Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 27 Medi 2022.
Wel, wrth gwrs, dydyn ni ddim eisiau i neb fod yn aros am gyfnodau maith o amser. Os ydych chi mewn poen a bod angen llawdriniaeth arnoch chi, yna yn amlwg rydym ni eisiau cael y llawdriniaeth honno a'r triniaethau hynny cyn gynted â phosib. Byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi cyllid sylweddol i mewn i'r GIG, ac mae'n cynnwys bwrdd iechyd y gogledd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i geisio dod â'r niferoedd hynny i lawr a rhoi trefn ar yr ôl-groniad hefyd. Ond, yn anffodus, bydd llawer o'r cyllid hwnnw yn cael ei wario ar yr argyfwng ynni nawr.