Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 21 Medi 2022.
Canfu adroddiad y pwyllgor fod rhaglen Cartrefi Clyd gwerth £360 miliwn Llywodraeth Cymru yn ddiffygiol o ran ei graddfa, ei maint a'i diben. Mae hyn yn destun pryder difrifol, fel y mae canfyddiad yr adroddiad y disgwylir y bydd y newidiadau syfrdanol i’r farchnad ynni yn ystod y flwyddyn hon yn taro’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru yn galetach nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU, yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 21 o argymhellion yr adroddiad, mae'n destun pryder ei bod wedi derbyn y ddau arall mewn egwyddor yn unig. Fel y dywedais yn y Siambr hon yr hydref diwethaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, barn gyfunol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yw na ddylid defnyddio 'derbyn mewn egwyddor' mewn ymateb i adroddiadau pwyllgor eto, a rhaid derbyn neu wrthod argymhellion. Lle mae angen gwneud rhagor o waith i weithredu argymhelliad, neu os na ellir gweithredu o fewn terfyn amser penodol, dylid nodi hyn yn glir ym manylion yr ymateb.
Ar wahân i hynny, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, rwyf hefyd yn ymwybodol o bryderon yng Nghynghrair Tlodi Tanwydd Cymru ynghylch ymatebion Llywodraeth Cymru i rai o’r argymhellion y mae wedi’u derbyn. Fel y dywedodd NEA Cymru yn ei gyflwyniad i ymgynghoriad y pwyllgor,
'nid yw’r cynlluniau presennol yn ddigonol i fynd i’r afael â graddau tlodi tanwydd yng Nghymru heb sôn am ddatgarboneiddio cartrefi. Mae nawr yn adeg hollbwysig i ystyried pa mor bell y mae’r rhaglen bresennol wedi mynd â ni, ac achub ar y cyfle wrth symud ymlaen i ddarparu cymorth gwarantedig i’r 'gwaethaf yn gyntaf'—hynny yw, y rhai ar yr incwm isaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon—gan wella bywydau aelwydydd tlawd o ran tanwydd wrth i ni ddatgarboneiddio ac uwchraddio effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.'
Roeddent yn dweud bod
'Effeithlonrwydd ynni gwael yn un o'r prif resymau dros dlodi tanwydd a bod mwy nag 80 y cant o’r aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn byw mewn cartrefi aneffeithlon; nifer uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU.'
Roeddent yn dweud bod
'Effaith ganlyniadol tai o ansawdd gwael ar wasanaethau iechyd yn ddifrifol ac yn costio tua £95 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mewn cyferbyniad, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pob £1 sy’n cael ei gwario ar wella cynhesrwydd mewn aelwydydd agored i niwed yn arwain at £4 o fanteision iechyd, a gallai fod bron i 40 y cant yn llai o dderbyniadau i'r ysbyty yn achos rhai afiechydon sy’n gysylltiedig ag oerfel ymhlith pobl y mae eu cartrefi wedi’u huwchraddio. Mae'r arbediad blynyddol cyfartalog ar gyfer uwchraddio cartref i lefel resymol o effeithlonrwydd ynni dros £300 y flwyddyn, a dros £1,000 yn achos yr aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon.'
Daethant i'r casgliad fod yn rhaid cael cyllid digonol i fynd i'r afael â'r broblem. Dylid gwario’r cyllid hwn ar sail 'adeiledd yn gyntaf', gan weithio ar effeithlonrwydd ynni’r amgylchedd adeiledig i wneud cartrefi yn sero net cyn neu ar yr un pryd â gwneud newidiadau i’r system wresogi mewn cartref; mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth a darparu cyngor digonol wrth gyflwyno’r rhaglen; rhaid sicrhau hefyd fod gan aelwydydd hyder y bydd y newidiadau a wneir i’w cartrefi o ansawdd da, wedi’u cefnogi gan fynediad at gamau unioni digonol. Yn olaf, er mwyn sicrhau hyder, rhaid cael tryloywder yng nghynlluniau’r Llywodraeth.
Fel y maent hwy a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn ei ddweud, mae’n hanfodol fod y fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd yn canolbwyntio ar godi aelwydydd allan o dlodi tanwydd, gan gefnogi’r rhai gwaethaf yn gyntaf—hynny yw, y rhai ar yr incwm isaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon—a’i fod yn cael ei gefnogi gan ddigon o gyllid hirdymor a deddfwriaeth i gyrraedd targedau a osodwyd yng nghynllun trechu tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Mewn perthynas â chyllid, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad y dylai nodi’r cyllid sydd ei angen i ymateb drwy adolygu digonolrwydd ei dyraniadau gwariant ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn tai, maent yn dweud nad yw’r ymateb ynglŷn â hyn yn ymrwymol, a bod angen y buddsoddiad a’r cyllid hwnnw i gyrraedd targedau tlodi tanwydd. Yn gyffredinol, maent yn datgan mai’r peth allweddol yw rhaglen Cartrefi Clyd i godi aelwydydd allan o dlodi tanwydd, gan godi’r gwaethaf yn gyntaf.
Ac fel y dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad fis Tachwedd diwethaf ar reolaeth Llywodraeth Cymru o raglen bresennol Cartrefi Clyd,
‘Wrth edrych ar unrhyw gynllun dilynol ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd, mae gan Lywodraeth Cymru sawl mater i'w ddatrys. Mae'r rhain yn cynnwys ailfeddwl am y mesurau effeithlonrwydd ynni a gynigir, bod yn gliriach am ddiben craidd y Rhaglen a thynhau contractau yn y dyfodol i alinio costau ac i gymell gwell gwerth am arian.’