Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, yr wythnos ddiwethaf cawsom ni'r amseroedd aros wedi'u cyhoeddi ar gyfer y GIG yng Nghymru. Yn y gogledd, a chi yw'r Gweinidog sy'n uniongyrchol gyfrifol amdano, mae 15,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth. A wnewch chi ymddiheuro i'r 15,000 o bobl hynny sy'n aros am amseroedd mor hir ar GIG Cymru?