangen elusennol, Legacy Leisure, a hynny'n bendant iawn ar sail nid-er-elw, ac mae'r contract wedi'i lunio ar sail nid-er-elw.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud fy mod yn cadeirio grŵp trawsbleidiol undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol yn y Senedd? A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn gwrthwynebu rhoi gwasanaethau ar gontract allanol gan Lywodraeth Cymru—yn llwyr, yn ddigamsyniol yn ei wrthwynebu? Mae 'nid-er-elw' yn beth diddorol iawn, oherwydd mae llawer o lefydd 'nid-er-elw'; mae'n hawdd gweithio o gwmpas hynny, wrth gwrs, oherwydd eich bod yn talu ffioedd gwasanaethau ymgynghori, rydych chi'n talu ffioedd cymorth, rydych chi'n talu'r pris y mae'r cwmni hwnnw am ei godi am wasanaethau, felly, mewn gwirionedd, nid yw'r elw'n cael ei wneud ar y contract, mae'n cael ei wneud oddi allan i'r contract. Rwy'n siŵr fod gennym sefyllfa lle bydd amodau pobl yn cael eu diogelu o'r diwrnod cyntaf, ac rwy'n siŵr hefyd y bydd gennym ni sefydliad sy'n dweud, 'Mae angen inni wneud newidiadau i'n gwneud yn fwy effeithlon.' Yn fy mhrofiad i o breifateiddio ar unrhyw un o'i ffurfiau, bydd gweithwyr yn talu'r pris drwy newidiadau i'w telerau ac amodau. Os nad yw'r rheolwyr na'r bwrdd presennol yn gallu rhedeg canolfan awyr agored Plas Menai yn effeithiol, y camau mwyaf effeithiol fyddai disodli'r bwrdd a'r uwch reolwyr a rhoi pobl sy'n gallu gwneud hynny yn eu lle. Pam y mae'r Gweinidog yn credu y bydd rhoi'r gwaith ar gontract allanol yn darparu gwell gwasanaeth, a pham y credwch y gall y sector preifat ei wneud yn well na'r sector cyhoeddus?
Wel, yn gyntaf oll, diolch am y cwestiwn hwnnw, Mike. Yn gyntaf oll, nid wyf yn credu y gall y sector preifat wneud pethau'n well na'r sector cyhoeddus. Yr hyn yr oeddem yn ei wynebu a'r hyn yr oeddem yn ymdrin ag ef oedd sefydliad sydd wedi rhoi cynnig ar sawl opsiwn gwahanol i ddod â llwyddiant i Blas Menai, gan gynnwys dod â'u rheolwyr eu hunain i mewn, dod â staff marchnata i mewn, a chyflwyno ffyrdd eraill o weithio sydd heb gyflawni'r newidiadau hynny. Yr hyn nad ydynt wedi gallu ei wneud yw cyflwyno'r math o arbenigedd wrth ddatblygu'r cyfleuster o fewn y cyllid sydd ganddynt. Rydych chi'n hollol iawn mai'r hyn y bydd Parkwood Leisure yn ei wneud yn rhan o'r contract yw y byddant yn cael ffi am reoli'r gwasanaeth hwnnw. Felly, nid yw'r gwasanaeth yn cael ei roi ar gontract allanol, ond mae'r gwaith rheoli'n cael ei roi ar gontract allanol. Mae'r gwasanaeth yn parhau'n rhan o Chwaraeon Cymru, ac ni allaf ailadrodd hynny ddigon; mae'n parhau'n rhan o Chwaraeon Cymru. Mae'n parhau i fod yn gorff sector cyhoeddus ac yn ddarpariaeth sector cyhoeddus. Ond byddai'r elw a ddaw i'r sefydliad yn dod drwy eu ffi rheoli, a fydd, gyda llaw, gryn dipyn yn llai na chostau rhedeg Plas Menai ar hyn o bryd—tua 32 y cant yn llai na chostau rhedeg Plas Menai.
Nawr, os nad yw Parkwood yn gallu gwneud arian ar y sail honno, eu problem hwy yw hynny. Dyna y cawsant eu contractio i'w wneud. Dyna'r ffi y maent wedi dweud y gallant reoli'r sefydliad hwnnw arni, ac y gallant ddatblygu'r sefydliad yn seiliedig ar y lefel honno o ffi rheoli. Hefyd wedi'i ysgrifennu yn y contract, ac rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig, Mike—. Treuliais flynyddoedd lawer, fel y gwyddoch, yn swyddog undeb llafur, ac rwy'n gwybod yn iawn beth sy'n digwydd gyda chontractau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE) ac nad yw contractau TUPE ronyn yn fwy gwerthfawr na'r papur y maent wedi'u hysgrifennu arno ar y diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, y gwahaniaeth yma yw nad contract TUPE arferol yw hwn, lle mae'r cyflogwr newydd yn cymryd yr awenau ar y diwrnod cyntaf ac yna'n gallu cyflwyno hysbysiad i newid y telerau ac amodau. Mae telerau ac amodau gweithwyr Plas Menai yn cael eu gwarantu ar gyfer oes y contract. Nid penderfyniad Parkwood Leisure fydd unrhyw newidiadau i staffio a allai fod eu hangen ym Mhlas Menai, Chwaraeon Cymru fydd yn penderfynu hynny. Felly, mae'n gwbl amlwg fod hwn yn fath gwahanol iawn o drefniant. Dyma drefniant partneriaeth a gomisiynwyd, lle nad oes dim yn digwydd yn y sefydliad heb gytundeb Chwaraeon Cymru fel partner, gyda'r partner a gomisiynwyd, Parkwood Leisure.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.