Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch i'r pwyllgor am ei waith. Dwi’n croesawu’r adroddiad ac mae o’n ategu llawer iawn o beth dwi wedi’i glywed. Yn wahanol i’r pwyllgor, fedraf i ddim siarad ar ran gweddill Cymru, ond mi fedraf i siarad ar ran fy etholaeth i, a’r rhwystredigaeth a gafwyd wrth geisio gweithredu rhai o’r cynlluniau, ac wrth gwrs y gwersi sydd i’w dysgu.
Dwi am ganolbwyntio ar rai o’r gwersi o un profiad yn Nwyfor Meirionnydd. Ystyriwch bentref Tanygrisiau ym mro Ffestiniog. Mae Tanygrisiau yn dioddef y lefel waethaf o dlodi tanwydd yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae ymhlith y lefel isaf o incwm—ac maen nhw off gas. Roedd fy rhagflaenydd, Dafydd Elis-Thomas, wedi bod yn brwydro i gael datrysiad i broblemau gwres tai Tanygrisiau ers iddo gael ei ethol nôl ym 1974. Tua dwy flynedd yn ôl, daeth Arbed am Byth i Danygrisiau, ond yn ôl yr hyn dwi wedi’i glywed, ni ellir galw’r cynllun yn un llwyddiannus yno.
Rhoddwyd y cytundeb i gwmni o’r Alban. Roedd y cwmni yna i fod yn partneru efo sefydliad lleol, y Dref Werdd—sefydliad sydd yn adnabod ei bro, ac wedi bod yn brwydro i ddatrys tlodi tanwydd ym mro Ffestiniog. Ond, chafwyd ddim trafodaeth o gwbl rhwng y cwmni yma a’r Dref Werdd, er mai’r Dref Werdd oedd y partneriaid llawr gwlad. Rhaid, felly, dysgu’r wers o sicrhau bod yna fewnbwn lleol wrth ddatblygu’r gwaith.
Do, aeth y cytundeb ariannol i gwmni o’r Alban, ond gwirfoddolwyr y Dref Werdd oedd wedi gorfod mynd ati i farchnata a hysbysebu’r cynlluniau, o’u gwirfodd. Doedd ganddyn nhw ddim dealltwriaeth—y cwmni, hynny yw—o’r ardal, heb sôn am dopograffeg yr ardal. Roedden nhw wedi meddwl y medran nhw gyflwyno pibelli nwy ar gyfer rhai o’r tai er mwyn cyrraedd eu targedau, ond mae yna reswm pam nad oes yna bibelli nwy yn yr ardal hynny—a hynny oherwydd fod yna garreg ithfaen drwchus o dan y ddaear. Pe byddan nhw wedi trafod efo pobl ar lawr gwlad ymlaen llaw, yna mi fyddan nhw wedi gwybod am hynny, ac wedi addasu eu cynlluniau.
Yn y diwedd, cafwyd 41 panel PV. Mae hynny’n gam ymlaen, wrth gwrs. Ond rhoddwyd ddim yr un cyfarwyddyd ar sut i gael y gorau o’r paneli yma i’r trigolion lleol, ac mae’n gwbl annigonol i ddatrys y tlodi tanwydd sydd yn bodoli yn yr ardal. Efo Nyth, aethpwyd ati i ffeindio problemau mwyaf brawychus yn y tai, a’u datrys, ond ni wnaed y gwaith angenrheidiol eraill. Felly, er enghraifft, os oedd angen boeler newydd, yna rhoddwyd y boeler i mewn, ond nid aethpwyd ati i insiwleiddio'r tŷ hefyd, yn union fel ddaru Jenny Rathbone esbonio ar gychwyn y drafodaeth.
Un peth, os caf fod mor hy, mae'r adroddiad wedi ei fethu ydy'r ffaith fod yna raglenni cyffelyb hefyd yn cael eu gweithredu o du San Steffan, megis cynllun ECO. Mae yna achlysuron pan yw cynlluniau Llywodraeth Cymru a rhai Llywodraeth San Steffan yn cydredeg, yn mynd yn gyfochrog i'w gilydd, ac yn gwrthdaro. I'r person cyffredin ar lawr gwlad, dydy o'n gwneud dim synnwyr fod y rhaglenni yma'n cystadlu â'i gilydd, a dydyn nhw ddim yn deall pam nad oes posib i'r cynlluniau yma gydweithio. Felly, mi fuaswn i hefyd yn awgrymu fod unrhyw gynlluniau newydd gan y Llywodraeth yn edrych i weld beth arall sydd yn cael ei weithredu, ac os oes posib cydblethu'r gwaith er mwyn cael y mwyaf allan ohonyn nhw.
Mae argymhelliad 6 fod angen i'r rhaglen nesaf fod yn fwy uchelgeisiol, i bob pwrpas, hefyd yn un hollol gywir, a dylid ei dderbyn. Ac fel y dywedodd Sioned Williams, does dim yn agos i'r faint o bres sydd angen arnom ni wedi ei fuddsoddi hyd yma. Mae e'n awgrymu nad ydy'r Llywodraeth yn gwerthfawrogi'n llawn maint yr her o'u blaenau nhw. Mae'n stoc dai ni yng Ngwynedd ymhlith yr hynaf yn Ewrop, efo nifer o adeiladau cofrestredig, ac hefyd yn y parc cenedlaethol. Beth mae'r Llywodraeth am ei wneud i sicrhau fod yr adeiladau yma am fedru manteisio ar unrhyw gynllun newydd yn y dyfodol?
Gobeithio, efo hynny o eiriau, y bydd y gwersi yma yn cael eu dysgu wrth i'r Llywodraeth symud ymlaen i ddatblygu eu cynlluniau newydd.