7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol — Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 3:57, 21 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch hefyd i’m cyd-Aelodau, y Cadeirydd a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar yr adroddiad hollbwysig ac amserol hwn, ‘Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd’, yn ogystal â’r rheini a roddodd dystiolaeth ac a siaradodd gerbron y pwyllgor. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb naill ai drwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, neu eu derbyn mewn egwyddor. Gwyddom fod yr argyfwng costau byw'n effeithio ar gynifer o bobl ar draws ein cymunedau. Mae’r adroddiad hwn wedi bod yn hollbwysig o ran nodi’r bylchau yn y cymorth, a deall sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i sicrhau na chaiff unrhyw gartref ei adael ar ôl. Ac wrth inni ddechrau’r tymor hwn, edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd ar waith, a byddwn yn croesawu cynlluniau i wneud y meini prawf cymhwysedd, yn enwedig ar gyfer cymorth, yn llai cyfyngol, fel y nodir yn argymhelliad 5.

Mae llawer o bobl yn ein cymunedau angen y cymorth hwn yn ddybryd, ond nid ydynt wedi gallu cael mynediad ato. Er enghraifft, mae Marie Curie yn tynnu sylw at y ffaith bod argymhelliad 5 yn gyfle i gefnogi pobl â salwch angheuol, pobl â chanser, neu gyflyrau niwrolegol, ac sydd bellach yn wynebu tlodi tanwydd oherwydd yr argyfwng parhaus. Mae pobl sy’n marw yng Nghymru, yn ogystal â’r rheini sy’n dioddef o salwch cronig, yn treulio llawer mwy o amser a llawer mwy o arian ar wresogi eu cartrefi’n ddigonol, ac fel y canfu Marie Curie, maent yn ofnus iawn ynghylch cost gwresogi eu cartrefi wrth symud ymlaen. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y bobl hyn yn ein cymunedau yn gymwys i gael y cymorth priodol ac yn cael eu cyfeirio'n effeithiol ato.

Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3, i weithio gyda’r panel cynghori ar dlodi tanwydd i nodi camau neu fesurau uniongyrchol i fyrdymor i gefnogi teuluoedd sydd eisoes mewn tlodi tanwydd. Mae'n dorcalonnus fod rhai o'r fideos mwyaf poblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd yn awgrymu y dylai pobl ddiffodd yr holl reiddiaduron yn eich cartref a dibynnu ar flanced drydan i'ch helpu drwy'r misoedd nesaf. Mae’r pryder a’r straen ynglŷn â thalu costau tanwydd uwch ar gynnydd ar draws ein cymunedau, ac os oeddem yn credu bod unrhyw obaith y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn ac yn rhoi’r cyhoedd yn gyntaf, roeddem yn gwbl anghywir. Fel y dywedodd Martin Lewis o Money Saving Expert, bydd aelwydydd yn wynebu bil ynni nodweddiadol sy'n codi i hyd at £3,500 y flwyddyn o’r hydref hwn ymlaen, ac mae’r cymorth arfaethedig presennol gan Lywodraeth y DU yn druenus o annigonol.

Mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu polisi Plaid Lafur y DU o gael cap ar brisiau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod galwadau i godi treth ffawdelw ar y cwmnïau sy’n parhau i bocedu elw aruthrol o’r argyfwng. Amcangyfrifir y bydd yn costio £150 biliwn rhwng nawr a 2024, a fydd yn dod o fenthyca. Felly, bydd yn rhaid inni ei dalu’n ôl rywsut, na fydd ond yn gohirio'r broblem yn y bôn, a’r gost i’r cyhoedd.

Ond hefyd, £2,500 fydd y cap, gyda phawb yn derbyn £400 dros y chwe mis nesaf. Yn ôl fy nghyfrifiadau i, mae hynny’n dal i fod o leiaf £600 yn fyr o’r £3,500 a amcangyfrifwyd. O ble y mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i hwn ddod? Dywed trigolion yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl wrthyf y bydd yn amhosibl iddynt ei dalu, gyda phrisiau bwyd, tanwydd ac ynni yn codi tra bo llawer o gyflogau'n aros yr un fath.

Yn ffodus, unwaith eto, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn na wnaiff Llywodraeth y DU, ac yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Gwelwn hynny mewn sawl argymhelliad ac ymateb gan Lywodraeth Cymru yn ei hymateb i’n hadroddiad—sy’n canolbwyntio ar gydweithio a phartneriaeth rhwng awdurdodau lleol, gan gynnwys sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar gynllun cymorth tanwydd Cymru, lle gall trigolion hawlio taliad untro o £200 drwy eu hawdurdod lleol i sicrhau y gallant dalu eu bil tanwydd, yn ogystal â thalebau tanwydd a chronfa wres i bobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw sy’n wynebu caledi.

Clywsom hefyd gan ein Prif Weinidog ddoe y bydd £1 filiwn ar gael i ganolfannau cymunedol, clybiau chwaraeon a grwpiau eraill i ddarparu banciau cynhesu i helpu tuag at eu costau tanwydd, wrth iddynt ddarparu mannau cynnes a chroesawgar i bobl barhau i ymgynnull. Dim ond drwy ddeall profiadau byw pobl o'r argyfwng hwn y gallwn sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei roi, a chredaf ein bod wedi gwneud ein gorau i gyfleu eu lleisiau yn ein hadroddiad. Ond mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau yn awr fod y bobl sydd angen cymorth yn gwybod ble a phryd y gallant gael mynediad ato, ac i sicrhau bod y cymorth mor hygyrch â phosibl i'r bobl sydd ei angen.